Gwesty'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd wedi cau
- Cyhoeddwyd
Mae Gwesty'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd wedi cau a hynny ar ôl blynyddoedd o geisio gwneud y lle i lwyddo fel busnes.
Yn 2020 roedd yna ymdrechion i ddod â bywyd newydd i'r adeilad - adeilad a oedd ar un adeg, meddir, yn gosod pris glo y byd.
Yn 2017 fe agorodd yr adeilad o dan yr enw Gwesty'r Gyfnewidfa - The Exchange Hotel.
Ond fe gaeodd y gwesty pan aeth y perchnogion, Signature Living Coal Exchange, i ddwylo'r gweinyddwyr ym Mai 2020.
'Dim cydweithio'
Ddydd Mercher dywedodd Coal Exchange Operations LLP, sy'n rhedeg yr eiddo, nad oes ganddyn nhw "berthynas" bellach gyda'r perchnogion presennol Eden Grove Developments.
Mae cyn-gynghorydd Caerdydd Ashley Govier yn cael ei restru fel un o gyfarwyddwyr Eden Grove.
Dywedodd llefarydd ar ran y gweithredwyr: "Ry'n yn gresynu'n fawr ein bod wedi cyrraedd fan hyn. Mae hyn yn rhywbeth y gallai fod wedi cael ei osgoi.
"Ry'n wedi gweithio yn gwbl ddiflino i ddod i gytundeb gyda'r rhydd-ddeiliad Eden Grove Developments Limited a ddaeth yn berchen ar y gwesty ar 27 Rhagfyr 2023.
"Ond mae hi wedi dod i'r amlwg yn ystod y pythefnos diwethaf nad ydyn nhw yn fodlon cydweithio gyda ni i ddiogelu dyfodol y busnes."
Dywedodd y llefarydd eu bod yn bryderus am effaith hyn ar staff a chwsmeriaid a bod y mater yn cael ei drafod gan gyfreithwyr.
'Hynod rwystredig'
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni sy'n rhedeg y gwesty bod Eden Grove Developments wedi gosod cyfyngiadau sydd wedi arwain "at ostyngiad refeniw sylweddol".
"Mae hyn wedi ei gwneud hi'n amhosib i weithredu'r gwesty fel busnes hyfyw."
Dywedodd y cwmni bod sawl cais wedi cael ei wneud i ddelio â'r diffyg arian ond nad oedd hynny yn digwydd.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae Eden Grove Developments wedi'i gwneud yn glir na fydd arian ar gael. Mae hynny'n hynod rwystredig."
Roedden nhw wedi gobeithio y byddai'r materion yn cael eu datrys ac y byddai'r gwesty yn gallu ailagor.
Mae Cymdeithas Ddinesig Caerdydd wedi galw am gynllun i adfer y Gyfnewidfa Lo - adeilad y maen nhw yn ei ddisgrifio fel "un o'r rhai mwyaf arwyddocaol yng Nghymru".
Yn ôl y Gymdeithas Ddinesig dyw Cyngor Caerdydd na Llywodraeth Cymru, ddim wedi gwneud digon i gynnal yr adeilad yn iawn.
Dywedodd y cadeirydd, Nerys Lloyd-Pierce: "Mae rhan ogleddol yr adeilad mewn cyflwr trychinebus iawn. Be' mae'n gymryd i'r rhai sydd mewn grym i weithredu?
"Mewn unrhyw ddinas arall, fe fuasai'r Gyfnewidfa Lo yn atyniad.
"Yma yng Nghaerdydd, mae'n cael ei gadael i bydru."
'Ddim yn syndod'
Mewn datganiad, dywedodd Eden Grove Developments: "Yn seiliedig ar yr wybodaeth yr ydyn ni wedi ei dderbyn dros y bythefnos ddiwethaf, dyw penderfyniad y cwmni sy'n rhedeg yr eiddo ddim yn syndod i ni.
"Ond rydyn ni wedi cael ein drysu braidd gan ddatganiad y cwmni'r wythnos diwethaf, a nododd bod archebion cwsmeriaid yn ddiogel.
"Rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar gefnogi staff a chwsmeriaid wrth i ni geisio cadarnhau pwy fydd y gweinyddwyr fel bod modd i ni ddechrau trafodaethau.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd wedi cael cais i ymateb.