Gemau fideo'n rhoi llwyfan i ddiwylliant Cymraeg

Aaron Elias
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro sydd bellach yn byw yn nhalaith Texas wedi creu gwefan sy'n dathlu cysylltiadau Cymreig o fewn gemau fideo.
Yn ogystal â chofnodi defnydd o'r Gymraeg a chyfeiriadau amrywiol at Gymru o fewn gemau, mae blog Wales in Games , dolen allanolhefyd yn rhoi llwyfan i'r Cymry sy'n gweithio yn y diwydiant.
Fe wnaeth Cymru Fyw holi Aaron Elias, sylfaenydd y wefan, er mwyn dysgu mwy.
O le daeth dy ddiddordeb mewn gemau fideo?
Fe ges i fy ngeni a fy magu yng ngogledd Cymru, yn agos i'r arfordir ac er i mi symud i Texas y llynedd rwy'n teimlo'n ffodus mai Cymro ydw i.
Tra'n tyfu i fyny yng ngogledd Cymru, ro'n i allan yn chwarae pêl-droed bob penwythnos ond chwarae gemau fideo oedd fy hoff beth i'w wneud ar ddiwrnodau oer a gwlyb. Daw hynny ar ôl gwylio fy nhad yn chwarae gemau Nintendo, ac ar ôl prynu consol fy hun fe dyfodd fy niddordeb innau.
Mae gemau fideo'n caniatau i chi ymgolli mewn byd arall, a'r gwahaniaeth rhwng chwarae gêm fideo i ddarllen llyfr neu gwylio ffilm ydy bod ganddoch chi reolaeth dros gymeriad neu sefyllfa, felly mae'n brofiad fwy personol.
Pan ddaeth gemau 3D allan fel The Legend of Zelda: Ocarina of Time a Final Fantasy VII, dyna pryd y tyfodd fy niddordeb ymhellach ar eu gallu i ddweud stori a chreu bydoedd ffantasi.
Pam y dechreuaist gofnodi cyfeiriadau at Gymru mewn gemau?
Mae dogfennu cyfeiriadau Cymreig mewn gemau fideo wedi bod yn uchelgais gen i ers blynyddoedd a roeddwn i wastad yn cadw golwg am gyfeiriadau ond ym mis Tachwedd 2023 fe wnes i benderfynu gwneud rhywbeth am y peth a lansio gwefan Wales in Games.
Fel Cymro i'r carn sydd eisiau i ddiwylliant Cymraeg gael llwyfan, ro'n i eisiau amlygu dylanwad Cymru, y Gymraeg, a mytholeg Gymreig ar fyd gemau fideo. Rwy'n gobeithio fy mod yn hyrwyddo defnydd gwych o ddiwylliant Cymreig mewn gemau ac y bydd yn ysbrydoli mwy o gemau i gynnwys elfennau Cymreig.
Hefyd mae pawb eisiau cael eu cynrychioli yn eu diddordebau, ac mae Cymry sy'n mwynhau gemau fideo yn haeddu cael eu cynrychioli wrth chwarae gemau.
Mae pethau'n symud yn y cyfeiriad cywir, gydag enghreifftiau o gymeriadau a lleoliadau Cymreig a defnydd o'r iaith Gymraeg yn rhoi profiad personol i chwaraewyr o Gymru.
Pa gemau sy'n cynnwys y Gymraeg?
Yn y blynyddoedd diwethaf mae mwy o gemau'n rhoi llwyfan i'r iaith Gymraeg sy'n anhygoel i'w wylio a'i glywed. Un esiampl yw gêm Assassin's Creed: Valhalla, sy'n cymryd lle yn ystod goresgyniadau'r Llychlynwyr ym Mhrydain yn y 9fed ganrif.
Mae'r gêm yn cynnwys cymeriadau hanesyddol fel Rhodri Fawr sy'n siarad Hen Gymraeg er mwyn cynrychioli'r iaith yn y cyfnod yma.
Mae'r gêm arswyd Withering Rooms wedi ei lleoli yn sir Fynwy ddiwedd y 19 ganrif ac mae'n cynnwys sombis sy'n dweud ymadroddion Cymraeg tra'n ymosod y prif gymeriad. Mae lleoliadau'n y gêm gydag enwau Cymraeg ac mae posteri gydag ysgrifen Cymraeg i'w gweld ar waliau'r plasdy.
Mae'n chwa o awyr iach i weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mor naturiol yn y gêm.

Ro'n i wrth fy modd hefyd yn gweld a chlywed Boudicca yn siarad Cymraeg yn Sid Meier's Civilization V.
Rydym yn adnabod Boudicca fel Buddug yn Gymraeg ac fe frwydrodd hi'n erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig yn y ganrif gyntaf.
Er mai methu wnaeth Buddug, daeth yn arwres am ei dewrder ac yn Civilization V mae'r actores a'r Gymraes Sian Reese-Williams yn ei lleisio'n Gymraeg oherwydd mai'r Gymraeg yw'r iaith debycaf i'r iaith Frythonaidd fyddai Buddug wedi ei siarad.
Does dim llawer o enghreifftiau o gemau'n cael eu lleisio'n gyfan-gwbl yn Gymraeg ond mae Master Reboot gan Wales Interactive yn gwneud defnydd helaeth.
Gallwch ddewis deialog Gymraeg ar gyfer gêm gyfan. Yn anffodus does dim opsiwn am isdeitlau Saesneg i siaradwyr di-Gymraeg ond i siaradwyr Cymraeg, mae'n gêm y dylech ei chwarae.

