Beirniadu bwrdd iechyd am ddweud fod gwyliau wedi arwain at oedi erthyliad

- Cyhoeddwyd
Mae barnwr wedi beirniadu bwrdd iechyd a ddywedodd mai gwyliau blynyddol oedd yn rhannol ar fai am yr oedi ym mhroses erthylu menyw.
Dim ond deuddydd oedd ar ôl i'r claf - a oedd yn agored i niwed - allu cael erthyliad yn gyfreithlon.
Dywedodd mam y fenyw, sydd wedi gorfod mynd i'r ysbyty sawl gwaith am ei hiechyd meddwl, wrth y llys ei bod yn "drawmatig" gweld ei merch yn derbyn y driniaeth "farbaraidd" wrth iddi orfod parhau â'i beichiogrwydd i mewn i'w hail dymor.
Fe ddyfarnodd y Llys Gwarchod fod yr "oedi afresymol" gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cael "effaith negyddol ddifrifol" ar y fenyw , oedd yn ei 30au.
Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn bod yna oedi wedi bod.
- Cyhoeddwyd4 Mai 2024
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
Ym mis Mehefin 2024, roedd y claf, sydd â hanes o gamddefnyddio sylweddau ac sydd wedi cael ei chadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl sawl gwaith, wedi bod yn feichiog ers tua wyth wythnos.
Fe glywodd y llys yn Llundain fod y fenyw – nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol – wedi drysu ynghylch manylion sylfaenol am ei beichiogrwydd.
Mae modd cael erthyliad hyd at 24 wythnos o feichiogrwydd.
Y claf am 'gael gwared ar y babi a chymryd tabled'
Ar un adeg doedd hi ddim yn credu ei bod yn dal yn feichiog, er iddi dderbyn canlyniad positif.
I ddechrau, dywedodd ei bod eisiau erthyliad, ond newidiodd y claf ei meddwl yn gyson.
Dywedodd mam y fenyw wrth y llys fod dealltwriaeth ei merch "weithiau'n dda ac weithiau'n wael".
Ond dywedodd y claf wrth ei mam ei bod am "gael gwared ar y babi a chymryd tabled".
Dywedodd y fam wrth y Cyfreithiwr Swyddogol - rhywun sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed oherwydd diffyg gallu meddyliol mewn rhai llysoedd - efallai bod y ferch yn meddwl bod yna "dabled hudol" allai "wneud i bopeth fynd i ffwrdd".

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn rhedeg Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, sef ysbyty mwyaf Cymru
Oherwydd hyn, gofynnodd y bwrdd iechyd am "gynllun triniaeth" gafodd ei awdurdodi gan y Llys Gwarchod - llys sy'n gwneud penderfyniad ar ran pobl sydd methu â gwneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain.
Yn ôl y bwrdd iechyd byddai'r cynllun triniaeth yn sicrhau bod y fenyw yn ddiogel drwy gydol yr erthyliad - os oedd hi'n penderfynu parhau â'r broses - ac nad oedd ei bywyd mewn perygl.
Byddai hyn yn cynnwys ei 'hamddifadu o'i rhyddid' gan roi'r pŵer i arbenigwyr meddygol ei rhwystro neu ei thawelu â chyffur pe bai nhw'n credu bod angen gwneud hynny.
'Pedair wythnos yn rhy hir'
Roedd ei dymuniad i gael erthyliad wedi aros yn gyson o 2 Awst y llynedd ymlaen ac fe gadarnhaodd y bwrdd iechyd gamau bythefnos yn ddiweddarach ar 16 Awst.
Ar 12 Medi, fe benderfynodd y Barnwr Butler-Cole KC nad oedd gan y fenyw y gallu i wneud penderfyniadau ei hun ynghylch cael erthyliad ac awdurdododd y cynllun triniaeth gafodd ei awgrymu gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Cafodd y claf erthyliad meddygol yn syth ar ôl i'r cynllun gael ei ganiatáu.
Doedd dim angen amddifadu ei rhyddid yn y diwedd, a oedd yn opsiwn yn y cynllun, ac yn ôl clinigwyr mae'r fenyw yn gwneud yn dda.
Ond fe gafodd y bwrdd iechyd ei feirniadu gan y Barnwr Butler-Cole am oedi.
"Mae'r bwrdd iechyd yn esbonio bod yna absenoldebau staff oherwydd gwyliau blynyddol dros wyliau'r haf sy'n esbonio'r oedi cyn cyflwyno'r cais," meddai'r Barnwr Butler-Cole.
"O dan amgylchiadau'r achos hwn, lle roedd pob diwrnod a basiodd yn golygu bod yr opsiynau ar ei chyfer yn lleihau, a bu'n rhaid iddi hi ei hun barhau â'r beichiogrwydd yr oedd wedi penderfynu nad oedd ei eisiau, roedd pedair wythnos yn rhy hir.
"Yn fy marn i, fe ddylai'r cais fod wedi'i flaenoriaethu a'i gyflwyno erbyn 26 Gorffennaf 2024 fan bellaf.
"Pe bai hynny wedi digwydd, mae'n debyg y byddai penderfyniad wedi cael ei wneud gan y llys erbyn canol mis Awst, yn hytrach na chanol mis Medi.
"Er efallai nad yw hynny wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'r math o erthyliad, byddai wedi arbed mis o aros iddi a mis o bendroni pam nad oedd ei dymuniadau'n cal eu gweithredu, a hyn wrth i'w beichiogrwydd fynd yn ei flaen.
"Byddai wedi golygu llai o risg o ran niwed corfforol a meddyliol y driniaeth."
Roedd y barnwr o'r farn ei bod yn briodol nodi bod y llys yn "anghymeradwyo ymddygiad y bwrdd iechyd yn yr achos a'r effaith ar y fenyw a'i theulu".
Gan gydnabod y baich seicolegol a chorfforol ar y claf a'i theulu, gwnaeth y barnwr orchymyn bod y bwrdd iechyd yn talu'r rhan fwyaf o'r ffioedd cyfreithiol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro na allan nhw wneud sylw ar fanylion gofal claf unigol.
Ond ychwanegodd llefarydd: "Fel bwrdd iechyd rydym yn ymdrechu i reoli unrhyw achos o'r natur a'r cymhlethdod hwn yn ofalus iawn drwy ddefnyddio ein timau iechyd meddwl a gynaecolegol."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.