Babi chwe mis oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad maes parcio

Sophia KelemenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sophia Kelemen yn dod o Leigh yn ardal Manceinion

  • Cyhoeddwyd

Mae babi chwe mis oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Sir Benfro.

Cafodd Sophia Kelemen, o Leigh ger Manceinion, ei chludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar 2 Ionawr ond bu farw o'i hanafiadau ddiwrnod yn ddiweddarach.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 16:00 ddydd Iau ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sophia ei chludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ond bu farw o'i hanafiadau

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cydymdeimlo gyda'r teulu, gan ychwanegu eu bod yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Cafodd dyn 33 oed ei arestio wedi'r digwyddiad.

Mae Flaviu Naghi o ardal Wigan bellach wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, gyrru heb drwydded a gyrru heb yswiriant.

Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Ninbych-y-pysgod

Roedd hefyd yn cael ei amau o yfed a gyrru, a gyrru dan ddylanwad cyffuriau ac mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â'r troseddau hyn.

Fe wnaeth Mr Naghi ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn, a bydd gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Chwefror.