Pa gyfeiriadau annisgwyl at Gymru wyt ti wedi eu darganfod?
Roedd yn syndod i ganfod cyfeiriad Cymreig yn y gêm arswyd, Koudelka, teitl PlayStation a ryddhawyd yn Ewrop yn 2000.
Fe aeth Hiroki Kikuta, dyfeisydd y gêm a'i dîm datblygu o Japan i Sir Benfro ar daith ymchwil, ac ar ôl cael eu hysbrydoli gan y lle a'r awyrgylch, fe benderfynon nhw osod y gêm yng Nghymru gan ddewis Aberystwyth fel lleoliad.
Tyddewi sydd wedi ysbrydoli'r mynachlog yn y gêm ac fe roddwyd cefndir Cymraeg i'r prif gymeriad Koudelka Iasant, a gafodd ei eni yn Abergynolwyn!
Mae plot Koudelka yn cylchdroi o amgylch pair y dadeni sy'n adlais o chwedl Branwen ferch Llŷr yn Y Mabinogion.
Er fod llais actor Americanaidd yn tynnu oddi ar 'y profiad Cymreig' wrth chwarae'r gêm, wnes i ryfeddu bod Cymru wedi cael gymaint o ddylanwad ar gêm a gafodd ei datblygu'n Japan.

Mae Tyddewi wedi ysbrydoli'r gêm Koudelka
Pam fod chwedlau'r Mabinogi yn ysbrydoli datblygwyr gemau?
Straeon o'r Mabinogion yw rhai o straeon hynaf Prydain, mae ganddynt ystyron cymhleth sy'n gallu cael eu dehongli ar sawl lefel. Mae yna straeon rhyfedd a rhyfeddol gyda chewri, peiriau hud, anifeiliaid sy'n siarad a phob math o greaduriaid.
Mae'r straeon yma'n benthyg eu hunain mor rhwydd i greu gemau fideo, lle gall sgwennwr ddefnyddio elfennau neu gymeriadau fel cynhwysion i greu eu straeon mytholegol eu hunain.

Mae chwedlau'r Mabinogion wedi ysbrydoli'r datblygwr gemau Stevan Anastasoff
- Cyhoeddwyd21 Awst 2024
Mae AI yn bwnc llosg ar hyn o bryd. Yw'n cael effaith ar ddatblygwyr gemau fideo?
Rydym mewn cyfnod dyrys ar hyn o bryd wrth ystyried sut mae AI yn cael ei ddefnyddio mewn gemau fideo.
Mae yna gwmnïau mawr sydd yn dymuno defnyddio AI i greu celf, ysgrifennu sgriptiau a dweud deialog mewn gemau fideo.
Y broblem yw bod llawer o feddalwedd AI sy'n cael ei ddefnyddio yn hyfforddi ei hun drwy ddefnyddio gwaith creadigol pobl eraill heb yn wybod iddyn nhw a heb gytundeb, sy'n ladrata.
Mae'n boen meddwl i actorion llais, y bobl hynny sy'n dod â chymeriadau'n fyw mewn gêm, bod eu proffesiwn yn cael ei fygwth gan AI sy'n copïo eu lleisiau.
Dim ots pa mor dda gall AI fod, nid yw'n foesol gywir i ddwyn gwaith caled pobl eraill.
Mae AI yn parhau i esblygu, felly fe gawn ni weld i ba raddau y bydd yn cael ei ddefnyddio mewn gemau fideo, ond fy nheimlad i ydy na ddylai gael ei ddefnyddio yn lle artistiaid, sgwennwyr neu actorion llais. Mae ein gemau a'n adloniant yn well wrth uno gwaith creadigol pobl.
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
Pa rôl sydd gan gemau fideo wrth hybu a chynrychioli Cymru ar draws y byd?
Mae llawer o Gymry'n angerddol iawn am eu gwlad a'u diwylliant ond mae llawer ohonom wedi cael profiadau gyda phobl tu allan i Brydain sydd heb glywed am Gymru, sy'n rhwystredig iawn. Felly pan rydyn ni'n cael ein cydnabod mewn adloniant fel gemau fideo, rydyn ni wrth ein boddau. Rydyn ni eisiau rhannu ein cariad tuag at Gymru gyda'r byd a ddim eisiau cael ein anghofio.
Mae gemau fideo'n gyfle euraidd i ddangos beth rydyn ni'n ei garu am Gymru, ac mae hyd yn oed yn fwy arbennig pan mae pobl tu allan i Gymru yn cael eu hysbrydoli i leoli eu gemau yma.
O'i wneud yn iawn, gall gemau fideo fod yn ffordd wych i addysgu pobl am Gymru a'i diwylliant, a chyflwyno darn bach o hanes i bobl sydd o dras Cymreig ond sy'n byw ymhell.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023