Pwll nofio Aberteifi yn cau yn sgil 'dyledion sylweddol'
- Cyhoeddwyd
Bydd pwll nofio yng Ngheredigion yn cau ddiwedd mis Mawrth oherwydd trafferthion ariannol.
Mewn datganiad fe ddywedodd ymddiriedolwyr Pwll Coffa Aberteifi bod ganddyn nhw "ddyledion sylweddol" ar ôl gorfod cau am gyfnodau hir yn 2023.
Fe ddywedon nhw hefyd bod "gostyngiad mewn defnydd a chostau ynni uwch" wedi arwain at y penderfyniad.
Fe fydd y pwll yn cau ddydd Gwener 29 Mawrth.
Fe glywodd cyfarfod blynyddol ar ddyfodol y pwll ddiwedd y llynedd bod yna nifer fawr o ofynion ariannol.
Roedd 'na fwlch ariannol gwerth dros £8,000 - roedd y pwll yn colli incwm ac roedd 'na gostau sylweddol wrth drwsio offer a'r adeilad.
Yn ôl ymddiriedolwyr mae Cyngor Ceredigion yn "ystyried dyfodol y safle" ac er bod yr ymddiriedolaeth yn "obeithiol" y bydd y cyngor yn cymryd perchnogaeth o'r adeilad, maen nhw'n deall na fydd y cyngor yn gallu rhedeg y pwll.
Mae Nia Cole yn hyfforddwraig triathlon gyda DC Tri ac mae hi a'i gwr wedi cyrraedd uchelfannau'r gamp yn cystadlu ym mhencampwriaethau'r byd.
Ond mae Ms Cole yn poeni am effaith cau'r pwll ar lawr gwlad: "Bydd cenhedlaeth o blant yn Aberteifi nawr heb y pwll i fynd i ddysgu nofio ynddo.
"Mae'r afon gyda ni ynghanol y dre, y môr ar ein stepen drws. Mae e'n benderfyniad alle fod yn beryglus."
Mae Beth Howells wedi bod yn hyfforddi plant i nofio ers y 1970au: "Dwi wedi bod yn dysgu'r plant dros yr holl flynyddoedd, ac mae e'n bwysig iddyn nhw wybod sut mae nofio a sut mae bihafio yn y dŵr.
"Bydden i'n drist iawn os bydde'r lle'n cau, bydde fe'n drist iawn i'r dre hefyd," meddai.
Mae 'na alw am gynllun hir dymor i achub y pwll, yn ôl y Cynghorydd Catrin Miles o'r cyngor tref.
"Yn yr hir dymor fydden i'n falch iawn gweld rhyw ddatrysiad radical - rhywbeth hollol wahanol ar gyfer y pwll, achos mae'n bwysig bod yr ysgol nofio yn cadw i fynd," meddai.
"Ble maen nhw'n mynd i fynd os nad y'n nhw'n gallu cael dosbarthiadau fan hyn?"
Fe ddywedodd Cyngor Ceredigion bod eu cabinet yn ystyried dyfodol y pwll mewn cyfarfod wythnos nesaf.