Moore, Burns a Beck ddim ar gael i wynebu Twrci a Gwlad yr Iâ

Kieffer Moore a Wes BurnsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Gymru wneud heb Moore a Burns dros y ddwy gêm nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Kieffer Moore wedi tynnu allan o garfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ.

Fe anafodd ymosodwr Sheffield United ei goes yn ystod buddugoliaeth ddiweddar y Blades yn erbyn Bristol City yn y Bencampwriaeth.

Mae Moore ymhlith tri chwaraewr sydd wedi tynnu allan o garfan y rheolwr Craig Bellamy ar gyfer y gêm yn erbyn Twrci yn Kayseri ddydd Sadwrn, ac ymweliad Gwlad yr Iâ â Chaerdydd dridiau'n ddiweddarach.

Mae’r asgellwr Wes Burns a'r amddiffynnwr Owen Beck hefyd wedi'u hanafu.

Mae Bellamy wedi galw’r amddiffynnwr Jay Dasilva o Coventry, Charlie Savage o Reading, a Luke Harris o Birmingham i'r garfan i gymryd eu lle.

Mae Cymru eisoes heb y capten Aaron Ramsey, Ethan Ampadu o Leeds United ac Ollie Cooper o Abertawe oherwydd anafiadau.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn ail yn eu grŵp y tu ôl i Dwrci ar ôl ennill dwy gêm a chael dwy gêm gyfartal.

Pynciau cysylltiedig