Ken Owens yn ystyried bod yn ymgeisydd Llafur yn 2026

Mae Ken Owens wedi bod yn gweithio yn y cyfryngau ers ei ymddeoliad y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Ken Owens yn ystyried sefyll dros Lafur yn etholiad y Senedd yn 2026, mae BBC Cymru ar ddeall.
Mae Owens, 38, yn pwyso a mesur a yw am fod yn ymgeisydd ar gyfer sedd newydd Sir Gaerfyrddin.
Does gan Lafur ddim ymgeisydd amlwg yno ar ôl i aelod Llanelli, Lee Waters a Joyce Watson, aelod Canolbarth a Gorllewin Cymru, gyhoeddi na fyddan nhw'n ymgeiswyr yn 2026.
Roedd Ken Owens yn wyneb amlwg yn ymgyrchoedd y blaid Lafur y llynedd, gan ymddangos ochr-yn-ochr â Keir Starmer mewn rali yn Sir Gaerfyrddin yn ystod yr ymgyrch etholiad cyffredinol.
Cyfnewid y bêl am y balot?
Fe enillodd Owens 91 cap dros ei wlad, gan hefyd chwarae pum gêm brawf i'r Llewod.
Ond oddi ar y cae bu'n ymwneud yn fawr â gwleidyddiaeth rygbi Cymru - yn enwedig yn ystod cyfnod anodd i Undeb Rygbi Cymru yn 2023, pan roedd chwaraewyr yn bygwth streicio dros anghydfod yn ymwneud â chytundebau.
Ar y pryd, fe ddywedodd fod Cymru wedi dod yn "destun chwerthin" ym myd rygbi.
Cyhoeddodd ei ymddeoliad o'r gamp yn Ebrill 2024.
Fis Chwefror eleni wedi'r golled yn erbyn Yr Eidal yn y Chwe Gwlad bu'n hallt ei feirniadaeth ar S4C, gan gyhuddo Undeb Rygbi Cymru o wneud "dim byd o gwbl" i adfer dirywiad y gamp yng Nghymru.
Cafodd ei urddo i wisg las yr Orsedd hefyd yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019 - fel Ken y Siryf, oherwydd ei lysenw ar y cae rygbi.

Roedd Ken Owens (ar y dde, tu ôl i Vaughan Gething) yn bresennol mewn digwyddiadau'r blaid Lafur cyn etholiad cyffredinol y llynedd
Ond nid ar chwarae bach y byddai cyfnewid y bêl am y balot, gyda her a hanner gerbron Llafur.
Dyma'r blaid fwyaf yn y Senedd ers dechrau datganoli yn 1999 - prif weinidog Llafur sydd wastad wedi bod wrth y llyw.
Am y tro cyntaf, fe allai hynny newid.
Yn ôl arolygon, mae'r blaid yn wynebu bygythiad gwirioneddol gan Blaid Cymru a Reform.

Roedd Owens yn rhan o ddwy garfan a enillodd y Gamp Lawn a phedair carfan a enillodd y Chwe Gwlad
Dan y drefn bleidleisio newydd ar gyfer etholiad 2026, mae Cymru wedi eu rhannu'n 16 etholaeth newydd, gan baru gyda'r 32 yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.
Mae sedd Sir Gaerfyrddin yn uno etholaethau Caerfyrddin a Llanelli.
Fe fydd pob etholaeth yn cynnwys chwe aelod i greu Senedd sydd a 96 aelod.
Mae gofyn i bleidiau restru wyth ymgeisydd ymhob etholaeth, gydag etholwyr yn cael bwrw un bleidlais dros un blaid.
Bydd Llafur yn gobeithio sicrhau un neu ddwy o'r chwe sedd yn Sir Gaerfyrddin, a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid i unrhyw ymgeisydd fod yn gyntaf neu'n ail ar y rhestr os am unrhyw obaith o ddod yn Aelod o'r Senedd.
- Cyhoeddwyd31 Mai 2024
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
Dydy cyfnewid rygbi am wleidyddiaeth ddim yn rhywbeth gwbl newydd.
Yn etholiad cyffredinol 1970 safodd Carwyn James - cyn-hyfforddwr y Llewod - dros Blaid Cymru yn Llanelli, gan ddod yn ail y tu ôl i Denzil Davies o'r Blaid Lafur gyda 16% o'r bleidlais.
A phe bai Ken Owens yn chwilio am ysbrydoliaeth yn fwy diweddar, dim ond mentro dros Bont Llwchwr o Sir Gâr i'r Gŵyr at Tonia Antoniazzi AS sydd - enillodd hi naw cap dros dîm merched Cymru cyn troi at wleidyddiaeth.