Erthyliad: Angen 'gwella' gwasanaethau cwnsela Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Nikita Jain Jones yn galw am drafodaeth fwy agored am erthyliad

Dywed menyw o Wynedd - a fethodd â chael mynediad i gwnsela arbenigol cyn cael erthyliad - bod angen mwy o gymorth i bobl sy'n dewis cael erthyliad yng Nghymru.

Cafodd Nikita Jain Jones wybod byddai'n rhaid iddi aros pedwar mis i gael cwnsela trwy ei meddyg teulu, ar ôl methu cael apwyntiad cwnsela wyneb-yn-wyneb drwy Wasanaeth Cynghori Beichiogrwydd Prydain (BPAS).

Dywedodd Ms Jones: "Os fyddwn ni'n aros tan wedyn byddai'n lot rhy hwyr i gael yr erthyliad."

Dywedodd bwrdd iechyd Ms Jones bod cwnsela ar gael i "unrhywun sydd yn defnyddio gwasanaethau BPAS".

Yn ôl BPAS - sy'n rhedeg dros 60 clinig erthyliad ar draws Prydain - mae cwnsela ar gael i unrhywun sydd ei angen cyn neu ar ôl cael erthyliad.

Ond nid dyma oedd profiad Ms Jones, sy'n gobeithio, drwy siarad yn agored am ei stori, y gall godi ymwybyddiaeth o'r angen i "wella" gwasanaethau arbenigol.

"Ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn 30 oed, nes i ffeindio allan bod fi'n feichiog," meddai Ms Jones.

"Mae gennym ni ddau blentyn hyfryd ac iach yn barod, ac roedd y ddau pregnancy yn anodd iawn i fi a collais i lot o waed yn ystod y ddwy enedigaeth.

"Roedd y syniad o orfod mynd trwy o eto, potentially'n colli fy mywyd a'n gadael y plant heb fam yn ormod i fi. O'n i methu mynd trwy hwnna eto."

Er bod Ms Jones "80% yn sicr" bod hi eisiau cael erthyliad, teimlodd bod angen siarad â chwnsler arbenigol cyn mynd ymlaen gyda'r penderfyniad.

"Dwi methu rhoi mewn i eiriau faint o oriau, dyddiau, wythnosau, o'n i jyst yn meddwl 'dwi'm yn gwybod beth i wneud,'" meddai.

Ffynhonnell y llun, Nikita Jain Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nikita Jain Jones bod ôl-effaith yr erthyliad yn 'drawmatig'

Yn ôl Ms Jones, aeth hi at ei meddyg teulu am gwnsela ar argymhelliad BPAS, ond dywedon nhw fod "y rhestr aros yn 18 wythnos".

Yn methu cael mynediad i'r cymorth roedd hi ei angen, cafodd yr erthyliad effaith ar ei hiechyd meddyliol a chorfforol: "Nes i rili stryglo am y cwpl o wythnosau'n dilyn yr erthyliad gyda gwaedu trwm, clotiau, ac o'dd o'n eithaf poenus, a doedd gen i ddim cefnogaeth.

"Yn edrych ar ôl fy mhlant, heb unrhyw gymorth, heb neb i siarad â, neb o'dd yn deall, a dim cwnsela ar ôl yr erthyliad, o'dd hwnna'n drawmatig."

Dywedodd llefarydd ar ran BPAS: "Dydy e ddim wastad yn bosib darparu cwnsela wyneb-yn-wyneb ym mhob clinig, ond er mwyn osgoi gorfod teithio pellteroedd hir, mae modd derbyn cwnsela dros y ffôn ble bynnag maen nhw'n byw."

Dywedodd Debra Hickman, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Nyrsio a Bydwreigiaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr: "Does gyda ni ddim gwasanaeth cwnsela penodol mewnol i bobl cyn ac ar ôl cael erthyliad, ond rydyn ni'n trafod y dewisiadau sydd ar gael yn ein clinigau gyda menywod sy'n feichiog ac sy'n ansicr am eu hopsiynau.

"Mae gwasanaethau cwnsela ar gyfer cyn ac ar ôl cael erthyliad hefyd ar gael i unrhywun sy'n defnyddio gwasanaethau BPAS yn Llandudno."

Dywedodd menyw arall - oedd yn dymuno aros yn ddienw - ei bod hi heb gael cymorth a chefnogaeth glir ar ôl cael erthyliad y llynedd yng Nghaerdydd.

