Ophelia Dos Santos: Trafod treftadaeth mewn tecstiliau

Ophelia Dos SantosFfynhonnell y llun, Ophelia Dos Santos
  • Cyhoeddwyd

"Mae tecstiliau yn ddiddorol; mae'n cael ei gysylltu gyda hen ferched a meddalwch... Ond gall e fod yn ffordd o gael sgyrsiau anodd, a dwi'n hoffi'r syniad fod fy actifiaeth bron yn subtle."

Mae'r artist tecstiliau o Gaerdydd, Ophelia Dos Santos, yn mwynhau defnyddio ei dwylo i grefftio gweithiau hardd gyda deunyddiau.

Ond mae neges bwysig i'w chelf hefyd, ac mae hi'n mwynhau pwytho straeon am dreftadaeth a chymuned i mewn i bob eitem.

Gwaith Ophelia Dos SantosFfynhonnell y llun, Ophelia Dos Santos

Yn ardal Caerdydd y cafodd Ophelia ei geni a'i magu, i deulu â gwreiddiau Portiwgeaidd a Gorllewin Affricanaidd.

Mae hi'n gweithio o'i stiwdio yng nghynefin ein thad-cu ym Mae Caerdydd, ac yno mae hi'n cael ei dylanwadu gan y gymuned o'i chwmpas; cymuned sydd wedi bod yno ers degawdau, sy'n gymysgwch o ddiwylliannau, ieithoedd a chefndiroedd.

"Roedd rhieni fy nhad-cu o Cabo Verde yng Ngorllewin Affrica. Roedd e'n forwr ac wedi teithio'r byd, ond ddywedodd e bod 'na rywbeth wastad yn ei dynnu'n ôl i Fae Caerdydd.

"Ond beth ddaeth â phobl i Gaerdydd? Wrth i chi edrych i mewn i hynny, ti'n deall pam fod Caerdydd fel mae e; daeth yr allforio glo a haearn â swyddi a phobl o genedligrwydd a hunaniaethau gwahanol.

"Dyna pam fod gan y lle yma gefndir mor gyfoethog, amrywiol a diwylliannol, a'r holl ieithoedd a chrefyddau gwahanol, a sut bod y diwylliannau yma mor wahanol, ond daethon nhw i gyd yn gymuned. Cymunedau sydd wedi dod at ei gilydd."

Colli cymuned

Mae'r syniad yma o berthyn i gymuned a threftadaeth yn themâu cyson yn ei gwaith, a'i bwriad hi yw i adrodd a diogelu straeon amdanyn nhw, gan amlygu cyfraniad diwylliannau gwahanol ar Gymru, meddai.

Ond beth sy'n digwydd pan mae cymunedau yn cael eu rhwygo? Dyna sydd tu ôl i un o'i gweithiau diweddar mwyaf trawiadol, Saudade – gair Portiwgeeg sy'n golygu rhywbeth tebyg i 'hiraeth'.

"Roedd y clytwaith yma yn dangos colli cymuned, y newid yn y tirwedd, a hiraeth am rywbeth sydd wedi newid – gall hynny edrych yn wahanol i bobl wahanol.

"Mae'r gymuned ym Mae Caerdydd wedi newid gymaint dros y blynyddoedd achos natur y diwydiant a beth oedd yn digwydd ac o lle roedd yr arian yn dod. Gadawodd fy nhad-cu Fae Caerdydd a chael ei ail-gartrefu yn Fairwater achos fod ei gartref wedi ei ddymchwel, ond roedd e dal yn dod i lawr 'ma mor aml â phosib.

"Ar y clytwaith, mae 'na ddwylo a wynebau. Dwi'n meddwl fod wynebau yn ddolen uniongyrchol rhwng hunaniaeth a chymuned, ac mae dwylo yn gallu adlewyrchu gafael dwylo a rhannu sgiliau, a dod ynghyd fel cymuned.

"Dyna sut roedd y gymuned wedi dod at ei gilydd, ac aros gyda'i gilydd, hyd yn oed drwy adegau pan roedd eu cartrefi yn cael eu dymchwel.

"Mae'n adlewyrchiad o'r tristwch fod y tai wedi diflannu, a ffrindiau wedi eu hail-leoli, a siopau a chorfforaethau newydd a phethau sydd heb gysylltiadau â'r gymuned."

Saudade gan Ophelia Dos SantosFfynhonnell y llun, Ophelia Dos Santos
Disgrifiad o’r llun,

Saudade

Ynghyd â cheisio herio ei chynulleidfa i ystyried beth sydd tu ôl i'w gweithiau, mae Ophelia hefyd yn gwneud hynny drwy'r ffotograffau sydd yn cael eu cymryd o'i gwaith, fel sut y dewisodd bortreadu Saudade, drwy ei roi fel rhan o'r wisg Gymreig, eglurai.

"Roedd hwn i 'sbarduno sgwrs am Gymreictod, neu efallai i darfu ar y syniad o hunaniaeth Gymreig, ac yn enwedig cael dynes du i wisgo'r het.

"Mae'r wisg Gymreig draddodiadol mor eiconig, ac yn symbol o dreftadaeth a hunaniaeth genedlaethol. Mae'r straeon yn y clytwaith yn eitha' cysylltiedig, o ran sut mae pobl yn teimlo fel eu bod yn rhan o gymuned yng Nghymru.

"Mae teulu Dos Santos wedi bod yma ers dros 100 mlynedd, ond ti dal yn cael pobl yn holi 'o lle wyt ti'n dod'?

"Mae gweld pobl ddu a brown drwy lens Gymreig yn bwysig iawn, a dydi hi ddim ots pa mor hir mae dy deulu wedi bod yma, ddylet ti allu ystyried dy hun yn Gymreig."

'Dweud straeon drwy decstiliau'

Roedd hi bron yn anochel fod Ophelia am wneud gwaith â'i dwylo, meddai, â'i thad-cu yn saer coed a'i thad yn saer maen.

Yn hen weithdy ei thad-cu ym Mae Caerdydd mae hi'n gweithio heddiw, ond gyda sgrapiau o ffabrig ail-law a nodwydd, yn hytrach na phren a morthwyl.

"Mae 'na lawer o resymau dros garu tecstiliau. Dwi'n meddwl ei fod e ychydig mwy diddorol na phaentiad neu lun fflat; mae ychwanegu gwead yn dod â phethau yn fyw. Ti'n gallu dweud straeon drwy decstiliau drwy luniau, tapestries, lliwiau, dyluniadau.

"Alla i fynd i unrhyw le yn y byd, ac mae 'na ryw fath o stori am fod am decstiliau; diwylliant a hanes. Mae'n ffordd o gyfathrebu heb eiriau."

Gwaith Ophelia Dos SantosFfynhonnell y llun, Ophelia Dos Santos

Efallai mai creu gweithiau celf mae Ophelia, ond mae yna bob amser stori tu ôl i'r darn sydd angen ei hadrodd ac iddi hi, tecstiliau yw'r cyfrwng perffaith.

"Mae tecstiliau yn ddiddorol; mae'n cael ei gysylltu gyda hen ferched a meddalwch, a gall e fod yn grefft non-confrontational. Ond gall e fod yn ffordd o gael sgyrsiau anodd, a dwi'n hoffi'r syniad fod fy actifiaeth bron yn subtle.

"Dwi'n meddwl ei fod e am annog chwilfrydedd – a dim sgrechian ar bobl 'ddylen ni ddim gwneud hyn! Ti'n anghywir!'.

"Dwi'n meddwl ei fod e mwy am ddatgloi stori, gobeithio."

Pynciau cysylltiedig