Cynnal adolygiad i geisio adnabod corff coedwig Cerrigydrudion

Llun artist o sut y gallai'r dyn fod wedi edrych adeg ei farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad yn cael ei gynnal i achos hanesyddol o lofruddiaeth gyda'r nod o adnabod gweddillion dynol a gafodd eu darganfod mewn coedwig.
Cafodd rhan o benglog dyn ei ddarganfod gan wersyllwyr yng Nghoedwig Clocaenog, sydd ar y ffin rhwng siroedd Conwy a Dinbych, ym mis Tachwedd 2015 - gyda hynny'n arwain at yr heddlu'n canfod ei weddillion.
Dangosodd profion ei fod wedi dioddef anaf difrifol i'w ben, a bod ei gorff wedi bod yn y goedwig ers sawl blwyddyn - o bosib ers 2004.
Ond er gwaethaf sawl ymdrech ac apêl dydy'r dyn ddim wedi cael ei adnabod ac mae Heddlu'r Gogledd bellach wedi cyhoeddi adolygiad o'r ymchwiliad ar y cyd gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Apêl i ddatrys dirgelwch corff
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2017
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Gallwn gadarnhau fod yr ymchwiliad ar ôl canfod corff yng Nghoedwig Clocaenog ym mis Tachwedd 2015 yn cael ei adolygu gan ein tîm adolygu troseddau mawr.
"Mae'r tîm o dditectifs yn gweithio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a thîm o arbenigwyr ar draws y wlad er mwyn ceisio adnabod y dyn."
Cafodd y corff ei ddarganfod ym Mhentrellyncymer ger Cerrigydrudion, gan ddau frawd oedd yn gwersylla yn y goedwig yn ystod Rali Cymru GB.
Daeth swyddogion fforensig i'r casgliad fod y dyn yn debygol o fod dros 54 oed a rhwng pum troedfedd ac wyth modfedd a phum troedfedd a deg modfedd o ran taldra.
Dywedodd yr heddlu ar y pryd fod trwyn y dyn wedi cael ei dorri ar un pwynt a bod ganddo lid y cymalau (arthritis) pan fu farw.

Cafodd siwmper Pringle - gafodd ei wneud rhwng 2000 a 2004 a'i werthu mewn siopau Pringle - ei ddarganfod yn y goedwig hefyd
Yn 2016 fe wnaeth yr heddlu ofyn am gymorth deintyddion i geisio adnabod y dyn ar ôl i brofion ddangos ei fod wedi derbyn dwy driniaeth amlwg ar ei ddannedd.
Mae'n debygol bod y gwaith yna wedi cael ei wneud rhwng 1980 a 2000.
Yn 2018, datgelodd yr heddlu ei bod hi'n debygol fod y corff wedi cael ei adael yno rhwng 2004 a 2010.
Cafodd defnydd o siwmper oedd yn cael ei werthu rhwng 2000 a 2004 a label dillad isaf Marks & Spencer o rhwng 1999 a 2000 eu darganfod ger lleoliad y gweddillion.
Ond er hynny, dyw swyddogion heb ddiystyru'r posibilrwydd bod y corff wedi ei adael yno ers cyn 2004.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.