Carcharu gyrrwr oedd yn 'dangos ei hun' am ladd merch, 15, ar groesfan

Roedd Keely Morgan, 15, yn croesi'r ffordd pan gafodd ei tharo gan gar Christopher West
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi cael ei garcharu am 16 mis ar ôl lladd merch 15 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.
Bu farw Keely Morgan ar ôl cael ei tharo gan gar ar Heol Trelái am tua 21:30 ar 1 Mai 2023, wrth iddi geisio croesi'r ffordd ar groesfan sebra.
Clywodd gwrandawiad blaenorol fod Christopher West, 42 o Drelái, wedi bod yn teithio ar gyflymder o rhwng 32mya a 43mya mewn parth 30mya.
Roedd wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru yn ddiofal, ac achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant.
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023
Dywedodd y barnwr Paul Hobson fod datganiadau teulu Keely wedi dangos "fod y golled wedi llorio pawb oedd yn ei charu".
Ychwanegodd ei bod yn "ddynes ifanc a oedd yn rhan o rwydwaith deuluol eang" a bod "pethau yn edrych ar ei fyny iddi ar ôl Covid ac ar ôl iddi brofi trafferthion gyda'i hiechyd".
Clywodd y llys iddi gael trawsblaniad aren yn 2021.
Y gyrrwr yn 'dangos ei hun'
Dangosodd lluniau camerâu cylch cyfyng fod Keely yn defnyddio iPad wrth iddi groesi'r ffordd.
Yn ôl y barnwr, "roedd Keely yno i'w gweld" ac y dylai West "fod wedi ei gweld hi, ac wedi stopio".

Mae Christopher West wedi cael ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd ac wyth mis
Clywodd y llys dystiolaeth gan deithwyr ifanc yng nghar West, a ddywedodd ei fod yn "dangos ei hun" ac yn llywio'r car o ochr i ochr ar y noson dan sylw.
"Mae'r darlun sy'n cael ei greu ohonoch yn un o rywun anghyfrifol sy'n dangos ei hun," meddai Mr Hobson wrth West.
"Er eich bod chi efallai yn edifar am yr hyn ddigwyddodd, rydych chi'n amlwg yn poeni yn fawr amdanoch chi eich hun."
Yn ystod yr achos clywodd y llys fod West i'w weld yn "syrthio ar ei fai" wedi'r digwyddiad a'i fod yn amlwg wedi cynhyrfu.

Mae murlun er cof am Keely Morgan wedi'i greu yn agos i leoliad y digwyddiad
Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr fod "difrifoldeb y drosedd hon, a chyfuniad o ffactorau eraill" yn golygu fod dedfryd o garchar yn anochel.
Cafodd West ddedfryd 16 mis o garchar am achosi marwolaeth drwy yrru yn ddiofal, ac 11 mis am achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant. Bydd y ddwy ddedfryd yn cydredeg.
Mae hefyd wedi cael ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd ac wyth mis.
'Creulon'
Wedi'r ddedfryd, dywedodd y teulu mewn datganiad: "Mae canlyniad heddiw yn anodd i'n teulu.
"Tra ein bod yn parchu penderfyniad y llys, ni allwn ond teimlo nad yw'r ddedfryd yn adlewyrchu maint yr hyn a gymerwyd oddi wrthym.
"Dim ond 15 oed oedd Keely – yn llawn bywyd, gobaith, a phosibiliadau diddiwedd ac mae ei marwolaeth wedi dinistrio ein teulu a'n cymuned.
"Bydd y boen o'i cholli mewn ffordd mor greulon ac mewn ffordd y gallai fod wedi cael ei atal yn aros gyda ni am byth."
Fe ychwanegodd y teulu bod yn "rhaid gwneud mwy i sicrhau bod gyrwyr peryglus a diofal yn wynebu canlyniadau go iawn" er mwyn "amddiffyn eraill a gwerthfawrogi bywydau cerddwyr".