Galw am hwb 'sylweddol' i'r gwasanaeth iechyd yn y Gyllideb

Eluned Morgan a Keir StarmerFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn gobeithio y bydd mwy o arian yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud ei bod hi wedi galw am hwb "sylweddol" i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghyllideb yr Hydref.

Bydd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer yn cyhoeddi cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU ar 30 Hydref.

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "awyddus iawn" i weld buddsoddiad yn y GIG yn Lloegr, gan y bydd hynny'n golygu y bydd arian ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario ar ei gwasanaeth iechyd.

“Yr hyn rydw i’n gobeithio amdano yw y bydd gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu diogelu,” meddai Ms Morgan.

Wrth siarad â Wales Live, dywedodd hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ddydd Iau y bydd arian ychwanegol i fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG.

Mae'r manylion diweddaraf am restrau aros y Gwasanaeth Iechyd hefyd yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau.

“Rwy’n awyddus iawn i weld mwy o arian i’r GIG yn Lloegr oherwydd byddwn wedyn yn cael swm sylweddol o arian i Gymru o ganlyniad i hynny,” meddai Ms Morgan.

Mae Eluned Morgan hefyd yn dal i geisio sicrhau arian i Gymru yn sgil cynllun rheilffordd cyflym HS2.

Er mai yn Lloegr y bydd holl seilwaith y rheilffordd, ni chafodd Cymru arian ychwanegol gan y llywodraeth Geidwadol flaenorol wedi i'r Trysorlys ddynodi'r cynllun fel un ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Canghellor Rachel Reeves yn cyhoeddi ei chyllideb ar 30 Hydref

Hyd yn hyn, mae'r Llywodraeth Lafur newydd wedi osgoi addo arian i Gymru a dywedodd Ms Morgan ar Wales Live nad ydi hi'n disgwyl cael arian fis nesaf.

‘‘Dydw i ddim yn disgwyl cael hynny yng nghyllideb yr Hydref ond byddwn yn bendant yn parhau i drafod gyda nhw,’’ meddai.

“Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn ein bod yn meddwl bod yna annhegwch sylfaenol gyda hynny a hoffem weld rhai newidiadau ar hynny,’’ meddai.

'Cynghorau ddim am fynd i'r wal'

Mae 'na heriau ariannol yn wynebu Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio y gallai diffygion ariannol "effeithio'n sylweddol" ar allu cynghorau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

Mae ymchwil gan y BBC wedi dod i'r casgliad y bydd bwlch ariannol cynghorau Cymru'n cyrraedd o leiaf £540 miliwn erbyn 2026-27.

Ond mae'r prif weinidog, Eluned Morgan yn credu eu bod mewn sefyllfa gryfach nag yn Lloegr.

“Dwi ddim yn meddwl y bydd cynghorau yng Nghymru yn mynd i'r wal ond mae'n rhaid i ni eu monitro'n ofalus iawn,” meddai.