Meddygon iau Cymru i streicio eto dros gyflogau

  • Cyhoeddwyd
Doctoriaid yn streicioFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd meddygon iau yng Nghymru yn streicio eto, wrth iddyn nhw barhau i alw am gyflogau uwch.

Dywedodd undeb y BMA yng Nghymru: "Oherwydd nad ydym wedi cael cynnig cyflog derbyniol er mwyn dechrau trafodaeth i ddod â'r ffrae i ben, bydd meddygon iau yng Nghymru yn streicio eto ym mis Chwefror a Mawrth eleni."

Bydd y streic gyntaf ddydd Mercher 21 Chwefror ac yn para tridiau, gyda streic arall am bedwar diwrnod o ddydd Llun 25 Mawrth.

Daw hyn yn dilyn streic am dridiau ym mis Ionawr.

Yn ôl y BMA, maen nhw wedi penderfynu cynnal rhagor o streiciau "oherwydd nad ydi Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnig sy'n ddigon da i ddod â'r anghydfod i ben".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn awyddus i adfer lefelau tâl, ond bod angen rhagor o arian gan Lywodraeth y DU er mwyn gallu gwneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd meddygon iau yn streicio eto ym mis Chwefror a Mawrth

Dywed cadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru eu bod "yn dal yn barod i drafod os yw Llywodraeth Cymru'n cyflwyno cynnig credadwy".

Ychwanegodd Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey: "Dyw'r un meddyg eisiau streicio, ond tra bod y rhai mewn grym yn methu â dirnad difrifoldeb y sefyllfa a chryfder y teimladau ymhlith ein haelodau, rydym yn teimlo bod dim dewis.

"Ni allwn ni barhau i dderbyn yr hyn sy'n annerbyniol...

"Mae meddyg ar ddechrau gyrfa yng Nghymru yn ennill cyn lleied â £13.65 yr awr ac am hynny fe allen nhw fod yn cyflawni triniaethau sy'n achub bywyd ac yn ysgwyddo lefelau anferthol o gyfrifoldeb". 

Mynnodd y cadeiryddion yn eu datganiad nad ydyn nhw'n gofyn am godiad cyflog ond i "adfer tâl yn unol â chwyddiant i lefelau 2008".

Maen nhw'n dadlau bod angen i gyflogau yng Nghymru fod yn fwy "teg a chystadleuol" o'i gymharu â gwledydd eraill er mwyn recriwtio a chadw meddygon a staff y GIG.

Ychwanegodd y meddygon: "Ar ben hynny, mae meddygon iau yn wynebu amodau sy'n gwaethygu oherwydd bylchau sylweddol o fewn y gweithlu ac felly mae mwy a mwy o feddygon yn meddwl am adael Cymru a datblygu eu gyrfaoedd er mwyn cael gwell tâl a safon byw rywle arall."

'Siomedig'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n siomedig bod meddygon wedi penderfynu gweithredu'n ddiwydiannol eto, ond rydym yn deall cryfder y teimlad ynghylch y cynnig o 5%."

Mae'r llywodraeth, meddai, yn awyddus i adfer lefelau tâl, ond mae eu cynnig yn mynd cyn belled ag sy'n bosib o fewn "y cyllid sydd ar gael i ni" ac yn unol â chytundebau gydag undebau iechyd eraill ar gyfer eleni.

"Heb arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gynnig mwy. Byddwn ni'n parhau i bwyso arnyn nhw i drosglwyddo'r arian angenrheidiol ar gyfer codiadau tâl llawn a theg ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus."

Ychwanegodd eu bod "ar gael am ragor o drafodaethau ar unrhyw adeg" gyda BMA Cymru, ac am gydweithio gyda'r undeb a'r GIG i "warchod diogelwch cleifion" yn ystod y streic.

Mae Lywodraeth y DU wedi dweud fod "Llywodraeth Cymru wedi'i ariannu'n dda er mwyn cyflawni ar ei gyfrifoldebau datganoledig - gan gynnwys iechyd - gan ein bod ni'n rhoi £18bn y flwyddyn iddo, sef y mwyaf ers dechrau datganoli.

"Yn y pendraw rhaid iddo ateb i'r Senedd a phobl Cymru ynglŷn â sut mae'n penderfynu ariannu gwasanaethau."