Lluniau: Sadwrn Barlys Aberteifi

Prif bencampwr Sadwrn Barlys, Angus y ceffyl gwedd, yn yr orymdaith trwy stryd fawr Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Ers 1871, mae hi'n ddiwrnod gŵyl yn Aberteifi ar ddydd Sadwrn olaf Ebrill. Dyma ddiwrnod Sadwrn Barlys Aberteifi.
Dyma'r diwrnod pan y byddai ffermwyr y cylch yn dod i'r dref i gyflogi gweithwyr ac archwilio meirch ar gyfer eu magu; dyma'r dydd i ddatgan bod y tir wedi'i baratoi, yr hadau'n y pridd a chyfle i'r gweision ddathlu hynny.
Erbyn hyn, mae'n ddiwrnod sy'n llawn bwrlwm gyda'r strydoedd ar gau ar gyfer gorymdaith geffylau a hen beiriannau.
Roedd Sadwrn Barlys Aberteifi eleni ar 26 Ebrill. Dyma luniau o'r diwrnod.

Stalwyn dros 4 oed yn cael eu beirniadu

Jac, 12 oed, gyda'i Ferlyn Mynydd Cymreig a gipiodd y drydedd safle

Y merlod Shetland yn ddigon o sioe

Tractor Vintage Nuffield 460 gyda'i berchennog balch, Wyn Griffiths

Tywys y Cobiau lliw i'r cae er mwyn cael eu beirniadu

Digwyddiad anarferol ym mharêd y Sadwrn Barlys yw gweld perchennog yn reidio ei geffyl ond roedd y dorf wrth eu boddau

Fe gafodd Jasper y mul Ddydd Sadwrn Barlys i'w gofio

Rhai o'r ceffylau gwedd gosgeiddig oedd i'w gweld yn ystod yr orymdaith drwy'r dref

Tractor Vintage John Deere a'i berchennog, Jack Vaughan

Gorymdaith Stalwyn Adran C dros 4 oed

Enillydd Ebol Adran A o dan 3 oed, diwrnod mawr i'r ebol ifanc

Beirniadu Ebol Adran D o dan 3 oed

Beirniadu Stalwyn Adran C dros 4 oed

Dai Rees yn gyrru ei Vintage Ford 3000 trwy'r stryd fawr
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd20 Ebrill
- Cyhoeddwyd16 Ebrill