Pryderon am gwmnïau sy'n adeiladu canolfan ganser newydd
- Cyhoeddwyd
Mae "cwestiynau mawr" dros sut y daeth dau gwmni sydd wedi eu dirwyo yn y gorffennol am dorri rheolau i fod yn gysylltiedig â'r gwaith o adeiladu ysbyty newydd yng Nghaerdydd, yn ôl Aelod o'r Senedd.
Mae un o'r cwmnïau sy'n adeiladu canolfan ganser newydd Felindre, a rhiant-gwmni un arall, wedi cael eu dirwyo yn Sbaen a Japan am dorri rheolau cystadleuaeth ar gyfer prosiectau adeiladu.
Mae'r ddau gwmni'n apelio.
Dywedodd yr AS Adam Price y dylai'r cytundeb gael ei dynnu oddi ar y ddau gwmni os ydy eu hapeliadau'n methu.
Dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Felindre eu bod wedi dilyn y gyfraith “i’r llythyren”.
Mae'r ganolfan ganser newydd yn cael ei hadeiladu yng ngogledd Caerdydd ar gost o £885m.
Mae'r cynllun wedi ei feirniadu yn y gorffennol gan ymgyrchwyr amgylcheddol a nifer o arbenigwyr canser, sy'n gwrthwynebu'r lleoliad ar gyfer yr ysbyty.
Yn ôl rheolwyr yr ymddiriedolaeth bydd y ganolfan yn cynnig gofal "o'r radd flaenaf" i gleifion canser.
Un o’r cwmnïau sy’n adeiladu’r ganolfan ydy Kajima Partnerships, sy'n is-gwmni i Kajima Corporation a gafodd ddirwy o 250 miliwn Yen ym Mawrth 2021 ar ôl ei gael yn euog o dorri rheolau cystadleuaeth mewn cysylltiad â chynllun yn Japan.
Cafodd apêl gan y cwmni, a honnodd nad oedd y rheolau'n berthnasol am nad oedd cystadleuwyr yn bodoli ac am ei fod yn gynllun preifat, ei wrthod gan lys yn Tokyo ym Mawrth 2023.
Mae Kajima Corporation nawr yn mynd â'r achos i Oruchaf Lys Japan.
Mae'r cwmni adeiladu o Sbaen - Sacyr - hefyd yn helpu i adeiladu’r ysbyty newydd.
Yng Ngorffennaf 2022 roedd y cwmni'n un o chwe busnes adeiladu yn Sbaen a gafodd eu dirwyo gan yr awdurdodau am gyd-gynllwynio dros gytundebau cyhoeddus dros gyfnod o 25 mlynedd.
Mae Sacyr hefyd yn apelio.
Ymddiriedolaeth heb wybod am ddwy flynedd
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd uwch-reolwyr o Ymddiriedolaeth GIG Felindre wrth bwyllgor cyfrifon cyhoeddus Senedd Cymru eu bod yn ymwybodol o'r achos yn erbyn Sacyr pan gyhoeddwyd y datblygwyr ar gyfer y ganolfan newydd yng Ngorffennaf 2022.
Daeth yr ymddiriedolaeth i wybod am yr achos yn erbyn Kajima drwy'r wasg yn Chwefror 2023 - bron i ddwy flynedd ar ôl i'r cwmni gael ei ddyfarnu'n euog.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth bod ei phrosesau wedi eu cynnal "yn ôl y gyfraith".
Eglurodd yr uwch-reolwyr nad oedd gan Kajima Corporation gysylltiad â'r cynllun er bod is-gwmni ynghlwm â’r gwaith.
Dywedon nhw hefyd nad oedd problem gyfreithiol wedi codi gyda'r cytundeb â Sacyr, gan fod achos cyfreithiol y cwmni'n parhau.
Ond mae'n rhaid i Sacyr roi gwybod i Felindre os ydy'r amgylchiadau'n newid.
Yn ôl yr ymddiriedolaeth, os ydy apêl Sacyr yn methu, bydd yn rhaid i'r cwmni ddangos eu bod wedi cymryd camau i gywiro pethau.
Mae hynny'n broses mae'r ddau gwmni wedi ymwneud â hi'n barod, yn ôl yr ymddiriedolaeth.
"Pe bai [Sacyr] yn gallu dangos eu bod wedi cywiro pethau'n ddigonol i foddhau'r holl ofynion, yna mae'n debygol y bydden ni'n parhau gyda'r cwmni," meddai cyfarwyddwr trawsnewid strategol yr ymddiriedolaeth, Lauren Fear.
"Pe na fydden nhw, yna byddai hynny'n sail i ddod â'r cytundeb i ben."
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales BBC Cymru, dywedodd Adam Price, sy'n aelod o'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus: "Ry'n ni wedi bennu lan mewn sefyllfa nawr ble ry'n ni ar hyn o bryd yn gwneud busnes gyda chwmnïau - a dweud y gwir, fel mae pethe'n sefyll ar hyn o bryd - na ddylai fod yn ein sector gyhoeddus ni."
Mae Mr Price o'r farn y dylai'r cytundeb gael ei dynnu oddi ar y cwmnïau os ydy eu hapeliadau'n aflwyddiannus "er mwyn gwarchod ein henw da a hefyd er mwyn hala neges glir i fusnesau ar draws y byd".
Yn ei dystiolaeth yntau i'r pwyllgor, dywedodd prif weithredwr dros dro yr ymddiriedolaeth, Carl James: "Rydyn ni'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd felly mae'n henw da ni'n hollbwysig a fydden ni byth yn rhoi hynny yn y fantol.
"Beth rydyn ni wedi ceisio ei wneud drwy gydol y broses ydy gweithio gyda phobl hynod brofiadol.
"Beth fyddwn ni bob tro'n ei wneud fel corff cyhoeddus ydy dilyn y rheolau i'r llythyren."
Fe wnaeth Kajima a Sacyr gyfeirio'r BBC at sylwadau Ymddiriedolaeth Felindre.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cael sicrwydd bod Felindre “wedi dilyn y gyfraith drwy gydol y broses gaffael".
Mwy ar y stori hon ar Politics Wales, BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021