Cynghorwyr Wrecsam yn cael mynd ag achos i'r Llys Apêl

Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynghorwyr wedi cael gwybod y gallen nhw wynebu carchar am ddirmyg llys petaen nhw'n pleidleisio yn erbyn y cynllun

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Wrecsam sy'n gwrthwynebu cynllun datblygu lleol (CDLl) wedi cael gwybod y gall eu hachos gael ei glywed yn y Llys Apêl.

Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid y cynllun fis Rhagfyr diwethaf ar ôl i farnwr ddweud bod yn rhaid iddyn nhw ei fabwysiadu.

Roedd aelodau wedi cael gwybod y gallen nhw wynebu carchar am ddirmyg llys petaen nhw'n pleidleisio yn erbyn y cynllun.

Doedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddim am wneud sylw ar benderfyniad y Llys Apêl.

Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gael cynllun datblygu lleol sy'n amlinellu defnydd tir ar gyfer y dyfodol.

Ond mae'r cynllun yn Wrecsam wedi bod yn ddadleuol ac mae cynghorwyr wedi pleidleisio yn ei erbyn ddwywaith.

Mae’n cynnwys datblygu 8,000 o dai ynghyd â chynlluniau isadeiledd eraill.

Fis Tachwedd 2023 enillodd grŵp o ddatblygwyr tir Adolygiad Barnwrol, gyda’r barnwr yn dyfarnu na allai’r awdurdod lleol wrthod mabwysiadu’r cynllun.

Ar ran cynghorwyr o wahanol bleidiau, mae cynghorydd ward Grosvenor Plaid Cymru, Marc Jones, bellach wedi cael gwybod y gall apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

Yn y Llys Apêl, dywedodd yr Arglwydd Ustus Lewison fod gan yr apêl “obaith gwirioneddol o lwyddiant” a’i fod yn “codi pwynt pwysig o egwyddor”.

Wrth ymateb i’r caniatâd i apelio, dywedodd cynghorwyr sy’n gwrthwynebu’r cynllun ei fod yn “ddatblygiad arwyddocaol iawn.”

“Mae’n cydnabod bod yna fudd cyhoeddus sylweddol i gynghorwyr yn cael eu gorfodi, ar fygythiad o garchar neu ddirwyon, i fabwysiadu cynllun yr oeddent wedi pleidleisio yn ei erbyn ddwywaith oherwydd eu bod yn credu nad oedd er lles gorau’r bobl y maent yn eu cynrychioli.”

Yn dilyn yr Adolygiad Barnwrol, cafodd cynghorwyr wybod y gallai’r awdurdod lleol fod mewn dirmyg llys pe bai'n pleidleisio yn erbyn y cynllun eto.

Roedd y cyngor cyfreithiol gan swyddogion y cyngor yn dweud pe bai’r barnwr yn canfod y cyngor mewn dirmyg llys, fe allai wneud gorchymyn yn erbyn cynghorwyr unigol, gyda chosbau posib yn cynnwys “cyfnod o garchar, dirwy, atafaelu asedau neu gosb arall a ganiateir gan y gyfraith.”

Fe ofynnodd BBC Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ymateb i ganiatau’r apêl, ond doedd yr awdurdod lleol ddim am wneud sylw.

Pynciau cysylltiedig