Pobl hŷn yn pryderu am ddiffyg toiledau cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae pobl hŷn yn dewis peidio ag yfed dŵr neu adael y tŷ gan eu bod yn poeni am ddiffyg toiledau cyhoeddus, yn ôl ymgyrchwyr.
Yn ôl Fforwm Pobl Hŷn Cymru, mae nifer yn dal ar gau ers y pandemig.
“Mae pobl hŷn yn dueddol o ddadhydradu eu hunain cyn mynd i unrhyw le,” dywedodd y cadeirydd Gareth Parsons.
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllid penodol i gynghorau lleol fel eu bod yn gyfrifol am eu darparu.
Mae elusen Age Cymru yn dweud fod pobl sydd ag anableddau neu anghenion eraill yn poeni hefyd.
Does dim rhaid i awdurdodau lleol ddarparu tai bach cyhoeddus ar hyn o bryd, ond dywedodd Llywodraeth Cymru bod gofyn iddyn nhw ddatblygu strategaethau toiledau.
Ym Maesteg ger Pen-y-bont, mae pobl leol yn dweud eu bod yn siomedig fod y tai bach cyhoeddus yn y dref wedi cau yn ddiweddar.
Roedd sawl achos o gamddefnyddio'r cyfleusterau cyn iddyn nhw orfod cau, yn ôl y cyngor tref.
Dywedodd Martin Carroll, 75 o Faesteg: “Mae’n anodd iawn. Rhaid i chi feddwl am ble ‘dach chi eisiau mynd, ydych chi’n gallu defnyddio toiledau mewn caffi?
“Does dim pleser o gwbwl mynd am dro, cwrdd â ffrindiau, siopa.
“Weithiau mae’n well 'da fi aros gartre’ a dim mynd mas.
“Cyn i fi fynd mas i’r dre’, dw i ddim yn yfed am un neu ddwy awr cyn achos 'dwi ddim eisiau cael problemau yn y dref.”
“Os y’ch chi yn y dref a chi moyn mynd i’r tŷ bach, yr unig lle allwch chi fynd yw Wetherspoons,” dywedodd Paul Wines, 68.
“Mae pethe’ yn ddrwg.”
Ychwanegodd Jaqueline Jones, 72 o’r Pîl ei bod yn gorfod meddwl yn ofalus am gynllunio cyn dod i’w dosbarth Dysgu Cymraeg ym Maesteg.
“Dw i ddim wedi yfed cyn gadael y tŷ heddiw,” dywedodd.
“Dw i’n mapio allan lle dw i’n mynd i fynd cyn dod yma.”
Oes llai o dai bach cyhoeddus?
O’r awdurdodau lleol a atebodd, neu a oedd â gwybodaeth ar eu gwefan, mae gan sawl sir ddegau o doiledau cyhoeddus.
Roedd y niferoedd mwyaf yng Ngwynedd a Sir Benfro, oedd â 61.
Ond ym Mlaenau Gwent, does dim un tŷ bach cyhoeddus ar gael.
Mae gwefan Cyngor Sir Pen-y-bont yn dangos fod 26 o doiledau yn y sir, ond bod 23 ar gau ar hyn o bryd.
Dywedodd sawl cyngor bod tai bach gan lawer o fusnesau neu siopau lleol sydd ar gael i’r cyhoedd.
Mae elusen Age Cymru wedi rhybuddio fod pobl yn gorfod gwneud dewisiadau anodd cyn mynd allan a allai beryglu eu hiechyd.
“Yn anffodus mewn rhai achosion rydyn ni wedi clywed fod pobl wedi dadhydradu eu hunain er mwy lleihau eu hangen am y tŷ bach pan maen nhw’n mynd allan,” meddai Rhian Morgan.
"Yn amlwg mae hynny'n fater iechyd. Mae pobl yn defnyddio'r toiledau am amrywiaeth o resymau, felly mae'n bwysig iawn bod toiledau cyhoeddus ar gael i bobl eu defnyddio.
"Ni’n deall bod cyllid y cyngor yn dynn iawn ar hyn o bryd ond mae'r gwasanaethau hyn mor bwysig."
Mae diffyg toiledau cyhoeddus a phobol “ddim yn gwybod ble maen nhw” yn broblem, meddai cadeirydd Fforwm Uwch Cymru.
“Mae angen tŷ bach ar bob un, mae gan bawb yr hawl i doiled ond does dim rheidrwydd statudol ar gynghorau i’w darparu,” dywedodd Gareth Parsons.
“Yr hyn rydyn ni eisiau yw i Lywodraeth Cymru roi rhywbeth statudol mewn lle i ddweud bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynghorau ddarparu mynediad i doiledau cyhoeddus.”
Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod yr heriau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu ond eu bod wedi cyflwyno deddfwriaeth i wella’r ddarpariaeth o doiledau a’r mynediad iddynt at ddefnydd y cyhoedd.
“Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu strategaethau toiledau lleol ac maent yn gyfrifol am sut mae’r rhain yn cael eu cynhyrchu, eu cyhoeddi a’u hadolygu.
“Rydym wedi cyhoeddi canllawiau statudol cynhwysfawr, sy’n eu hannog [awdurdodau lleol] i wneud gwell defnydd o gyfleusterau toiledau presennol mewn adeiladau yn y sector cyhoeddus a phreifat.
"Mae hefyd yn amlygu bod toiledau hygyrch yn bwysicach i bobl â chyflyrau fel anymataliaeth, brys, a phroblemau prostad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2020