'Newid yn natur cymdeithas yn her i eglwysi,' medd gweinidog

Parch Gareth Morgan JonesFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Gareth Morgan Jones yn dweud bod y "patrwm newydd" o rieni yn symud i fod yn agosach at eu plant, yn cael effaith fawr ar eglwysi ac yn "her fawr"

  • Cyhoeddwyd

Dywed gweinidog o Bontardawe, sy'n dathlu 60 mlynedd o fod yn weinidog, mai'r her ddiweddaraf i eglwysi yw'r newid mewn demograffi.

"Mae 'na newid mawr wedi digwydd yn yr ardaloedd gwledig a'r trefi diwydiannol, mae natur cymdeithas 'di newid," medd y Parchedig Gareth Morgan Jones.

"Mae Covid wedi effeithio ar eglwysi ond mae demograffi 'di newid hefyd.

"Mae poblogaeth yn newid, pobl yn heneiddio, a'r bobl ifanc yn symud i ardaloedd eraill, ond be sy'n digwydd nawr, y patrwm newydd, yw bod rhieni yn symud i Gaerdydd, er enghraifft, ddywedwn i, i fod yn agosach at eu plant - dwi'n gweld hwnna'n effeithio'n fawr ar ein heglwysi ni yma.

"Mae hwn yn drend newydd ac yn her fawr."

Ceredigion yn magu gweinidogion

Capel Hawen, Rhydlewis a Gareth Morgan Jones yn ifancFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r gymdogaeth yn ardal Rhydlewis, a chapel Hawen yn y pentref, yn ddylanwad cryf ar y bachgen ifanc oedd â'i fryd ar fynd i'r weinidogaeth

Fe gafodd y Parch Gareth Morgan Jones ei eni a'i fagu yn Rhydlewis yng Ngheredigion.

"Roedd y fagwraeth a'r gymdogaeth yn Rhydlewis wedi cael cryn ddylanwad arnai, yr ysgol gynradd ac yna'r Ysgol Ramadeg yn Llandysul, oedd y tu hwnt o dda i'r rheiny ohonom ni oedd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth.

"O'n i'n cyfri bod pymtheg ohonom ni, bron yn yr un cyfnod, wedi mynd o'r ysgol i'r weinidogaeth, roedden nhw'n hynod o gefnogol ac o'n i hyd yn oed yn cael cyfle i ddysgu Groeg!

"Roedd athro y clasuron, yr athro Lladin, yn dysgu Groeg i ni yn y tŷ gwydr, ynghanol y cactus!"

Creu englyn mewn oedfa

Wedi cyfnod yng Ngholeg Coffa Abertawe, fe dderbyniodd y Parchedig Gareth Morgan Jones ei swydd gyntaf yn y weinidogaeth yn ardal Dolgellau.

"Cefais f'ordeinio yn eglwysi Brithdir, Rhydymain aTabor, Sir Feirionnydd yn1965 a phriodi â Jill, sydd yn wreiddiol o Gors-las, y flwyddyn ganlynol.

"Roedd yr ofalaeth yn feithrinfa ardderchog i weinidog ifanc 21 oed," meddai.

"Roedd hi'n ardal ddiwylliedig iawn; dwi'n cofio mynd i bregethu un dydd Sul yn Tabor ac ar ddiwedd yr oedfa, dyma Tomi Rowlands, y Belan, yn rhoi englyn i fi!

"Yn ble arall fysech chi'n cael englyn wedi'i gyfansoddi yn ystod oedfa?!

"Roedd yn gyfnod da iawn yn Sir Feirionnydd. Roedd 'na, digwydd bod, griw mawr ohonon ni oedd yn weinidogion ifanc a dibrofiad ond roedden ni'n lwcus i gael ein mentora gan weinidogion profiadol oedd o'n cwmpas fyd, yn yr amser cyn bod y gair mentor yn bod!"

Parch Gareth Morgan Jones gyda Jill ei wraig yn 1965, yn weinidog ifanc yn ardal Brithdir, Rhydymain a Tabor, Sir FeirionnyddFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y Parchedig Gareth Morgan Jones, gyda Jill ei wraig, yn 1965, yn weinidog ifanc yn ardal Brithdir, Rhydymain a Tabor, Sir Feirionnydd

Awyrennau'r Awyrlu'n amgylchynu angladd

Fe gafodd Gareth Morgan Jones un profiad brawychus iawn yn ystod angladd yn Sir Feirionnydd.

"Pan ro'n i yn y fynwent, dyma 'na awyrennau yn dod o rywle, degau ohonyn nhw, a dechre amgylchynu'r ardal ger godre Cader Idris.

"Fe wnes i gwyno ac fe ddaeth y wasg yno a dyna'r tro cyntaf i fi ddod wyneb yn wyneb â'r wasg, roedden nhw'n awyddus i gael y stori!

"A dwi'n cofio'r bore y ces i'r ymddiheuriad gan yr Awyrlu bo' nhw wedi gwneud y fath beth. Roedd o'n frawychus iawn ar y pryd."

Mae profiad arall, hapusach, yn aros yn y cof.

"Fe ges i'r profiad o arwain fy nrama nadolig gyntaf… roedd, digwydd bod, baban go iawn efo ni yn y crud, baban ychydig wythnosau oed!

"Fe wnaeth Mair ymdopi'n rhyfeddol, ond, rhowch o fel'ma, babi plastig ddefnyddion ni o hynny mlaen!"

