Cwestiynu symptomau am dair blynedd cyn diagnosis prin

Luned Davies
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn cynnwys gwybodaeth allai beri gofid.

Yn 23 oed, mae Luned Davies o Fanwen, Castell-nedd, yn byw gyda'r cyflwr gastroparesis.

Dyma gyflwr lle mae'r stumog wedi'i barlysu ac yn methu treulio bwyd yn iawn.

Dechreuodd ei symptomau nôl ym mis Awst 2020, a phan aeth at y doctor am y tro cyntaf cafodd ei chyfeirio at arbenigwr anhwylderau bwyta.

Ond yn ôl Luned, doedd neb yn ei "chymryd hi o ddifri".

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn gofyn am ymateb.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Luned yn gobeithio y bydd rhannu ei stori yn help i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr "cudd" gastroparesis

"O'n i'n colli pwysau, o'n i jest ddim moyn bwyd. O'n i'n teimlo'n llawn trwy'r amser. Ma' rhywbeth yn bod fan hyn.

"Es i nôl ac ymlaen i'r doctor a o'n i'n cal blood tests a pethe ond o'n nhw ddim yn cymryd fi'n serious.

"O'n nhw'n gweud eating disorder yw hwn."

Fe aeth Luned at ddoctor preifat hefyd i dderbyn mwy o brofion.

Erbyn mis Awst 2022, a hithau wedi colli cymaint o bwysau, roedd pawb yn ofni'r gwaethaf.

"O'n i ffili cerdded, o'n i ffili edrych ar ôl fy hunan. O'dd rhaid i Mam fynd a fi mewn i'r gawod, codi fi off y toilet.

"O ti'n gallu gweld pob asgwrn, popeth a o'dd pobl yn meddwl o'n i moyn bod fel 'na.

"Do'dd neb yn gwybod be o'dd yn digwydd achos o'n nhw'n gallu gweld fi'n byta, ond wedyn o'n i'n bod yn sick ar ôl 'ny.

"Wedon nhw 'Smo ni'n meddwl ti mynd i fyw trwy hwn'."

Dywedodd Luned mai'r peth anoddaf oedd gweld y straen ar ei theulu.

"I fi y peth gwaethaf yw gweld Mam a Dad, a'r teulu yn dioddef a gweld yr effaith fi 'di cael arnyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg fe ddywedwyd wrth Luned nad oedden nhw'n credu y byddai'n byw

Fe gymrodd hyd at dair blynedd iddi hi dderbyn diagnosis o'r cyflwr, ac roedd yn anodd i Luned ddelio gyda phobl yn cwestiynu ei symptomau, meddai.

"O'dd pobl yn dweud wrthai, sdim byd yn bod 'da ti, mae e i gyd yn dy ben di.

"O'dd pobl yn meddwl o'n i moyn colli pwysau ond o'n i byth moyn bod fel hyn.

"Bydden i byth moyn unrhywun i fod fel hyn.

"O'n i'n dweud yn aml o'n i ddim moyn bod 'ma, ond o'n i byth yn mynd i 'neud dim byd a effeithio bywyd teulu fi yn fwy."

Gall symptomau amrywio o golli pwysau, chwydu a theimlo'n llawn a does dim gwellhad.

Yn ôl y deitegydd Gwawr James, mae'n rhaid i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr addasu eu deiet.

"Unwaith mae nerfau'r stumog wedi cael eu niweidio, does dim gwella iddyn nhw, felly ma' 'na lot o bethau i wneud 'efo deiet.

"Yn draddodiadol, 'da ni'n dweud bod angen bwyta tri phryd mawr y dydd - brecwast, cinio, swper. Yn fan hyn, fysa ni falle'n awgrymu pedwar i chwe phryd llai fel nad oes gormod o bwysau ar y stumog ar yr un pryd."

'Mewn poen bob dydd'

Erbyn hyn, mae cyfuniad o dabledi yn helpu Luned i reoli ei symptomau.

"Fi mewn poen trwy'r dydd pob dydd ond ma rhaid i fi gadw mynd ymlaen.

"Ma' 'da fi bywyd, ma isie fi 'neud y mwyaf am fy mywyd i. Ma' isie fi 'neud pethe neu byddai yn gwely trwy'r dydd, bob dydd."

Gobaith Luned yw y bydd rhannu ei stori yn help i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr cudd, gastroparesis.

Pynciau cysylltiedig