'Profiad emosiynol': Llofnod Nain a Mam-gu ar Ddeiseb Heddwch 1923

Nonna, un o'r gwirfoddolwyr yn trawsgrifio enwau'r merchedFfynhonnell y llun, LLGC
Disgrifiad o’r llun,

Nonna, un o'r gwirfoddolwyr yn trawsgrifio enwau'r merched

  • Cyhoeddwyd

Tybed os wnaeth eich Nain neu Fam-gu arwyddo'r Ddeiseb Heddwch yn 1923?

Dros y misoedd diwethaf, mae nifer o wyrion a wyresau wedi darganfod bod yna Nain neu Fam-gu iddyn nhw wedi bod yn un o’r 390,296 o ferched a lofnododd Y Ddeiseb Heddwch ganrif yn ôl.

Mae’r ddeiseb, oedd yn apelio’n daer am heddwch byd ac a gafodd ei chyflwyno i’r Tŷ Gwyn yn yr UDA yn 1924, yn cael ei digido gan Academi Heddwch Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd.

Ac wrth i wirfoddolwyr barhau i drawsgrifio’r ddeiseb, mae mwy o bobl yn dod o hyd i lawysgrifen perthnasau o 1923 wnaeth safiad drostyn nhw heddiw.

‘Dod o hyd i lofnod tair hen Nain a dwy Nain mewn hanner awr’

Roedd Mair Tomos Ifans “wedi clywed am y ddeiseb heddwch ac yn awyddus i gael gwybod mwy”.

Aeth i ddigwyddiad yn Yr Ysgwrn lle rhannwyd gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i’r ddeiseb ar wefan Y Llyfrgell Genedlaethol.

Ar ôl cyrraedd adref, dechreuodd dyrchu arlein ac mewn llai na hanner awr roedd Mair wedi dod o hyd i lofnod “dwy hen Nain ac un Nain yn Llanegryn, ac un hen Nain a Nain ym Morfa Bychan.”

Meddai Mair: “Mae'n anodd disgrifio'r teimlad o falchder a chynhesrwydd a deimlais wrth weld eu henwau."

Ffynhonnell y llun, Mair Tomos Ifans
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Mair Tomos Ifans, Susie Williams (ei Nain o Forfa Bychan), Ruth Evans (ei Nain o Lanegryn)

Ymysg y llonfodion sydd wedi eu canfod ar y ddeiseb mae enwau rhai o ferched amlwg y dydd fel y chwiorydd Davies, Llandinam, Megan Lloyd George, Mary Silyn Roberts, Charlotte Price White a Winifred Coomb Tennant.

Ond mae hanes neiniau Mair a chefndiroedd dosbarth gweithiol a chaled ambell un, yn profi bod amrywiaeth o ferched wedi arwyddo’r ddeiseb.

Eglura Mair: “Fy Nain, Susie William, mam fy Mam, sydd wedi arwyddo ei henw hi a'i mam Janet Williams, er mai fel Sienat yr adnabyddwyd hi. Yn Nhy'n Lôn Morfa Bychan yr oeddent yn byw.

“Mae'n bur debyg mai'r rheswm pam bod Susie yn arwyddo ar ran fy hen Nain oedd bod cryndod mawr ar Sienat.

“Magwyd Sienat ym Morfa Bychan yn un o wyth o blant ac fe fagodd hithau chwech o blant yn y pentref mewn amgylchiadau hynod anodd wedi i'w gŵr gael damwain erchyll yn y chwarel ym Mlaenau Ffestiniog.”

Ffynhonnell y llun, Mair Tomos Ifans
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Jennet Williams (hen nain Mair o Forfa Bychan), Catherine Evans (ei hen nain o Lanegryn), Jane Davies (ei hen nain o Lanegryn)

Fe aeth dau o feibion hen nain arall iddi, Catherine Evans o Breswylfa, Llanegryn neu Catrin Ifans fel y byddai’n cael ei galw, i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf:

“Magodd Catrin bedwar o feibion ac mi wn i ddau ohonynt fod yn ymladd yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf gan gynnwys fy Nhaid. Ond diolch byth fe ddaeth adref yn fyw; wedi ei glwyfo, ond yn fyw.”