Llun o Gareth Morgan Jones fel gweinidog ifancFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Morgan Jones yn weinidog ifanc

Fe symudodd Gareth Morgan Jones yn ddiweddarach i Sir Gaerfyddin i ardal Llangeler a Hermon, Cynwyl Elfed ac yn ystod yr wyth mlynedd yno ganwyd eu plant, Endaf, Sian a Rhian.

"Roedd y tri yn fach iawn efo ni ac un diwrnod, mi ddedais i bo fi'n mynd ag Endaf, yr hynaf, oedd tua pedair neu bump oed, i'r cwrdd.

"Dyma fi'n rhoi fe i eistedd ar bwys un o'r aelodau, pan o'n i'n cyrraedd y weddi, roedd 'di dod i'r sedd fawr i eistedd ar bwys un o'r diaconiaid, ac erbyn o'n i'n pregethu, roedd o yn y pulpud, wedi tynnu'i got ac yn edrych ar y gynulleidfa!"

Bedydd y mab hynaf, Endaf, yn 1972Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bedydd y mab hynaf, Endaf, yn Llangeler yn 1972

Ymgyrchu am ail ysgol Gyfun Gymraeg yng Nghwm Tawe

Yn 1977, yn awyddus i symud i ardal mwy trefol, fe symudodd y teulu i Gwm Tawe pan gafodd Mr Jones ofalaeth yn ardal Pontardawe ac Ynysmeudwy.

Ychwanegwyd Capel Soar Maesyrhaf, Castell-nedd a'r Alltwen i'r ofalaeth ac yno mae'n parhau i weinidogaethu hyd heddiw.

Yno, bu'n ymgyrchu i sefydlu Ysgol Gyfun Gŵyr, ail ysgol uwchradd Gymraeg i'r ardal.

"Roedd 'na ddirywiad wedi bod, mor belled ag oedd trosglwyddiad iaith yn y cwestiwn, ac fe sylweddolodd eglwysi cylch Pontardawe bod angen addysg Gymraeg yn yr ardal.

"Roedden nhw'n sylweddoli bod yr iaith yn marw o fewn un cenhedlaeth ac yn gwybod pa mor bwysig oedd hi bod 'na ysgolion Cymraeg yn cael eu sefydlu.

"Fuodd 'na ymgyrchu mawr i sicrhau ysgol Gymraeg ym Mhontardawe i ddechrau, Ystalyfera, roedd honno wedi bod yn frwydr fawr iawn ond roedd angen ail ysgol gyfun, a fuodd honno'n frwydr hir, blynyddoedd, a deud y gwir .. .ond erbyn hyn, mae wyres i mi yn ddisgybl yno!"

Ysgol Gyfun Gwyr
Disgrifiad o’r llun,

40 mlynedd ers ei hagor, mae oddeutu 1,500 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol Gyfun Gŵyr heddiw

Caplaniaeth am 40 mlynedd

Fel rhan o'i waith yn yr ofalaeth, bu'r Parchedig Jones yn gaplan yn ysbytai'r ardal gan gynnwys Ysbyty Gelli-nudd ym Mhontardawe, Ysbyty Tonna i gleifion oedd yn dioddef gyda dementia ac alzheimers, Ysbyty Treforys ac Ysbyty Baglan.

Er iddo fwynhau ei gyfnod fel caplan dros 40 mlynedd, mae tair trychineb yn aros yn y cof.

"Yn gyntaf, Corus neu Tata lle roedd tanchwa yn 2001 ac fe gollodd tri o ddynion eu bywyd, ac fe gawson ni, fel caplaniaid, ein galw i mewn o fewn ychydig oriau iddo ddigwydd, i'r hyn roedden nhw'n ei alw'n major incident.

"O'n i'n gyfrifol am deulu un o'r bechgyn ieuengaf gafodd ei ladd ac fe fues i'n ymweld â'r aelwyd sawl gwaith dros y blynyddoedd.

"Dwi'n cofio cymryd rhan yn yr angladd ac roedd hwnnw'n brofiad cofiadwy iawn."

y 4 fu farw ym mhwll glo'r GleisionFfynhonnell y llun, Lluniau Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins ym mhwll glo Gleision ar 15 Medi 2011

"Yn ail, trychineb y Gleision lle roedd pedwar person wedi cael eu lladd mewn pwll glo preifat ym Mhontardawe ac ro'n i digwydd bod yn nabod un neu ddau o'r teuluoedd 'ny.

"A'r drychineb arall oedd y pâr ifanc oedd newydd briodi yn eglwys Cilybebyll ac a oedd 'di mynd ar eu mis mêl i Antigua."

Ben a Catherine MullanyFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe hawliodd llofruddiaethau Ben a Catherine Mullany y penawdau newyddion o gwmpas y byd yn 2008

"Fe dorrodd rhywun mewn i'r lle roedden nhw'n aros a'u lladd nhw. Fe gafodd hi eu lladd ar unwaith ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ac fe fuodd e farw nôl yn Nhreforys."

Roedd Catherine Mullany yn feddyg yn Ysbyty Treforys a'i gŵr Ben yn ffisiotherapydd.

"Roedd y briodferch yn ffrind ysgol i Rhian, y ferch ieuengaf, o'n i'n nabod y teulu'n dda, ac wedi bod gyda nhw lawer gwaith.

"Roedd e'n brofiad erchyll yn hanes y teulu yna'n arbennig."