Buddugoliaeth Clwb Pêl-droed Llanuwchllyn yn 'chwerw felys'

John ManziniFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw John Manzini, Llywydd Clwb Llanuwchllyn, ddiwrnod cyn y gêm yn erbyn Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd

Roedd buddugoliaeth Clwb Pêl-droed Llanuwchllyn yn erbyn Y Drenewydd yng Nghwpan Cymru yn chwerw felys, ar ôl i lywydd y clwb farw'n annisgwyl.

Roedd curo'r Drenewydd ar giciau o'r smotyn ddydd Sadwrn yn golygu mai hon oedd y gêm fwyaf a'r canlyniad mwyaf yn hanes clwb Llanuwchllyn.

Ond mae 'na dristwch wedi marwolaeth llywydd y clwb, John Manzini, ddiwrnod cyn y gêm.

Dywedodd ei gyfnither, Haf Llewelyn y "basa fo wedi bod wrth ei fodd efo’r canlyniad".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Manzini yn un o fil, medd ei gyfnither, Haf Llewelyn

Roedd John Manzini, 82, yn chwaraewr pêl-droed poblogaidd.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei gyfnither, Haf Llewelyn: "Dwi’n meddwl base pawb yn Llan yn cydnabod bod John yn un o fil."

"Unrhyw gymwynas mi fase John yna i’w gwneud hi ac wedyn mi'r oedd clwb pêl-droed Llanuwchllyn yn ganolbwynt i’w fywyd o... roedd o’n ffyddlon iawn ac yn driw iawn.

"Mi wnaeth y clwb wrth gwrs roi teyrnged hyfryd iddo a fase fo wedi bod yn dathlu!

"Felly mi roedd hi’n fuddugoliaeth chwerw... melys a chwerw mewn ffordd - dyna sut oeddan ni’n cwmpasu dydd Sadwrn."

Disgrifiad o’r llun,

Ennill y gêm oedd y deyrnged orau i John Manzini, medd Iwan Arthur Jones o'r clwb

Dywed Iwan Arthur Jones, sy'n aelod o bwyllgor rheoli Clwb Pêl-droed Llanuwchllyn bod y newyddion am farwolaeth John wedi ysgwyd y gymuned gyfan.

"Ddydd Gwener gawsom ni’r newyddion bod John Manzini wedi ein gadael ni yn frawychus o sydyn.

"Roedd pawb yn gegrwth... a ddim yn poeni llawer am ganlyniad y gêm ddydd Sadwrn ond mae fath â bod rhai pethe i fod weithiau ac yn bendant doedd 'na ddim teyrnged well i’r hen John annwyl na bod ni wedi ennill."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Llanuwchllyn yn cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf ddydd Mercher

Gyda chic o’r smotyn, Gwydion Ifan a sicrhaodd y fuddugoliaeth i Lanuwchllyn gan achosi cynnwrf mawr ar gae’r Llan.

Gyda'r Drenewydd ddwy gynghrair yn uwch na Llanuwchllyn yn Uwch Gynghair Cymru, dywedodd Iwan Arthur Jones: "Heb os y gêm fwyaf yn hanes y clwb a’r canlyniad mwyaf yn eu hanes.

"Roedd yn ddiwrnod i’w gofio… diwrnod arbennig a dwi’n meddwl, fwy neu lai, mai Llan oedd y tim gore. Roedd yna ddau gerdyn coch i’r Drenewydd."

Bydd Llanuwchllyn yn cael gwybod ddydd Mercher pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf.

Pynciau cysylltiedig