Harlech: Dyfodol pwll nofio yn y fantol heb £30,000 mewn tri mis
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder am ddyfodol pwll nofio Harlech yn sgil adroddiadau bod rhai cynghorau cymuned yn bwriadu peidio ariannu'r pwll o fis Ebrill ymlaen.
Ers tua 15 mlynedd mae'r pwll wedi bod yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau'r cynghorau cymuned lleol a Chyngor Gwynedd.
Ond mae rhai cynghorau yn yr ardal wedi penderfynu nad oes modd iddyn nhw barhau i ariannu'r pwll, a'u bwriad yw rhoi'r arian at brosiectau eraill.
Bwriad tri o'r chwe chyngor cymuned ydy atal yr arian o fis Ebrill ymlaen, sy'n golygu y bydd hi'n fwy o her i'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y ganolfan.
Yn ôl y Cynghorydd Gwynfor Owen, sy'n cynrychioli ward Harlech a Llanbedr, mae hi'n "bwysig iawn" ariannu'r pwll gan ei fod yn rhywbeth sydd "o fudd i'r gymuned, ac i blant y gymuned yn benodol".
O ganlyniad, dywedodd Mr Owen fod angen dod o hyd i tua £30,000 mewn tua thri mis, rhywbeth sy'n "dipyn o glec" i'r pwll a'r gymuned leol.
Mae Canolfan Hamdden Harlech ac Ardudwy, sy'n cynnwys pwll nofio 25 metr o hyd, wal ddringo a chaffi wedi bod yn nwylo'r gymuned ers 2011 - mae gwersi nofio i blant yr ardal yn cael eu cynnal yno, ynghyd â gwersi nofio preifat.
Plant a rhieni am iddo aros ar agor
Dywedodd Heidi Williams, cadeirydd bwrdd rheoli'r ganolfan: "Mi ydyn ni wedi brwydro mor galed i gadw'r pwll nofio ar agor yn Harlech bron i 14 o flynyddoedd yn ôl ac mae yna bryder y gallai gau rŵan oherwydd y gostyngiad mewn cyllid gan y cynghorau gymuned.
"Mi wyddwn i wrth siarad â phlant lleol a'u rhieni nad ydy hyn yn rhywbeth y maen nhw eisiau ei weld yn digwydd.
"Mae'n hollbwysig felly fod aelodau o'r gymuned yn mynychu ein cyfarfod cyhoeddus ac yn cefnogi'r bwrdd i frwydro'n galed i ddod o hyd i ddatrysiad, fel rydym wedi gwneud yn y gorffennol, i gadw'r ganolfan ar agor.
"Rydyn ni wedi profi sawl gwaith, gyda'r bobl iawn yn cymryd rhan, y gallwn barhau â llwyddiant y ganolfan am 14 mlynedd arall."
Un sydd yn mwynhau mynychu'r ganolfan ydy Lydia sy'n byw yn lleol, dywedodd y byddai colli'r ganolfan yn newyddion ofnadwy.
"Mae'n rhaid i bawb ddysgu sut mae nofio, plant ac oedolion.
"Mae 'na lawer o adeiladau yn Harlech sydd wedi cau ac mae'n drist ofnadwy gweld hynny. Mae'n hanfodol felly i gadw'r pwll ar agor," meddai.
Mae cynghorau cymuned Talsarnau, Llanbedr a Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont wedi penderfynu peidio parhau i ariannu'r ganolfan hamdden wedi diwedd y flwyddyn ariannol.
Yn ôl Cyngor Cymuned Talsarnau, cytunwyd i beidio â pharhau gyda'r taliadau oherwydd bod gan y cyngor gostau sylweddol ei hun i'w gwneud ar wahanol brosiectau yn yr ardal.
Dywedodd Cyngor Cymuned Llanbedr er ei fod yn siomedig, ond nad oedd ariannu'r ganolfan yn cynnig y gwerth gorau am arian gan nad ydy plant Ysgol Llanbedr yn mynychu gwersi yno.
Mae Cyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont wedi cael cais i ymateb.
Mae cynghorau cymuned Harlech a Llanfair wedi cytuno i barhau i neilltuo rhan o'u cyllideb i'r ganolfan am y flwyddyn ariannol nesaf, gyda chyngor cymuned Y Bermo dal heb gyhoeddi eu penderfyniad nhw fel cyngor.
Mae cyfarfod cyhoeddus wedi'i drefnu yn y ganolfan hamdden ar 28 Ionawr i drafod dyfodol y ganolfan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023