Merched Cymru'n trechu Awstralia yn Brisbane

Cymru v AwstraliaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y tro cyntaf erioed i dîm merched Cymru herio Awstralia ar eu tomen eu hunain

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm rygbi merched Cymru wedi cael y dechrau perffaith i'w paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd gyda buddugoliaeth o 12-21 dros Awstralia yn Brisbane.

Dyma'r fuddugoliaeth gyntaf i'r prif hyfforddwr newydd Sean Lynn, wedi iddyn nhw golli pob gêm yn y Chwe Gwlad eleni.

Dyma hefyd oedd y tro cyntaf erioed i dîm merched Cymru herio Awstralia ar eu tomen eu hunain.

Aeth Awstralia ar y blaen gyda chais gan Annabelle Codey, cyn i'r gêm orfod cael ei hoedi am hanner awr wrth i storm basio dros Stadiwm Ballymore.

Ar ôl ailddechrau, Cymru oedd ar y droed flaen, gyda Nel Metcalfe yn croesi am ddau gais.

Ond fe lwyddodd Awstralia i daro nôl gyda chais gan Tabua Tuinakauvadra i'w gwneud hi'n 12-14 i Gymru ar yr egwyl.

Cymru v AwstraliaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru'n herio Awstralia eto ddydd Gwener nesaf

Daeth cais ola'r gêm i Hannah Dallavalle - oedd yn arfer cael ei hadnabod fel Hannah Jones - ar ddechrau'r ail hanner, ac fe lwyddodd Cymru i ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth tan y chwiban olaf.

Mae Cymru yn Awstralia fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, sy'n dechrau yn Lloegr ar 22 Awst.

Mae merched Cymru mewn grŵp gyda'r Alban, Canada a Fiji ar gyfer y bencampwriaeth.

Bydd Cymru'n herio Awstralia eto ddydd Gwener nesaf, cyn teithio yn ôl i'r DU i barhau â'u paratoadau cyn herio'r Alban yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ar 23 Awst.