Carwyn Eckley: 'Mae'n amser da i ddechrau barddoni'
- Cyhoeddwyd
"Dwi ddim wastad wedi ystyried fy hun yn fardd, chwarae efo geiriau oeddwn i a dwi wedi gorfod treulio llwyth o oriau yn naddu'r grefft."
Dyna eiriau Carwyn Eckley, cwta bythefnos ers iddo godi ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf pan gadeiriwyd ef yn Brifardd yr Eisteddfod.
Yn 28 oed, mae'n un o'r ychydig rai dan 30 sydd wedi ennill cadair y Brifwyl, ond doedd ddim wastad yn ystyried ei hun fel bardd.
Yn ei gyfweliad cyntaf fel Prifardd, dyma eistedd i lawr gyda Carwyn Eckley i drafod sut wnaeth ddechrau cynganeddu heb unrhyw brofiad blaenorol a beth sy'n ei ysbarduno fel bardd?
'Cynganeddu yn y Coleg'
Doedd magwraeth Carwyn ddim yn cynnwys llawer o farddoniaeth ac mi ddaeth ei ddiddordeb i ddechrau cynganeddu yn y Brifysgol.
"Ro'n i'n mwynhau gwersi sgwennu creadigol Eurig Salisbury ac yn ei hoffi o fel unigolyn.
"Ro'n i'n gwybod fod Eurig yn gynganeddwr tan gamp a dwi wedi gweithio'n galed ar y gamp ers hynny.
"Dwnim faint o e-byst dwi wedi eu hanfon at Eurig yn y gorffennol yn gofyn iddo edrych ar ryw englyn i mi.
"Dwi wedi sgwennu nifer o linellau llac a gwael iawn er mwyn cael gwared ar y rheiny a gwella, mae rhaid sgwennu cannoedd o linellau gwael cyn bo rhywun yn cyrraedd y safon," meddai.
Wrth edrych yn ôl, mae'n ddiolchgar iawn o'r gwersi Cymraeg yn ei ysgol uwchradd yn Nyffryn Nantlle, ond yn gyffredinol, meddai, mae'n "anffodus weithiau sut mae'r gynghanedd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion."
Yn ôl Carwyn, mae'n bwysig iawn i bobl beidio cael eu camarwain i feddwl fod cynganeddu yn rhywbeth eithriadol o gymhleth.
"Mae'n cael ei gyflwyno fel mathemateg, ac er bod 'na wedd fformaleig i'r peth, mae'n lot haws dwi'n meddwl na'r ffordd mae'n cael ei ddysgu yn yr ysgol.
"Pan mae rhywun yn yr ysgol ac yn clywed termau fel croes o gyswllt neu groes gytbwys ddiacen, tydi hynny ddim yn golygu dim byd, i ryw raddau dyw hynny dal ddim yn golygu llawer i mi heddiw.
"Be' sydd yn golygu rhywbeth yw beth nes i ddysgu gan Eurig, i gynganeddu geiriau a ffeindio lle mae'r acen mewn brawddeg a lle mae'r acen neu'r pwyslais ar air penodol.
"Wedyn yn y bôn, dyna pa mor syml ydi o, a gneud yr un peth yn yr ail ran, dyna'r oll ydi o."
Cerddi dealladwy
Mae cerddi Carwyn yn aml yn cael eu canmol am fod yn "ddealladwy" i'r darllenydd cyffredin.
Ar ôl ei gadeirio ym Mhontypridd, dywedodd y Prifardd Gruffudd Owen fod gan Carwyn ddawn o "sgwennu anodd a darllen hawdd" - hynny yw, y ddawn o allu sgwennu am bynciau anodd ond mewn ffordd hawdd ei ddarllen.
Mae hynny yn elfen eithriadol o bwysig i Carwyn ac mae'n ennyn balchder pan mae'n clywed fod pobl wedi mwynhau ei gerddi a'u bod nhw'n hawdd eu deall.
Ar ôl blynyddoedd o ymarfer fe wnaeth Carwyn ymuno gyda thîm Talwrn y Beirdd, Dros yr Aber yn 2018 dan arweiniad y Prifardd Rhys Iorwerth.
Mae'n gwbl grediniol fod bod yn rhan o gyfres Talwrn y Beirdd wedi chwarae rhan allweddol yn ei siapio fel bardd.
"Yn aml mae Ceri Wyn Jones wedi dweud fod y Talwrn yn feithrinfa i Brifeirdd y dyfodol ac mae hynny yn gwbl wir," meddai.
"Cyn ymuno gyda thîm Dros yr Aber roeddwn yn gallu cynganeddu yn gywir, ond do'n i ddim yn gallu mynegi fy hun mewn cynghanedd a bod hynny yn cario neges bwerus wedyn."
