'Rhwystredig' ceisio hawlio arian gan gwmni aeth i'r wal
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a brynodd gar gan werthwr cerbydau ail-law wedi gorfod talu am waith atgyweirio ei hun ar ôl i'r cwmni fynd i'r wal.
Fe brynodd Ellie Rylands, sy'n 28 oed ac yn dod o Aberteifi, ei char gan Cazoo am £10,000 - ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach, fe ddaeth o hyd i broblem gyda'r injan.
Cafodd wybod nad oedd y waranti yn ddilys gan fod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Fe aeth cwmni Cazoo i'r wal yr wythnos ddiwethaf ar ôl cael gwared ar gannoedd o swyddi fel rhan o broses ailstrwythuro.
Dywedodd Teneo, gweinyddwyr Cazoo, nad oes modd prosesu unrhyw geisiadau sydd wedi cael eu gwneud yn y cyfnod waranti gwreiddiol oherwydd y prosesau gweinyddol sydd ar waith ar hyn o bryd.
'Y broblem yn bodoli cyn prynu'r car'
Ddiwedd Chwefror fe brynodd Ms Rylands y car ail-law gan ei bod yn disgwyl teithio mwy i'r gwaith ar ôl symud i ardal wledig.
Fe gafodd hi waranti arferol gan Cazoo fel rhan o'r pryniant, ac fe benderfynodd hi dalu yn fisol am waranti estynedig gan The Warranty Group.
"Dwi'n byw mewn ardal eithaf anghysbell ac yn gweithio ar fferm datws, felly mae cael car yn rhywbeth hanfodol i mi," meddai.
"Fe welais i adolygiadau da iawn am Cazoo ar-lein, ac ro'n i'n credu ei fod yn gwmni yr oedd modd ymddiried ynddo."
Fe aeth Cazoo i ddwylo'r gweinyddwyr ddechrau mis Mai eleni.
Tua'r un pryd fe sylwodd Ms Rylands ar olau yn y car oedd yn awgrymu bod problem gyda'r injan, ac felly fe aeth â'r cerbyd i'r garej yn syth.
"Talais i £250 am brawf diagnostig.
"Daeth i'r amlwg yn y pendraw fod piston disel wedi torri, ac os nad oedd hwnnw'n cael ei drwsio yna gallai achosi niwed pellach i'r car.
"Cefais i gyngor i beidio â gyrru mwy ar y car, ac yn ôl y garej, fe fyddai'r broblem yma wedi dechrau cyn i mi brynu'r car."
Gan ei bod hi, bryd hynny, o fewn cyfnod 90 diwrnod y waranti gan Cazoo, fe wnaeth hi adrodd y broblem iddyn nhw.
"Fe ddywedon nhw mai'r unig beth allwn i ei wneud oedd gwneud cais i fod yn gredydwr, a gallwn gael rhywfaint o'r pres yn ôl," meddai Ms Rylands.
"Dwi'n amau fy mod i yng nghefn rhyw giw hir, a gallai hi gyrraedd y pwynt lle does dim arian ar ôl i bobl fel fi."
Dywedodd Ms Rylands ei bod hi wedi talu dros £1,000 i drwsio'r car.
Fe gysylltodd hi hefyd â The Warranty Group, sydd bellach yn rhan o grŵp Assurant, i drafod y waranti estynedig yr oedd hi wedi talu amdano.
Cafodd hi wybod na fyddai'r waranti hwnnw yn talu am y gwaith trwsio, gan fod y broblem yn bodoli cyn i'r waranti ddechrau.
'Mae o mor rhwystredig'
Mae Ms Rylands yn dweud bod yr holl brofiad wedi gwneud iddi deimlo'n rhwystredig ac wedi ei rhoi mewn sefyllfa letchwith.
Ar ôl gorfod dibynnu ar gar ei phartner, mae hi bellach wedi penderfynu talu'r £1,000 er mwyn trwsio'r car, a dydi hi ddim yn siŵr os bydd hi'n cael yr arian yn ôl.
"Fe wnes i ymddiried yn Cazoo i werthu rhywbeth i mi oedd yn gweithio, neu o leiaf i fod yn onest am yr hyn oedd angen ei drwsio," meddai.
"Rydw i a fy mhartner yn gobeithio prynu tŷ yn yr ardal ond nawr mae'n rhaid i mi ddefnyddio arian i dalu am y car. Mae o mor rhwystredig."