"O'n i ddim yn teimlo bod fi eisiau counselling am ba benderfyniad i 'neud ond o fi'n teimlo lot o shame a guilt a'n really stupid am fod yn y sefyllfa.

"Byse fe 'di bod yn neis os oedd doctor neu gwnsler 'di rhoi cyfle i fi siarad am y stwff yna.

"Mae'n teimlo, er bo ti'n totally rhydd i gael erthyliad, mae dal fel bo' ti 'di neud rhywbeth yn anghywir i gael un."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro bod cwnsela yn rhan "integrol" o'i wasanaethau obstetreg a gynaecoleg.

Dywedodd llefarydd: "Mae pob person sydd eisiau erthyliad yn trafod ei sefyllfa gydag aelod o dîm y gwasanaeth cynghori beichiogrwydd cyn iddyn nhw ddechrau unrhyw driniaeth sy'n dilyn cyfarwyddyd cenedlaethol a fframwaith cyfreithiol.

"Mae pobl yn cael y cyfle i ystyried yn llawn ac i drafod ei opsiynau heb gael eu beirniadu ac i helpu nhw wneud y penderfyniad gorau phosib."

Ychwanegodd y bwrdd iechyd bod menywod beichiog bregus yn cael eu cyfeirio at yr adrannau, asiantau neu'r gwasanaethau allanol priodol.

Dywedodd Jane Calvert, Prif Gydlynydd Gofal Cleifion BPAS: "Efallai nad oes gwasanaeth [cwnsela] ble rydych chi, felly os rydych eisiau cwnsela wyneb-yn-wyneb, bydd rhaid i chi deithio."

Ychwanegodd: "Mae'r rhan fwyaf o fenywod yn gwybod y penderfyniad maen nhw moyn gwneud, ond maen nhw jyst angen siarad trwy'r penderfyniad yna gyda rhywun, fel bo nhw'n gallu tawelu'r meddwl a sicrhau bod nhw'n gwneud y penderfyniad cywir."

Beth yw'r gwasanaethau erthyliad ar draws Cymru?

Mae'r gwasanaethau cwnsela sydd ar gael i fenywod sy'n ystyried neu sydd wedi cael erthyliad yn amrywio o un bwrdd iechyd i'r llall.

Mae rhai byrddau iechyd yn defnyddio gwasanaethau BPAS - megis Caerdydd a'r Fro, Betsi Cadwaladr, Powys a Chwm Taf.

Ond mae byrddau iechyd Abertawe, Aneurin Bevan a Hywel Dda yn gweithredu gwasanaethau ar wahân gan fwyaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Mary Jones bod gwasanaethau yn anghyson ar draws Cymru

Yn ôl Helen Mary Jones AS - aelod o grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod y Senedd - mae angen gwneud mwy i sicrhau "cysondeb" ar draws byrddau iechyd Cymru.

Yn dilyn adroddiad NICE, dolen allanol yn 2019, cafodd cyfarfod arbennig ei chynnal i drafod gwasanaethau erthyliad yng Nghymru.

Dywedodd Ms Jones: "Ro'dd yna wahaniaethau mawr o weithredu rhwng y byrddau iechyd, a dyw hwnna ddim yn ddigon da.

"Dylai menywod... gael yr hawl i'r un gefnogaeth a'r un gwasanaeth ble bynnag y maen nhw, ac mae hynny'n dechrau wrth gwrs trwy gael yr un wybodaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae stigma yn rhwystro trafodaethau mwy agored am erthyliad, yn ôl Julie Richards

Dywedodd Julie Richards, ymddiriedolwr Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW): "Dwi'n meddwl oherwydd y tawelwch neu'r stigma o gwmpas erthyliad, does dim digon o wybodaeth allan yna i fenywod, yn enwedig i fenywod ifanc... sy'n meddwl am gael erthyliad.

"Mae angen i ni fel cymdeithas, fel menywod a dynion, siarad am ein profiadau... a chymryd yr holl emosiwn allan, achos mae'n bwnc llosg iawn."

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r penderfyniad i gael mynediad i wasanaethau erthyliad byth yn un hawdd a bydd pob menyw yn cael y wybodaeth y maen nhw ei hangen yn ymwneud â'r gwasanaethau cwnsela sydd ar gael iddyn nhw.

"Mae'r ddarpariaeth o wasanaethau cwnsela yn fater i fyrddau iechyd penodol."

  • Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhywbeth yn yr erthygl yma, gallwch ddod o hyd i gymorth ar wefan BBC Action Line.