'Mae'n wael ofnadwy' - Cymry am finiau Birmingham

Joseff Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n clywed y llygod mawr yn y biniau," meddai Joseff Griffiths

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymry sy'n byw yn Birmingham yn dweud eu bod "ddim yn gweld diwedd" i streic casglwyr sbwriel, sydd wedi gadael y ddinas yn "drewi".

Mae Joseff Griffiths o Gydweli yn wreiddiol, ac yn astudio mathemateg ym Mhrifysgol Birmingham.

Mae'n byw yn ardal y myfyrwyr yn y ddinas.

Mae'n dweud fod streic y casglwyr sbwriel a biniau, ddechreuodd ar 11 Mawrth, yn destun siarad a gofid mawr.

Biniau heb eu casglu ym Mirmingham.Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn cadw "golwg fanwl" ar y sefyllfa

"Ar fy hewl i mae'n wael ofnadwy achos s'dim wheelie bins gyda ni," meddai.

"Mae'r bagiau plastig du yn cael eu rhwygo gan lygod a chathod. Mae'n drewi ar hyd y stryd.

"Rwy'n clywed y llygod mawr yn y biniau. Mae'n ofnadwy. Ma' cymaint o sbwriel ar y strydoedd fan hyn, mae e ymhobman."

Mae undeb Unite, sy'n arwain y gweithredu, yn dweud y bydd cynlluniau'r cyngor i ailstrwythuro'r gwasanaeth biniau yn golygu y bydd 50 o weithwyr yn colli £8,000 y flwyddyn mewn cyflog.

Mae Cyngor Dinas Birmingham yn gwadu hynny, ac ar hyn o bryd does dim sôn fod yr anghydfod ar fin cael ei ddatrys.

Elinor Hubbard
Disgrifiad o’r llun,

"Ble fi'n byw mae llwythi a llwythi o finiau yn llawn dop," medd Elinor Hubbard

Mae hynny'n siom i Elinor Hubbard, o Borth Tywyn yn wreiddiol ond sydd nawr yn astudio athroniaeth yn y brifysgol yn Birmingham.

"Ble fi'n byw mae llwythi a llwythi o finiau yn llawn dop.

"Yn yr ardal hon, sef Selly Oak, ma' lot o fyfyrwyr yn byw ac mae'n lle braf fel arfer, ond dim ar hyn o bryd."

Dyw Elinor ddim yn gweld y ddwy ochr yn dod i gytundeb am beth amser eto.

"Dwi ddim yn gweld diwedd i hyn. Ma' pawb jyst yn aros i weld be' sy'n digwydd a be' mae'r cyngor yn mynd i 'neud."

Mae rhai pobl yn y ddinas wedi gorfod troi at dalu cwmnïau preifat i fynd â'u sbwriel i ffwrdd.

Anwen Jewell
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anwen Jewell bod y biniau bwyd yn "gorlifo a thomen o wastraff hyd at dair troedfedd"

Dywed Anwen Jewell o Sir Fôn sy'n gweithio fel nyrs plant yn Birmingham bod "rhai strydoedd yn 'lan yn yr ardaloedd mwy cefnog".

Mae hi'n byw mewn ardal yng nghanol y ddinas ac yn poeni am y biniau ailgylchu.

"Mae'r biniau bwyd yn gorlifo a thomen o wastraff hyd at dair troedfedd sy' jyst yn codi yn uwch ac uwch bob dydd."

Mae Anwen yn pryderu am iechyd pobl oherwydd y bryntni.

"Rwy'n poeni yn fawr am effaith y llanast o'r biniau a llygod a llwynogod o gwmpas y lle - yn enwedig yn yr ardaloedd mwy tlawd."

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn cadw "golwg fanwl" ar y sefyllfa, ac mae cyngor y ddinas ac undeb Unite ill dau yn mynnu eu bod dal yn "barod i drafod."

Pynciau cysylltiedig