Profiad hiraethus i Mair oedd sylwi ar lofnod ei nain, Ruth Evans, eto o Lanegryn.

“Ro’n i’n nabod ei llawysgrifen,” meddai.

“Yn 1911 roedd yn forwyn yn Nhŷ Newydd ac fe fu hefyd am gyfnod yn gofalu am blant rhyw deulu go gefnog yn rhywle.

“Ond dychwelyd wnaeth hi i Lanegryn a phriodi Taid. Mae gen i nifer o gardiau yr anfonodd Taid ati hi o Ffrainc yn ystod y Rhyfel Mawr. Geiriau mewn pensil, mewn Saesneg, ac yn gorffen efo 'thinking of you, Guts'.

Wrth adlewyrchu ar safiad ei phum nain, meddai Mair: “Dwi mor falch i fod yn rhan o linach y menywod yma.”

Mam-gu o Waun Cae Gurwen yn arwyddo'n Nefyn

Cyn 2023 doedd Enid Lewis a gafodd ei magu yn Aberaeron ond sydd â chysylltiadau â Chwm Tawe a Phen Llŷn erioed wedi clywed am y ddeiseb.

Ers mis Chwefror 2023 mae hi’n un o’r gwirfoddolwyr sy’n trawsgrifio’r ddeiseb a thrwy hap a damwain, mae hi wedi dod o hyd i lofnod Gwen Jones o Waun-Cae-Gurwen sef ei mam-gu.

“Cofiais am Gastell Madryn yn Nefyn a’r cysylltiad teuluol, ac yna'n ddisymwth iawn o’m mlaen oedd llofnod Mam-gu a’i chwaer yng nghyfraith.

“Roedd yn sioc fawr, teimlad o falchder ac yn brofiad emosiynol tu hwnt.”

Ffynhonnell y llun, Enid Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Y trydydd llofnod o waelod y dudalen yw llofnod Gwen Jones, Madryn House School, Pwllheli

Ond pam fod Gwen Jones o bentref ger Abertawe wedi arwyddo’r ddeiseb yn Nefyn?

“Roedd Gwen yn 25 yn 1923, wedi ei magu ar fferm Beiliglas, Gwaun-Cae-Gurwen yn un o bump o blant.

“Fe gafodd y plant i gyd addysg bellach. Gwen wedi derbyn addysg amaethyddol yn Glasgow. Brawd Gwen, Isaac Jones oedd y Prifathro yng Ngholeg Madryn 1922-1948 a Gwen oedd y Matron am gyfnod.

“Roedd Gwen yn byw yn Madryn Farm School, priododd Gwen yn 1925 a symud ’nôl i’r de i fferm Brynllefrith, Cwmllynfell.”

Ffynhonnell y llun, Enid Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Llun o staff a myfyrwyr Coleg Madryn. Mae Gwen Jones yn y rhes flaen ac yn y canol rhwng ei brawd Isaac a'i wraig Bronwen

O ddysgu darllen i arwyddo'r ddeiseb

Roeddd Elizabeth Emanuel o 7 Sand Lane, Llansawel yn wraig weddw ac wedi claddu pedwar o’i 11 o blant erbyn iddi arwyddo Y Ddeiseb Heddwch yn 1923.

Ganed Elizabeth yn ferch i löwr yn 1860 ac roedd hi'n 63 mlwydd oed erbyn 1923. Cyn priodi ei gŵr, Thomas Emanuel, arferai weithio'n y diwydiant plwm.

Pan ddaeth cnoc ar ddrws 7 Sand Lane yn 1923 yn gofyn iddi arwyddo’r ddeiseb roedd Elizabeth yn byw gyda’i mab Cliff.

Ac oni bai am Cliff a ddysgodd iddi ddarllen, mae’n debyg na fyddai Elizabeth wedi gallu arwyddo’r ddeiseb.

Ei gor-gor ŵyr, Bleddyn Smith o Gastell Nedd a myfyriwr hanes ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n dweud ei hanes:

“Roedd Elizabeth yn siaradwr Cymraeg, a menyw capel gref a oedd yn mynychu capel Y Bedyddwyr Cymraeg.

“Nid oedd Elizabeth yn gallu darllen tan wnaeth fy hen Nhad-cu sef ei mab Cliff, ei dysgu hi i ddarllen er mwyn iddi hi allu darllen yn y capel."

