'Angen i'r gyllideb helpu teuluoedd â phlant'
- Cyhoeddwyd
Parhau mae'r pwysau ar deuluoedd i gael dau ben llinyn ynghyd yn ôl rhai rhieni ym Merthyr Tudful.
Mae gan y mamau a’r tadau yma bob math o syniadau ar sut y gallai’r Canghellor eu helpu, wrth i fanylion y gyllideb gael eu datgelu'r wythnos hon.
Dywed mam i dri, Charlotte Page-Scoot: “Mae gofal plant mor ddrud i ni, mae’r ddau ohonom yn gweithio, mae pob un o’n teuluoedd yn gweithio’n llawn amser.
"Felly rwy’n meddwl bod angen mwy o bwyslais ar helpu teuluoedd sy’n gweithio gyda phlant, oherwydd does 'na ddim cymhelliant i weithio ar hyn o bryd."
Bydd y Gyllideb yn gosod y trywydd ar gyfer polisi economaidd Llywodraeth newydd y DU am y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae’r Canghellor yn gwybod beth y mae hi am ei wneud ar ôl agor ei bocs coch, ond beth fydd yr effaith ar lawr gwlad ar grwpiau fel teuluoedd, pensiynwyr, a phobl fusnes?
Dywed Lowri Williams sydd ag un plentyn: “Mae siopa bwyd yn afreal. Fi wedi gorfod siopa rhwng tair siop wahanol i geisio cael pris gwell ar bopeth.”
Dwedodd Sueann Jones, sy’n fam i ddau: “Mae’n frwydr gyda’r biliau, y cyllid, y nwy a’r trydan.
"Rydyn ni'n cael dau ben llinyn ynghyd ond rydyn ni'n para i geisio cael y darn sbâr hwnnw o arian i wneud pethau hwyliog gyda'r plant.”
Mae garej Mototech ym Merthyr yn un o filoedd o fusnesau bach ledled Cymru sy’n aros yn nerfus i weld sut mae Rachel Reeves yn bwriadu newid cyfeiriad economaidd y wlad.
Gyda chostau’n cynyddu, mae’r bos, Zeehra Whitehouse yn dweud ei bod hi’n poeni am y cynnydd digwyliedig mewn Yswiriant Gwladol.
"Y prif beth yw bod y gwariant yn gymaint pan fyddwch yn cyflogi person newydd, yn enwedig eich bil Yswiriant Gwladol," meddai
"Felly rwy’n meddwl bydd llawer o fusnesau bach yn oedi cyn gwneud hyn oherwydd y gwariant ychwanegol hynny."
Mae pensiynwyr yn un o’r ychydig grwpiau sy’n gwybod rhywbeth am fwriadau Rachel Reeves ar eu cyfer - mae’r rhan fwyaf yn anhapus iawn ynglŷn â cholli eu Taliad Tanwydd Gaeaf, sy werth hyd at £300.
Mae pensiynwyr fel Tony Perry yn dweud eu bod yn darged hawdd.
"Ar ôl i chi gyrraedd oedran ymddeol, 'ych chi ddim yn ddefnyddiol i neb mwyach. Y cyfan ma’n nhw mo'yn gwneud yw tynnu'ch arian oddi arnoch chi," meddai.
Dywed ei wraig, Lorraine: “Beth arall sy'n mynd i fynd i fyny? Dy’n ni ddim yn ysmygu nag yn yfed felly does dim rhaid i ni boeni am hynny, ond bydd yn rhaid i ni weld a yw hi'n gwneud unrhyw beth gyda phobl sydd â chynilion, pethau felly."
Mae Cheryl Foixcroft yn poeni am araith y Canghellor.
“Rwy’n ofni’r hyn y mae hi’n mynd i’w ddweud i fod yn onest.
"Mae 'na sôn am fod y pensiwn yn mynd i gael ei drethu, felly ble ewn ni wedyn? Bydd pobl yn marw - dyna fydd y peth nesaf."
Bydd pobl Merthyr a gweddill y wlad yn cael gwybod eu tynged ymhen ychydig ddyddiau - mewn cyllideb a fydd yn gosod cwrs economaidd y llywodraeth.
Mae cyfrinachau Bocs Coch y Canghellor ar fin cael eu datgelu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref
- Cyhoeddwyd25 Hydref
- Cyhoeddwyd6 Mawrth