Merch, 1, wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar faes gwersylla ger Caernarfon

gwersyll Bryn Gloch
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar safle Bryn Gloch fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae merch un oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar safle gwersylla ger Caernarfon.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yng ngwersyll Bryn Gloch ym Metws Garmon tua 10:20 ddydd Llun, yn dilyn adroddiadau fod plentyn ifanc wedi cael ei tharo gan gerbyd.

Fe gafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gan yr Ambiwlans Awyr, ond bu farw o'i hanafiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd eu bod eisoes yn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad a bod y crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.

"Rydyn ni'n cydymdeimlo'n arw gyda theulu'r ferch yn ystod y cyfnod anodd yma, a bydd swyddogion arbenigol yn eu cefnogi," meddai'r llefarydd.

Pynciau cysylltiedig