Ffynhonnell y llun, Bleddyn Smith
Disgrifiad o’r llun,

Bleddyn Smith (chwith) a'i hen, hen fam-gu, Elizabeth Emanuel (dde)

Yn ôl Bleddyn, roedd bywyd Elizabeth yn un o dlodi a cholledion. Mae’n credu’n gryf mai colli ei mab, John, ym Mrwydr Y Somme wnaeth arwain at ei llofnod dros heddwch byd:

“Ymunodd John yn y Rhyfel Mawr yn 1914, fel preifat yn yr 16eg Bataliwn o’r Welsh Regiment.

“Bu farw John ar faes y gad ym Mrwydr y Somme ar 7 Gorffennaf 1916 yn 26 mlwydd oed, gan adael gwraig a dau o blant.

“Yn anffodus, nid profiad cyntaf Elizabeth gyda thrawma rhyfel oedd hwn. Gwnaeth mab arall iddi, Ned, ymladd yn Rhyfel Boer (1899-1902) ac roedd Thom, mab arall, yn y llynges yn ystod y Rhyfel Mawr.

“Fe oroesodd Thom a Ned y rhyfel ond roedd colli mab annwyl yn ergyd ac mae'n rhoi rheswm clir pam wnaeth Elizabeth arwyddo’r ddeiseb.

“Bu farw Elizabeth yn 76 mlwydd oed yn 1936, ac fel menyw ddosbarth gweithiol dlawd, chafodd ddim nifer o gyfleoedd mewn bywyd, felly mae’n bleser gweld ei bod hi wedi chwarae rôl mewn hanes mor bwysig.”

Cyfrannu at hanes merched yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, LLGC
Disgrifiad o’r llun,

Nan (chwith) gyda Richard, Lynne a Virginia, tri gwirfoddolwr arall

Roedd Nan Lloyd Williams wrthi’n rhoi lleoliad daearyddol i bob tudalen o’r ddeiseb yn y Llyfrgell Genedlaethol pan ddarganfyddodd fod ei mam, nain a’i modryb wedi arwyddo’r ddeiseb yng Ngharrog, Meirionnydd.

Eglura: “Erbyn cyrraedd bocs tri, cofnod 31, tudalen 2, roedd Martha Jane Lloyd (fy Nain) a’i dwy ferch Kate Lloyd (fy Mam) a Maria Jane Lloyd (fy Modryb) wedi arwyddo!

“Bu fy Mam yn dysgu yn Ysgol Gynradd Carrog am tua 15 mlynedd ac mae gen i lun ysgol ohoni hi, yr athro a’r plant wedi ei dynnu yn Ebrill 1923.

“Fe fûm yn darllen drwy enwau Carrog i gyd, gan mai yno y byddwn yn treulio fy mhlentyndod a’n arddegau ar wyliau haf ac yn cofio nifer o enwau’r tai a’r bobl.

“Deuthum o hyd i Margaret Roberts, chwaer fy Nhad ym Mona House, Corwen hefyd ac Elena Puw Davies (Morgan wedyn, awdur Y Graith) oedd yn arfer chwarae ar lan yr Afon Cawrddu hefo fy Nhad a’i chwiorydd."

Ffynhonnell y llun, Nan Lloyd Williams
Disgrifiad o’r llun,

Llun o ddisgyblion ac athrawon Ysgol Carrog a dynnwyd fis Ebrill 1923. Ar y chwith mae Kate Lloyd, mam Nan ac athrawes yn yr ysgol

Diolch i waith gwirfoddolwyr fel Nan bydd y ddeiseb yn adnodd hawdd i'w ddefnyddio er mwyn darganfod pwy yn union oedd y merched o Gymru wnaeth godi eu llais dros heddwch byd ganrif yn ôl:

“Rwy’n gobeithio y bydd y byd a’r betws yn gallu profi’r un wefr a balchder ac y ges i wrth weld ysgrifen fy hynafiaid ar y ddogfen bwysig yma’n hanes merched Cymru.”

I weld Y Ddeiseb Heddwch ac am gyfleoedd gwirfoddoli cliciwch yma. , dolen allanol