'Risg o garchar os am wrthod cynllun datblygu Wrecsam'

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam

Mae cynghorwyr yn Wrecsam wedi clywed y gallen nhw wynebu carchar petaen nhw'n gwrthod cynllun datblygu lleol am y trydydd tro.

Mae'r cyngor eisoes wedi pleidleisio ddwywaith yn erbyn mabwysiadu'r cynllun.

Ond wedi i'r cyngor golli adolygiad barnwrol diweddar, maen nhw bellach wedi clywed y gallen nhw gyflawni dirmyg llys os byddan nhw'n ei wrthod eto.

Bydd cyfarfod arbennig o'r cyngor yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf gyda'r argymhelliad bod cynghorwyr yn derbyn y cynllun.

Mae'r sefyllfa, medd y Cynghorydd Marc Jones, yn "sylfaenol anghywir".

"Fel cynghorydd dwi ddim wedi profi rhywbeth fel 'ma mewn 15 mlynedd, lle 'dan ni'n cael ein gorfodi i ddod i'r siambr yma a phleidleisio mewn un ffordd arbennig neu wynebu carchar."

Pryder bod 8,000 o dai newydd yn ormod

Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru fod â chynllun datblygu lleol yn nodi ble bydd adeiladau newydd yn cael eu caniatáu a faint o dai sydd eu hangen.

Mae nifer y tai yn cael ei bennu ar sail rhagolygon Llywodraeth Cymru o dwf lleol yn y boblogaeth.

Mae swyddogion Cyngor Wrecsam wedi llunio cynllun datblygu lleol, ond cafodd ei wrthod ar ddau achlysur, ym mis Ebrill ac ym mis Mehefin eleni.

Mae cynghorwyr yn pryderu bod 8,000 o dai newydd yn ormod ac na fydd gwasanaethau'n medru dygymod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Marc Jones fod y sefyllfa yn "sylfaenol anghywir"

Fis Tachwedd, fe aeth datblygwyr â'r cyngor i'r llys ar gyfer adolygiad barnwrol.

Mae adroddiad gan swyddogion i'r cynghorwyr ddydd Mercher nesaf, dolen allanol yn dweud nad ydy dyfarniad y Barnwr Mr Ustus Eyre wedi ei gyhoeddi hyd yma.

Ond mae'n crynhoi'r gorchmynion y barnwr bod penderfyniad cynghorwyr i wrthod y cynllun datblygu yn cael ei "ddiddymu" ac y dylai'r cyngor "ailystyried".

"I fod yn eglur, dim ond penderfyniad i fabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol fuasai'n bodloni'r dyfarniad hwn," meddai'r barnwr, yn ôl adroddiad y cyngor.

Dirmyg llys

Yn dilyn y dyfarniad, fe wnaeth y Cynghorydd Carrie Harper ofyn am gyngor cyfreithiol am sefyllfa cynghorwyr unigol petaen nhw'n gwrthod y cynllun yr wythnos nesaf.

Mewn ymateb, fe ddywedodd cyfreithiwr y cyngor bod hawl gan gynghorwyr i bleidleisio pa bynnag ffordd y dymunant ond bod "canlyniadau" i hynny.

Ar ôl colli'r achos llys, roedd y cyngor wedi eu gorchymyn i dalu £100,000 o gostau cyfreithiol y datblygwyr yn ogystal â ffioedd cyfreithiol eu hunain, meddai'r cyfreithiwr.

Aeth y cyfreithiwr ymlaen i ddweud petai'r cynllun yn cael ei wrthod eto y gallai'r barnwr gasglu bod dirmyg llys wedi digwydd.

Ychwanegodd: "Os ydy'r llys yn casglu bod diffynnydd wedi cyflawni dirmyg llys, gallai wynebu cyfnod o garchar, dirwy, colli asedau neu gosbau eraill."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai cynghorwyr yn cwestiynu amcangyfrifon poblogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n sail i nifer y tai y mae disgwyl i'r cyngor ei gynnwys yn eu cynllun datblygu lleol

Dywedodd y Cynghorydd Marc Jones: "Mae hwn wedi cychwyn efo Llywodraeth Cymru'n cael pethau'n wrong efo amcangyfrifon poblogaeth.

"Nid ar chwarae bach 'dan ni'n 'neud hyn. Mae hon yn sefyllfa andros o ddifrifol i'r cyngor ac i gynghorwyr.

"Felly dylai bod y llywodraeth yn cymryd sylw pan mae cynghorwyr yn gwrthod cynllun mor wael.

"Dylai bod nhw'n derbyn bod 'na rywbeth mawr wedi mynd o'i le yn fa'ma a dod yn ôl at y bwrdd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na allen nhw wneud sylw tra bo'r broses gyfreithiol yn parhau.

Bydd y cyfarfod arbennig o Gyngor Wrecsam yn digwydd ar 20 Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig