'Hyderus' y bydd seremoni agoriadol Euro 2028 yng Nghaerdydd

Mae Stadiwm Principality Caerdydd yn un o 10 lleoliad posib i gynnal y gemau
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd seremoni agoriadol pencampwriaeth Euro 2028 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, yn ôl trafodaethau yn y Senedd.
Mae Cymru'n cyd-gynnal y bencampwriaeth ochr yn ochr â Lloegr, Iwerddon a'r Alban.
Ond wrth drafod digwyddiadau mawr yn y Senedd ddydd Mawrth datgelodd yr Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, y bydd chwech o'r gemau yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Wrth ateb, aeth yr Aelod Seneddol Ceidwadol Samuel Kurtz ymhellach gan ddweud: "Chwe gêm Euro 2028, a nid dim ond chwe gêm, ond y seremoni agoriadol hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn "hyderus iawn" y bydd y seremoni agoriadol yng Nghaerdydd.
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
Dim ond y DU ac Iwerddon wnaeth gyflwyno cynnig i gynnal pencampwriaeth Euro 2028 ac roedd yna gadarnhad swyddogol bod y cais wedi llwyddo mewn cyfarfod UEFA yn Nyon yn y Swistir ym mis Hydref 2023.
Mae Stadiwm Principality Caerdydd yn un o 10 lleoliad posib i gynnal y gemau, ac ar hyn o bryd dyma'r ail leoliad sydd â mwyaf o le.
Dyw'r wybodaeth bod CBDC yn ceisio cael y gêm agoriadol ddim yn newydd, a'r gobaith yw y bydd Caerdydd yn cynnal o leiaf tair gêm grŵp a rownd yr wyth olaf.
Dywedodd Ms Evans fod cynnal chwe gêm pencampwriaeth Euro 2028, yn ogystal â sicrhau un o brif gymalau y Tour de France yn 2027, yn "gamp sylweddol" i Gymru.
"Gallwn fod yn hyderus y bydd y buddion economaidd yn sylweddol, ac y bydd yna awyrgylch fywiog i gymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd," meddai.
Mewn trafodaeth, ychwanegodd Mr Kurtz: "Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle sylweddol i hybu ein heconomi, arddangos diwylliant Cymru, a denu sylw byd-eang i'n tirweddau, ein cymunedau a'n lleoliadau sydd o safon fyd-eang."