‘Ti ddim jest yn rif yn y system’: meddyg yn Seland Newydd'
- Cyhoeddwyd
Wrth i feddygon iau yng Nghymru baratoi i streicio eto, fe fydd un doctor yn gwylio o ochr arall i'r byd wedi iddi symud yno i gael saib o system iechyd oedd yn dechrau mynd yn fwrn arni.
Roedd Dr Hawys Mererid Evans wedi gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd am dair blynedd, a’i phartner Dan, sydd hefyd yn feddyg, ers pedair blynedd.
Ond ym mis Awst 2023 fe wnaeth y ddau bacio’u bagiau a symud i weithio i Seland Newydd.
“Y flwyddyn neu ddwy ddiwetha' dwi wedi bod eisiau profi system arall dim jest yr NHS,” meddai Dr Evans wrth Cymru Fyw. “Roedd o wedi dod yn reit uninspiring i fynd i weithio achos doedd o ddim bob tro’n teimlo’n broffesiynol - do’n i ddim yn gwneud y job i’r gorau o ni’n gallu oherwydd y system.
“Ro’n i ‘di cyrraedd y pwynt o ddechrau meddwl os mai dyma’r yrfa o ni eisiau - oherwydd doedd y system ddim yn gadael i fi wneud y job dwi wedi fy hyfforddi i wneud.”
Cyfnod Covid
Fe raddiodd o Brifysgol Keele yn 2020 ac fel ei chyfoedion ar draws Prydain fe orffennodd ei chwrs ychydig yn gynt na’r arfer er mwyn gallu helpu yn ystod y pandemig.
Mae’n dweud iddi fwynhau’r profiad o weithio yn Ysbyty Stoke yn ystod Covid ac wedi elwa drwy gysgodi meddygon profiadol. Ond un effaith negyddol oedd methu allan ar y cyfle i gael profiad gwaith dramor cyn dechrau ei swydd - y cyfnod ‘elective’ traddodiadol - oherwydd rheolau’r pandemic.
Felly a hithau â’i bryd ar gael profiad o weithio mewn system iechyd arall am gyfnod, fe benderfynodd mai rŵan oedd yr amser - yn enwedig gan fod rhai agweddau o’i gwaith yng Nghymru yn gwneud iddi deimlo'n negyddol am ei swydd.
Mae staff iechyd yn gadael Prydain wedi dod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar wrth i feddygon ifanc sy’n streicio rybuddio am weithwyr yn cael eu hudo i Awstralia gan addewidion o delerau gwell.
Mae ymchwil gan sefydliad y King’s Fund yn dangos bod un o bob chwarter o nyrsys tramor Awstralia ac un ymhob pump yn Seland Newydd wedi eu hyfforddi ym Mhrydain. Dim ond 0.3 y cant o’r nyrsys tramor ym Mhrydain sy’n dod o Seland Newydd.
Mae’r ymchwil hefyd yn dweud bod y tri lle yn recriwtio nifer uchel o feddygon tramor hefyd.
'Cael dy werthfawrogi'
Er nad oes llawer o wahaniaeth rhwng ei thâl yn Seland Newydd a nol yng Nghymru, roedd y system iechyd yn talu am docynnau awyren Dr Evans i fynd drosodd, yn ogystal â rhoi car benthyg iddi am fis a llety am yr wythnosau cyntaf.
O ran ei phrofiad o weithio i’r system iechyd yno, mae'n dweud bod un peth yn chwa o awyr iach: yr agwedd tuag at y gweithwyr.
“Ar y dechra’ ro’n i’n meddwl bod o’n amazing bod ni’n cael cinio am ddim yma,” meddai. “Mond rhywbeth bach ydi hynny ond roedd o’n gwneud i fi deimlo bod chdi’n cael dy werthfawrogi mwy.
"Dwyt ti ddim jest yn rif yn y system - maen nhw’n meddwl amandana ti."
Dim yn ddu a gwyn
Ond ar ôl chwe mis o weithio yn Seland Newydd, mae’n dweud bod y sefyllfa yn fwy cymhleth nag oedd hi’n feddwl. Fel nol yng Nghymru, mae 'na bryder yno hefyd am feddygon yn symud dros y dŵr i Awstralia lle mae’r telerau yn well.
“Tydio ddim yn fêl i gyd a dwi wedi cael persbectif gwahanol ers dod yma,” meddai Dr Evans.
“Dwi heb weld y system i gyd ond mae ganddyn nhw challenges eu hunain.
“Mae ‘na ddiffyg GPs yma. Dwi’n gweithio yn A&E rŵan ac mae ‘na bobl yn dod i mewn efo pethau dyla' nhw checio efo’u GPs - ond maen nhw’n dod yma achos bod rhestr aros hir am GPs - ac mae hynny’n broblem.”
Yn ôl ymchwil gan Sefydliad y Gymanwlad i systemau iechyd 11 o wledydd gydag incwm uchel, daeth Awstralia yn drydydd, Prydain yn bedwerydd a Seland Newydd yn chweched.
Mewn astudiaeth arall i'r sefyllfa ar draws y byd, fe wnaeth ymchwil Sefydliad Legatum roi Seland Newydd yn rhif 25 yn y tabl, gydag Awstralia bedwar lle yn uwch, a Prydain yn rhif 34.
Mae disgwyl i feddygon iau Cymru streicio am dridiau eto o ddydd Mercher 21 Chwefror. Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn awyddus i adfer lefelau tâl, ond bod angen rhagor o arian gan Lywodraeth y DU er mwyn gallu gwneud hynny.
'Heb drin neb yn y coridor yma'
Heblaw am y teimlad o gael ei gwerthfawrogi, mae profiadau eraill wedi gwneud i Dr Evans gwestiynu rhai o'r pethau oedd wedi dod yn arferol iddi nôl yng Nghymru.
“Dwi heb drin neb yn y coridor yma,” meddai. “Weithia' mae ‘na rhai wedi aros am wely - pan o’n i’n neud night shifft dwytha roedd ‘na ddau yn aros ond roeddan nhw wedi cael gwely erbyn diwedd y shifft.
“Ond dwi ddim wedi trin neb mewn cadair fan yma fel dwi wedi gwneud adra.
"Dyna oedd y peth mwya frustrating adra - ac roedda ti’n neud o, ac wedyn roedda chdi’n ‘turn a blind eye’ idda fo i gyd achos dim ond fel yna oedda ti’n gallu neud dy waith.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2024