Achub pedwar wedi i gar droi ar ei ochr ger cronfa ddŵr
- Cyhoeddwyd
Cafodd person ei gludo i'r ysbyty ar ôl i gar droi drosodd yn agos at ochr cronfa ddŵr ddydd Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad un cerbyd ger Cronfa Ddŵr Claerwen yng Nghwm Elan, Rhaeadr toc cyn 16:00.
Roedd y cerbyd ar ei ochr ar ôl troi drosodd ger y gronfa ddŵr, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Roedd pedwar o bobl yn y gwrthdrawiad, a chafodd un person ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd Gwylwyr y Glannau.
Nid oes mwy o fanylion am gyflwr y person sydd yn yr ysbyty.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod y digwyddiad hwn yn "arbennig o heriol oherwydd diffyg golau, tirwedd anodd, agosrwydd at ymyl y dŵr, signal radio a ffôn gwael ac amodau rhewllyd".
Fe wnaeth y gwasanaeth tân adael y lleoliad toc cyn 21:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2024