'Colli hyder' yn yr heddlu wedi ymosodiad honedig mewn tafarn

Emma a CelynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Emma a Celyn, mae'r ymosodiad wedi cael effaith ar y teulu cyfan

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gall rhai o'r lluniau isod beri loes

Mae menyw ifanc o Bontypridd yn dweud ei bod hi wedi “colli hyder” yn yr heddlu ar ôl blwyddyn o aros am atebion yn dilyn ymosodiad honedig mewn tafarn.

Dywed Celyn Williams, o Don-teg, iddi gael anafiadau i’w phen ar ôl i unigolyn daflu gwydryn at ei hwyneb ym mis Medi 2023.

Flwyddyn wedi’r digwyddiad, mae’r fenyw 21 oed a’i theulu yn dweud eu bod nhw wedi “cael eu gadael lawr” gan yr heddlu, gan ychwanegu nad oes ganddyn nhw ffydd yn y system fel dioddefwyr.

Mewn ymateb dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "cydnabod y siom" a'u bod yn "ymdrechu i roi'r dioddefwr wrth galon unrhyw ymchwiliad".

Ffynhonnell y llun, LLun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr anaf 2.5 modfedd uwchben llygad chwith Celyn

Awr neu ddwy ar ôl i Celyn Williams adael y tŷ i gymdeithasu gyda'i ffrindiau, cafodd Emma Williams alwad gan ei merch yn dweud ei bod hi wedi ei hanafu.

Yn ôl Emma roedd hi “methu coelio” cyflwr Celyn wrth ei gweld yn “waed i gyd o’i phen i’w thraed” gydag anaf i’w phen.

I Celyn, mae’r atgof “brawychus” o’r gwaed yn llenwi ei llygaid, a’r blas yn ei cheg, yn fyw hyd heddiw.

“Ro’n i’n meddwl bod gen i gywilydd ond fy ngwaed oedd yn fy nghynhesu ac edrychais i lawr ac roedd yna waed ymhobman,” meddai.

Cafodd Celyn 11 o bwythau, gyda meddygon yn rhybuddio pe bai’r anaf wedi bod mewn lleoliad gwahanol ar ei thalcen, mi fyddai hi wedi cael parlys yr wyneb.

Y bore wedi’r ymosodiad honedig, fe wnaeth swyddogion Heddlu De Cymru ymweld â Celyn yn ei thŷ.

Mae hi’n disgrifio’r swyddogion fel pobl “trwyadl” oedd yn hyderus y byddai modd cael cyfiawnder a hynny yn sgil y ffaith bod Celyn yn gallu enwi yr ymosodwr honedig.

“Yr argraff a gawsom oedd 'gadewch i ni wneud ein swyddi, does gennych chi ddim byd i boeni amdano',” meddai Emma.

Ond wrth i’r wythnosau droi yn fisoedd, cynyddu wnaeth rhwystredigaeth Celyn a’i theulu am yr ymchwiliad. Maen nhw'n dweud bod y diffyg cyfathrebu yn golygu eu bod nhw'n aml yn gorfod cysylltu â'r heddlu am ddiweddariadau.

“O’n i’n teimlo fy mod i’n cael stŵr,” meddai Celyn wrth gofio am sgwrs gyda heddwas arall oedd wedi cymryd cyfrifoldeb am ei hachos.

“Roedden ni’n teimlo mai ni oedd y troseddwyr a'u bod yn gweithio yn ein herbyn ni ac roedden nhw'n rhoi'r argraff ein bod yn gwastraffu eu hamser.”

Yn ôl Emma roedd profiad cyntaf y teulu o’r heddlu wedi “ei siomi’n fawr”.

Ar ôl trafod pryderon y teulu gyda Heddlu'r De fe wnaeth y llu apêl o'r newydd am wybodaeth yn y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Celyn, mae ei thalcen yn parhau'n boenus er bod y graith wedi diflannu

Ym mis Ebrill eleni, saith mis wedi’r digwyddiad yn y dafarn fe gafodd y teulu wybod na fyddai’r achos yn mynd ymhellach a hynny yn sgil diffyg tystion a camerâu cylch cyfyng o safon wael yn y dafarn.

Ar ddau achlysur, dywed y teulu eu bod wedi gofyn am weld ffilm y camera cylch cyfyng ond nid yw’r heddlu wedi rhannu’r cynnwys.

“Ry’n ni’n teimlo ein bod ni wedi cael ein gadael lawr gan y bobl sydd i fod yn ein hamddiffyn ni,” meddai Emma

Ym mis Mai, gofynnodd cyfreithiwr y teulu am adolygiad o benderfyniad yr heddlu i beidio â chyhuddo’r sawl a ddrwgdybir, fel rhan o Gynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.

Dywedodd Heddlu De Cymru y bydden nhw’n diweddaru’r teulu gyda chanlyniad yr adolygiad erbyn diwedd Gorffennaf 2024 ond dyw'r teulu ddim wedi clywed dim hyd heddiw.

“Mae’n gwneud i chi deimlo eich bod chi’n gwneud môr a mynydd dros ddim byd – dyw e ddim yn ddim byd,” meddai Celyn, sydd bellach yn teimlo na fyddai “unrhyw bwynt” mynd at yr heddlu pe bai rhywbeth arall yn digwydd iddi.

“Rwy’n nerfus yn mynd allan – dwi 'di bod allan deirgwaith ers iddo ddigwydd. Roeddwn i’n arfer mynd allan bob penwythnos," meddai Celyn.

“Rydw i eisiau iddi gael cyfiawnder," meddai Emma.

“Mae hi’n 21, fe ddylai fod yn byw ei bywyd,” ychwanegodd.

“Mae hyn wedi bod yn drawmatig iddi. Fyddwn i ddim eisiau i unrhyw un arall orfod mynd trwy hyn - yn gorfod ymladd mor galed pan rydych chi wedi dioddef trosedd erchyll."

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "cydnabod" siom Celyn a'i theulu.

"Rydym yn ymdrechu i roi'r dioddefwr wrth galon unrhyw ymchwiliad ac mae'n siomedig pan nad ydynt yn cael canlyniad cadarnhaol," meddai'r Uwch-arolygydd Michelle Conquer.

“Mae Hawl Dioddefwr i Adolygiad bellach ar y gweill ar gyfer y mater hwn - mae hyn yn cael ei gynnal gan swyddog annibynnol nad yw wedi bod yn gysylltiedig â’r achos o’r blaen er mwyn sicrhau adolygiad gwrthrychol trylwyr.

“Byddwn yn sicrhau bod y dioddefwr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau.”

Pynciau cysylltiedig