Aberfan: Ofnau am ddyfodol canolfan gymunedol
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon yn cynyddu am ddyfodol canolfan gymunedol a gafodd ei hadeiladu gydag arian a gafodd ei godi yn sgil trychineb Aberfan.
Cafodd Canolfan Gymunedol Aberfan ei hadeiladu gydag arian a godwyd yn dilyn trychineb Aberfan ym 1966.
Bu farw 144 o bobl yn y drychineb - 116 ohonynt yn blant yn Ysgol Iau Pantglas.
Dywedodd Janett Bickley, a oroesodd y drasiedi, y byddai’n "drychinebus" petai'r ganolfan yn cau, am ei bod yn rhan bwysig o’r gymuned ers iddi agor yn 1973.
Mae cymhlethdodau gyda chytundebau rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac ymddiriedolaeth LlesMerthyr wedi codi cwestiynau am ddyfodol eu gwasanaethau hamdden.
Dywedodd y cyngor sir eu bod yn "ymrwymedig" i gadw Canolfan Gymunedol Aberfan yn agored ond fod 'na "rwystrau cyfreithiol".
Ychwanegodd y cyngor hefyd, er mwyn cymryd gwasanaethau drosodd, bod angen iddyn nhw gael caniatâd ymddiriedolwyr LlesMerthyr.
Dywedodd LlesMerthyr eu bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau.
Mae’r pwll yng nghanolfan hamdden Merthyr Tudful wedi bod ynghau ers Rhagfyr 2019 ar ôl i broblemau gyda dŵr yn gollwng achosi difrod strwythurol.
Fe wnaeth Covid rwystro’r gwaith atgyweirio ac ar ôl gorffen, roedd problemau strwythurol pellach - sydd wedi arwain at £6m o waith ailddatblygu.
Dywedodd Anne Evans sy'n gyn-athrawes: "Mae cenhedlaeth o blant ym Merthyr Tudful methu nofio oherwydd y pwll yn bod ar gau am amser mor hir."
Tra'r oedd hi'n dysgu roedd hi'n mynd â disgyblion blwyddyn 3 i 6 am wersi nofio unwaith bob blwyddyn am ychydig wythnosau.
Ond mae cau'r pwll yn golygu nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion Merthyr Tudful yn medru mynd â'r plant am wersi bellach.
Dywedodd Ms Evans: "Doedd dim pawb yn gallu mynd gyda rhieni pob penwythnos felly odd e'n bwysig iawn.
"Mae dysgu nofio yn sgil bywyd - ma' fel ysgrifennu, darllen, a reidio beic.
"Does dim diddordeb gyda fi yn y gwleidyddiaeth - efallai mae’r trust wedi gwneud ei gorau, mae’r cyngor siŵr o fod wedi gwneud ei gorau - ond beth sy’n poeni fi yw bod lot o blant yn y dref ddim wedi cael y cyfle i ddysgu sut i nofio.
"Ond hefyd dwi’n nabod siwt cymaint o oedolion, clybiau nofio a maen nhw nawr 'di mynd mas o'r ardal.
"Dwi'n pryderu na ddawn nhw nôl pan fydd y pwll yn agor neu ni wedi colli nhw am byth."
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
Mae LlesMerthyr yn gyfrifol am redeg cyfleusterau hamdden y cyngor o ddydd i ddydd ers 2015.
Mae wedi profi heriau ariannol sylweddol, gan gynnwys costau egni cynyddol a bydd eu cytundeb yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth.
Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn y broses o drosglwyddo a phenodi gweithredwr newydd ar gyfer eu dwy ganolfan.
Ond mae cymhlethdodau cytundebau a "rhwystrau cyfreithiol" yn gwneud trosglwyddo canolfan Aberfan yn anodd.
Dywedodd y cyngor eu bod yn y broses o benodi gweithredwr newydd ar gyfer Canolfan Hamdden Merthyr Tudful ac na allen nhw benodi gweithredwr newydd ar gyfer Canolfan Gymunedol Aberfan heb ganiatâd LlesMerthyr.
