139 Pwdin Dolig a dros £3,000 i bobl Colombia

Menna Lloyd WilliamsFfynhonnell y llun, Undeb yr Annibynwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Menna Lloyd Williams wedi coginio degau o bwdinau Dolig ar gyfer apêl Ffynhonnau Byw

  • Cyhoeddwyd

Ers mis Medi mae Menna Lloyd Williams wedi bod yn coginio degau o bwdinau Nadolig yn ei chartref yn Aberystwyth a hynny ar gyfer Apêl Ffynhonnau Byw Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Mae'r apêl yn cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn rhyngwladol ond yn ystod 2023-24 mae wedi bod yn canolbwyntio ar waith yr elusen yn Colombia.

"Dwi wedi bod wrth fy modd. Pan glywais i am yr apêl dyma fi'n trafod gyda thrysorydd Undeb yr Annibynwyr ac wedi i ni anfon y syniad allan i eglwysi roedd yr ymateb yn anhygoel.

"Dwi fel arfer yn gwneud ryw 40 pwdin i ffrindiau a dyma feddwl petawn i'n g'neud cant - gyda phob eglwys yn prynu deg am £20 yr un y byddwn i'n codi £2,000 ond erbyn hyn dwi wedi gwerthu 139 ac wedi codi dros £3,000 - mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel.

"Dwi hefyd wedi gwneud 50 pwdin 'Dolig arall i ffrindiau."

posterFfynhonnell y llun, Undeb yr Annibynwyr

Mae cyflwr economi Colombia wedi gwella'n sylweddol yn ddiweddar ond mae'r wlad yn parhau yn dlawd.

Yn ôl Banc y Byd, mae Colombia yn dal i fod yn un o wledydd mwyaf anghyfartal y byd gyda'r 10% o enillwyr cyflog uchaf yn derbyn 40% o incwm y wlad - mae hynny 10 gwaith yn fwy na'r hyn y mae'r 20% isaf yn ei dderbyn.

Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio yn Colombia ers dros 20 mlynedd gan gefnogi cymunedau sydd wedi'u heffeithio gan drais, a diffyg hawliau merched.

Mae nhw hefyd wedi bod yn amddiffyn hawliau tir pobl frodorol ac yn cefnogi ffermwyr i addasu yn sgil newid hinsawdd.

pwdin doligFfynhonnell y llun, Undeb yr Annibynwyr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymateb yr eglwysi yn anhygoel, medd Menna Lloyd Williams

"'Nes i anfon holiadur yn gofyn i bobl am eu anghenion deiet ac felly mae rhai o'r pwdinau yn ddi-glwten," ychwanegodd Menna Lloyd Williams.

"Un o'r problemau mwyaf oedd dod o hyd i gynhwysion masnach deg - roedd hynny yn gwbl bwysig ac er mwyn cael y cyfan bu'n rhaid i fi archebu o siop arbenigol yn Llundain.

"Rysáit Ina oedd yn arfer bod ar Heno sydd gen i ac yna roeddwn yn addasu yn ôl y galw. Roeddwn i'n gwneud chwech o bwdinau ar y tro gan gymysgu'r cyfan y noson gynt.

"Y diwrnod wedyn roeddwn yn coginio'r pwdinau am bedair awr ac oes mae gen i dri slow cooker!

"Yna pacio'r pwdinau yn ddel a'u labelu - ges i rai cannoedd o labeli gan ffrind. Yr unig beth sydd yn rhaid i'r sawl sydd wedi'u derbyn ei wneud yw eu rhoi yn y microdon."

'Jeli coch a blomonj i bwdin'

Ond ni wnaeth Menna Lloyd Williams ei hun fwyta pwdin Dolig ar 25 Rhagfyr.

Ar y cyfryngau cymdeithasol dangosodd lun ohoni hi ei hun yn bwyta jeli coch a blomonj!

Cyn y Nadolig dywedodd: "Dwi'n edrych ymlaen at ddiwrnod tawel yn myfyrio ar wir ystyr yr ŵyl.

"Mi wnai fwyta pwdin Dolig ar ôl diwrnod Dolig mae'n siŵr ond yr hyn sydd wedi bod mor braf yw cefnogi apêl mor arbennig ac rwy'n diolch i'r eglwysi a ffrindiau am bob cefnogaeth."

Pynciau cysylltiedig