Y cwmni te sy'n ceisio rhoi hwb i'r economi a iechyd pobl

Mari Arthur o gwmni Tetrim Teas yn yfed te gyda chriw
Disgrifiad o’r llun,

Mari Arthur, ail o'r chwith, o gwmni Tetrim Teas

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni yng Ngorllewin Cymru yn ceisio dod a hwb economaidd i'r gymuned a gwella iechyd pobl gyda rhywbeth sy'n agos iawn at galon y Cymry - te.

Mari Arthur gafodd y syniad wedi iddi fod yn gweithio yn China, ble mae diddordeb mawr mewn manteision 'te iechyd'.

Wedi iddi symud i Gaerdydd a sefydlu busnes sba fe ddechreuodd werthu'r ddiod i'w chwsmeriaid.

A phan symudodd yn ôl i'w hardal enedigol yn Nhrimsaran, Sir Gaerfyrddin, ar ôl Brexit, fe sefydlodd y cwmni nid-er-elw Tetrim Teas.

Cadw'r elw yn lleol

Y bwriad oedd gweithio gyda ffermwyr a chynhyrchwyr lleol i dyfu planhigion fyddai'n cael eu defnyddio mewn gwahanol fathau o de sy'n dda i'r iechyd.

Meddai Mari Arthur ar raglen Troi'r Tir ar BBC Radio Cymru: "O'n i'n meddwl byddai'n dda i greu te o Gymru mas o gynhwysion a rhoi arian i bobl leol, y ffermwyr a'r tyfwyr a chadw elw yng Nghymru achos o'n i'n gallu gweld mae'r farchnad yn tyfu.

"O'n i'n meddwl yn lle importio efo carbon a chostau, byddai'n well gweithio efo pobl leol i dyfu'r planhigion o'n i moyn defnyddio yn y te."

Fe wnaeth ymchwil pellach gyda Phrifysgol Aberystwyth, AberInnovation a BicInnovation cyn penderfynu ar y te byddai'n cynhyrchu er mwyn "creu rhywbeth gwahanol i Gymru o Gymru."

Gwraidd riwbob Sir Fôn

Mae'r cwmni'n prynu eu gwraidd riwbob o Sir Fôn, er enghraifft, ac ar ôl cyfnod yn prynu madarch o Fethesda maen nhw wedi dechrau partneriaeth gyda'r cwmni er mwyn tyfu'r madarch mewn tri safle ar draws Cymru, gyda 10% o'r elw yn aros yn y gymuned.

Un o obeithion y fenter yw cefnogi ffermydd i greu elw o ffynonellau amrywiol. Maen nhw yn cyd-weithio gyda ffermwyr lleol i gael planhigion sy'n tyfu'n wyllt yn yr ardal dros y Gwanwyn allai gael eu defnyddio i greu te llesol. Meddai:

"Mae'r farchnad yn tyfu. Mae lot o gyfle i dyfwyr i ddechrau tyfu te, a chael elw am bethau gwahanol. Ni'n gweithio gyda nhw nid yn unig ar y farchnad a beth allwn ei brynu... ond ry'n ni hefyd yn eu rhoi mewn cysylltiad gyda phobl sydd â phrofiad a busnesau sy'n tyfu te.

"Ni'n moyn creu te mas o blanhigion gwahanol i helpu gyda phethe gwahanol - falle digestion neu cholesterol neu beth bynnag yw e.

"Ni'n trio neud lot o waith yn y cymunedau ond canolbwyntio ar y farchnad sydd mas 'na sy'n edrych am de gwahanol, sy'n gallu cael ei brofi mae'n dda i ti."

Pynciau cysylltiedig