Daeth y foment pan wnaeth Carwyn benderfynu fod ei amser wedi cyrraedd i anfon ei waith i mewn i gystadleuaeth y Gadair pan ddywedodd y Prifardd a'r Meuryn, Ceri Wyn Jones wrtho ei fod yn "barod".
Doedd Carwyn erioed wedi ystyried hynny cyn y foment honno, yn rownd derfynol Talwrn y Beirdd 2023 ym Moduan, pan ddywedodd Ceri Wyn Jones:
"Dwi wedi dweud ers blynyddoedd fod y Talwrn yn ffatri i Brifeirdd a chi'n gwybod be', dwi'n credu ein bod ni, yn Carwyn Eckley, wedi gweld un arall yn dod o'r llinell gynhyrchu yna. Gwych, gwych Carwyn, dim byd llai."
A dyna'r "golau gwyrdd," medd Carwyn, dyna'r foment, yn eistedd yn y Babell Lên ym Moduan y penderfynodd y byddai'n barod i ymgeisio am y gadair.
Doedd erioed wedi ymgeisio o'r blaen, a dyma fe ar ei ymdrech gyntaf yn ennill.
"Doedd gen i ddim gair o'r awdl fuddugol wedi'i sgwennu cyn i'r testun o 'gadwyn' gael ei ryddhau, a 'nes i erioed feddwl trio am y gadair eleni cyn hynny."
Roedd y testun eleni yn ôl Carwyn yn cynnig ei hun fel "thema wych i sôn am barhad Dad drwy'r teulu a fy atgofion i amdano."
A dyna yw testun y cerddi, sef profiad dirdynnol Carwyn o golli ei dad yn dilyn gwaeledd yn ystod haf 2002, ac yntau ar y pryd yn blentyn ifanc.
Dywedodd un o'r beirniaid eleni, Dylan Foster Evans: “Rydym yng nghwmni bardd arbennig yma, a bydd y cerddi hyn yn aros yn fy nghof am amser maith.”
Hyd yn oed cyn anfon y gerdd i mewn i'r Eisteddfod roedd Carwyn yn betrusgar gan fod elfennau mor bersonol wedi'u cynnwys.
"Roedd o'n benderfyniad mawr a fues i'n pendroni lot os o'n i am anfon y gerdd i mewn.
"Ro'n i'n betrus y baswn i'n ennill y base'r cerddi ma’ yn dod yn gyhoeddus a bod busnes y teulu yn gyhoeddus. Ond diolch i gefnogaeth teulu dwi mor falch fy mod wedi mynd amdani," meddai.
"Be' sy'n braf hefyd ydi'r nifer o negeseuon dwi wedi cael gan bobl sy'n deud eu bod nhw wedi cael cysur o ryw fath yn darllen y cerddi.
"Rhai sydd wedi bod drwy rywbeth tebyg, felly mae hynny i mi yn cyfiawnhau'r penderfyniad o gyhoeddi'r cerddi ac mae hynny gyfuwch os nad yn well na ennill y gadair i fod yn onest," meddai.
Cafodd Carwyn yr alwad ei fod wedi ennill y gadair yn hwyr un brynhawn Dydd Gwener pan oedd yn eistedd yn y swyddfa.
Wedyn daeth y gamp o geisio cadw cyfrinach am naw wythnos cyn y cadeirio.
Ag yntau ond yn 28 oed mae'n edrych ymlaen at barhau i farddoni a cheisio annog beirdd ifanc i gael yr hyder i "fynd amdani."
"Mae'n amser da i ddechrau barddoni," meddai.
"Mae 'na don o feirdd ifanc rŵan yn mynychu dosbarthiadau ar draws Cymru.
"Dim ots beth yw eich gallu, mae 'na le i bawb. Mae dosbarthiadau yn bodoli ar gyfer gwahanol safonau, hyd yn oed i ddechreuwyr newydd.
"Roedd llyfr Clywed Cynghanedd gan Myrddin ap Dafydd yn le da iawn i mi o ran dechrau deall y gynghanedd.
"Wedyn ymarfer y ddawn. Dylai barddoniaeth fod yn rhywbeth cymdeithasol ac mae llwyddiant y Talwrn a Bragdy’r Beirdd yn gwneud barddoniaeth yn rhywbeth cŵl i fod yn rhan ohono unwaith eto," meddai.
Wrth ddod â'r sgwrs i ben roedd cadair Eisteddod Rhondda Cynon Taf yn sgleinio yng ngoleuni ei lolfa.
Er ei fod wedi dweud na fydd yn ymgeisio eto yn y dyfodol agos, dyw Carwyn ddim yn diystyru trio ennill cadair arall yn y dyfodol pell. Ag yntau ond yn 28, mae digon o amser ganddo i ychwanegu at ei gasgliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst