Cael stondin yn Eisteddfod yr Urdd 'wedi talu ffordd'

Stondin Si-lwli ar faes Eisteddfod yr Urdd 2024
  • Cyhoeddwyd

Mae dod â stondin i faes Eisteddfod yr Urdd 2024 wedi talu ffordd, yn ôl nifer o stondinwyr, er bod yr argyfwng costau byw yn parhau i gael dylanwad.

Wrth ddisgrifio’r wythnos hyd yma, dywedodd un stondinwr bod pryniannau "tipyn yn fwy" na’r arfer ar y maes ym Meifod.

Mae eraill, serch hynny, yn cydnabod eu bod wedi cadw eu prisiau’n bwrpasol sefydlog, er mwyn bod yn fforddiadwy i bawb eleni.

Dywed trefnwyr yr Eisteddfod eu bod yn "cadw ein prisiau i unedwyr mor isel â phosib".

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi wedi bod yn wythnos dda hyd yn hyn ar stondin Oriel Pwlldefaid, medd Bethan Roberts

Er gwaetha’r tywydd gwlyb ddechrau’r wythnos, mae Bethan Roberts o Oriel Pwlldefaid wedi disgrifio’r wythnos fel un "arbennig o dda" o ran gwerthiant.

"Roedd dydd Llun yn wych, anhygoel," meddai.

"Dwy flynedd yn ôl mi gethon ni Eisteddfod arbennig, arbennig o dda achos roedd pobl yn cael dod i fewn am ddim y flwyddyn honno - roedd honno’n wych.

"Roedd llynedd yn dda iawn ac mae hi wedi dechrau yn dda iawn eto eleni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfleuster gallu talu â cherdyn yn hwb i werthiant, medd Sioned Elin o gwmni Cadwyn

Yr un oedd ymateb Sioned Elin o gwmni Cadwyn, sy’n dathlu 50 mlynedd o fusnes.

"Fi’n credu bod pryniannau pobl yn fwy,” meddai, wrth ddisgrifio gwariant ar faes Meifod.

“Mae pobl yn defnyddio cardiau erbyn hyn - mae hynny mor gyfleus - ac wrth lwc, mae’r peiriannau cardiau wedi bod yn gweithio’n ddi-broblem, yn ddi-ffwdan ‘ma.

"Dyna’r newid mwya’ ni 'di gweld dros y blynyddoedd. Roedd dydd Llun a dydd Mawrth wastad yn draddodiadol â phlant bach oedd â £2 i wario neu £5 i wario, ond erbyn hyn, mae’r pryniannau tipyn yn fwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ambell gwmni'n teimlo bod gormod o ffactorau risg i gyfiawnhau cael stondin pan fo'r sefyllfa ariannol yn heriol, medd Sam Chucas

I gwmni CrysauTi.Cymru, "eithaf tebyg" i’r arfer yw’r gwerthiant, gyda Sam Chucas o’r cwmni’n dweud iddo benderfynu peidio â phasio costau cynyddol ymlaen at y cwsmer yn fwriadol.

"'Dwi 'di sicrhau bod price-freeze ar ddillad plant fel bod teuluoedd ifanc dal yn gallu fforddio pethau yn ein stondin ni," meddai.

"Rwy’n lwcus, achos ‘dyn ni wastad yn gwneud yn eitha' da o ran faint 'dyn ni’n gwerthu ond rwy'n ymwybodol o bobl sydd wedi dweud 'na' eleni oherwydd bod y costau yn gallu bod yn really, really uchel.

"Mae'n risg wedyn i'r stondinau - maen nhw'n dweud 'na', just rhag ofn... er enghraifft, y tywydd. Os yw'r tywydd yn wael, 'dyn nhw ddim yn mynd i wneud digon o arian i dalu am bopeth."

Disgrifiad o’r llun,

Awena Walkden gyda'i merch ar stondin Si-lwli

Un sy'n dweud bod pasio costau cynyddol ymlaen yn anochel yw Awena Walkden, o gwmni Si-lwli Cymru.

Gyda'u teganau newydd Deian a Loli yn £30, mae'n dweud nad yw pobl yn deall y gost sydd ynghlwm â'u cynhyrchu.

"Ma' pobl yn dod i fewn a maen nhw'n lico'r Deian a Loli newydd a phethau," meddai.

"Maen nhw'n dweud pethau fel 'swn i’n meddwl byswn i'n medru cael un am £10' ond mae'n costio ni mwy na hynna i wneud un.

"Oherwydd costau byw, mae 'na lai yn y boced, ond dwi'n meddwl hefyd dydy pobl ddim bob tro yn dallt y costau sy'n mynd mewn i redeg busnes - a hefyd i gael stondin, mae'n ddrud.

"Dyna pam ry'n ni'n gorfod codi bach fwy am ein nwyddau ni i gael bod yma, i gael bod yn rhan o’r profiad."

'Prisiau mor isel â phosib'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd: “Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd yn ddiolchgar i’n unedwyr am ein cefnogi unwaith eto eleni ac rydym yn falch o glywed fod busnesau wedi cael cychwyn llwyddiannus i’w hwythnos o werthu.

"Mae costau i’r Urdd logi strwythurau wedi cynyddu, felly yn anorfod rydym wedi cynyddu costau i unedwyr o 2.5% o gymharu â phrisiau 2023.

"Ar bob achlysur rydym yn cadw ein prisiau i unedwyr mor isel â phosib.”

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai wedi cwyno am fwd yn y pentre bwyd ddydd Mercher, cyn iddi sychu ddydd Iau

Ond mae rhai busnesau bwyd ar y maes yn dweud bod cwsmeriaid wedi cadw draw ddydd Mercher oherwydd cyflwr y maes o amgylch eu stondinau.

Ar ôl diwrnod o law ddydd Mawrth, mae rhannau o’r maes wedi bod yn fwdlyd iawn, yn enwedig yr ardal ger y stondinau bwyd.

Er bod trefnwyr yr Eisteddfod yn dweud bod mwy o dracfyrddau wedi cael eu defnyddio yn yr ŵyl eleni mae rhai pobl yn dweud eu bod wedi cael trafferth cerdded mewn rhai ardaloedd.

Erbyn dydd Iau mae'r amodau wedi gwella yn dilyn cyfnod o dywydd sych ac mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi rhoi mwy o naddion pren ar y llawr er mwyn creu llwybrau newydd yn yr ardal fwyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nerys Astley fod pobl wedi "cael trafferth aros ar eu traed" ddydd Mercher

Dywedodd Nerys Astley, perchennog Four Seasons Mobile Catering: "Diwedd dydd dydd Mercher doedd hi ddim yn neis iawn!

"Oedd hi'n sticky, pobl yn cwympo ac yn cael trafferth aros ar eu traed.

"Dylsen nhw wedi rhoi mwy o sdwff i lawr i helpu pobl i ddim cwympo."

Ond dywedodd Iwan Davies, sydd hefyd yn rhedeg stondin bwyd ar y maes, ei fod yn teimlo fod trefnwyr wedi gwneud gwaith teg mewn amgylchiadau anodd.

"Oedd hi'n andros o job i'r trefnwyr wybod beth i'w wneud, oedd hi mor fwdlyd fysa unrhyw chip coed wedi ei dagu gyda mwd ar y pryd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan Davies yn credu fod y trefnwyr wedi gwneud gwaith teg mewn amgylchiadau anodd

Dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Llio Maddocks, nad oedd tracfyrddau ger y stondinau bwyd ddechrau'r wythnos, ond bod mwy o adnoddau wedi eu darparu yn dilyn y tywydd gwlyb.

Ychwanegodd bod swyddogion iechyd a diogelwch "yn monitro’r sefyllfa bob hanner awr".

"'Da ni'n gofyn i bawb baratoi ar gyfer tir sydd 'chydig bach yn wlyb dan droed ond mae'r awel wedi pigo fyny heddiw ac mae'r tir yn sychu'n rhyfeddol o dda," meddai.