Nid yw'r cyngor wedi cyhoeddi eto pwy fydd yn gyfrifol am redeg y cyfleusterau hamdden o ddydd i ddydd.
Mae BBC Cymru yn deall y bydd y cytundeb i redeg Canolfan Hamdden Merthyr Tudful yn cael ei roi i Halo, menter gymdeithasol sy'n rhedeg canolfannau hamdden ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Sir Henffordd, Sir Gaerloyw a Sir Amwythig.
Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn trafod trosglwyddiad Canolfan Gymunedol Aberfan cyn i Halo fod yn gyfrifol am y safle.
Does dim dyddiad wedi'i gyhoeddi sy'n cadarnhau pryd bydd y pwll nofio newydd yn agor yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful.
Dywedodd un o oroeswyr trychineb Aberfan, Janett Bickley, fod hanes y ganolfan yn golygu bod rhaid diogelu ei dyfodol.
Dywedodd: "Mae’n bwysig iawn, mae’n rhan integral o’r gymuned ac mae wedi bod ers 1973.
"Cafodd ei adeiladu ar ôl trychineb Aberfan er mwyn i bobl Aberfan dod at ei gilydd.
"Dyma le daethon ni i gyd i fod yn gymuned... doedd gennym ni ddim lle arall i fynd.
"Mae yna 10 clwb yn cael eu rhedeg mas o'r ganolfan yma. Dwi fy hun yn mynychu'r dosbarth karate ddwywaith yr wythnos.
"Mae’n bwnc mor emosiynol."
Cafodd protest ei chynnal yn Aberfan ar 12 Mawrth ar ôl i adroddiadau awgrymu na fyddai’r ganolfan yn agored ar ôl 1 Ebrill.
Dywedodd Geraint Thomas, pennaeth Cyngor Merthyr Tudful mai blaenoriaeth y cyngor yw cadw'r holl gyfleusterau hamdden ar agor.
Ychwanegodd Alyn Owen, dirprwy brif weithredwr y cyngor sir, ei fod yn hyderus y bydd gwasanaethau'n parhau yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan.
“Mae wedi bod yn sefyllfa gymhleth ond mae’r cyngor yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw a gwella cyfleusterau hamdden ym Merthyr.
"Rydym yn gweithio gyda LlesMerthyr i ddod a'i gontract presennol gyda Chanolfan Gymunedol Aberfan i ben."
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, fel pob awdurdod lleol arall, o dan bwysau ariannol sylweddol.
Ar 6 Mawrth fe wnaeth cynghorwyr gytuno ar gyllideb flynyddol yr awdurdod ar ôl rhybudd y gallai gwasanaethau ddod i stop ar ôl methu â chymeradwyo cynlluniau gwariant ym mis Chwefror.
Mae'n rhaid i'r cyngor arbed £9.4 miliwn a bydd treth cyngor yn codi 8% i geisio llenwi'r bwlch ariannol o £12.5 miliwn.
Dywedodd Gareth Morgans, trefnydd rhanbarthol undeb y GMB fod yr ansicrwydd am ganolfan Aberfan yn “gwbl annerbyniol” a dywedodd fod ganddo bryderon ehangach am sut mae gwasanaethau hamdden yn cael eu rhedeg.
Meddai fod cynllun y cyngor i drosglwyddo'r ddwy ganolfan hamdden i ddarparwr newydd yn "warthus" ac yn "ddrwg i bobl Merthyr".
“Pam rhoi pwll newydd sbon gwerth £600 miliwn i gwmni arall pan fydd gennych chi gyfle i wneud arian yn ôl – yr arian mae'r cyngor wedi’i golli dros y pedair blynedd diwethaf?"
Dywedodd Mr Morgans fod staff yn mynd i weithredu'n ddiwydiannol a streicio ar 27 Mawrth gan fod "aelodau wedi cael digon".