Cyffro wrth baratoi i gynnal y Brifwyl ym Mhontypridd

Arwydd Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad
  • Cyhoeddwyd

Mae'r paratoadau olaf yn cael eu cyflwyno ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Parc Ynysangharad ym Mhontypridd yw lleoliad yr ŵyl eleni, ac mae'r safle bellach wedi cau i'r cyhoedd er mwyn cwblhau'r gwaith paratoi cyn dechrau'r Eisteddfod ddydd Sadwrn.

"Mae'n golygu lot i'r ardal, dwi'n meddwl," meddai Aled Humphreys - cydlynydd Canolfan Calon Taf, sydd o fewn Parc Ynysangharad.

"Mae 'na lot o baratoadau a mae'r parc yn teimlo'n brysur iawn.

"Mae'n hynod o gyffrous ond wrth gwrs mae 'na ambell gwynion wedi bod, ond mae e gyd ar gyfer gweithgaredd ffantastig o fewn y parc."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Parc Ynysangharad eisoes yn teimlo'n brysur iawn, medd Aled Humphreys

Yn ogystal â Pharc Ynysangharad, fe fydd rhai o weithgareddau'r ŵyl yn digwydd yng nghanolfan YMa ynghanol y dref.

Mae'r prif weithredwr yno, Jên Angharad, yn gobeithio bydd yr Eisteddfod yn arwain at hwb i'r ganolfan gymharol newydd.

"'Dan ni wedi bod ar agor am flwyddyn a be' 'dan ni mawr yn obeithio ydy bod cymaint o bobl yn dod mewn i'r adeilad.

"Oedd o'n anhygoel o fewn y flwyddyn gynta' - 34,000 o bobl wedi ymweld ag YMa ond 'dan ni mawr yn gobeithio bydd pobl yn gweld y lle, ac eisiau dod nôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jên Angharad yn edrych ymlaen at groesawu Eisteddfodwyr i ganolfan YMa

Bydd rhai o weithgareddau'r Eisteddfod yng nghanolfan gelfyddydol Y Muni hefyd, fydd yn ailagor ar ôl gwaith adnewyddu sylweddol.

Tu hwnt i'r gweithgareddau swyddogol, mae nifer o fusnesau eraill wedi trefnu digwyddiadau i gydfynd â'r brifwyl

Mae clwb Cymraeg Pontypridd, Clwb y Bont, sydd yr ochr draw i Afon Taf o Barc Ynysangharad, wedi trefnu wythnos lawn o ddigwyddiadau

"Mae'r clwb yn 40 mlwydd oed ac wedi bod yn gysylltiedig efo diwylliant yr iaith Gymraeg a phob math o bethau - nid yn unig pethau Cymraeg ond pethau Cymreig ym Mhontypridd dros y degawdau," meddai'r swyddog datblygu, Aled Wyn Phillips.

"Dyma gyfle nawr i ddangos beth mae'r clwb yn gallu ei gynnig.

"Yr her ni wedi'i osod i ni'n hunain yw bod yn uchelgeisiol, bod yn rhan o ŵyl mwya' Cymru - dod dros y bont a dathlu gyda ni a bod yn rhan o bopeth."

Yn dilyn llifogydd yn 2020, mae tipyn o waith atgyweirio wedi bod i'r adeilad, a gwaith addurno ychwanegol i groesawu ymwelwyr wythnos yr Eisteddfod.

"Mae pob math o grantiau a chymhorthdal wedi bod i wella'r adnodd o ran mynediad i bobl ag anabledd, ac yn dechnegol mae'r lle yn llawer mwy cynhwysfawr," meddai Mr Phillips.

"Y push dwetha' 'ma nawr yw cael arwydd mawr bendigedig sydd wedi cael ei osod ar ben y stryd sy'n symbol i ddweud bod y clwb ar agor, bod y clwb yna.

"Mae o lawr ryw stryd fach - felly mae hynny'n arwydd o hyder, a gobeithio bydd yr hyder yna'n parhau wedyn fel rhyw fath o waddol ar ôl yr Eisteddfod."

Gŵyl amgen i ddangos 'y Ponty go iawn'

Ym mhen arall tref Pontypridd, mae nifer o fusnesau ar Stryd y Felin wedi dod ynghyd i greu gŵyl amgen.

"Dyw e ddim yn mynd i fod yn wythnos arferol i ni," meddai Enrico Orsi, sy'n berchen ar siop goffi ar y stryd.

"Ry'n ni wedi trefnu gŵyl amgen, yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda cherddoriaeth, gweithdai a phethau eraill.

"'Dyn ni erioed wedi cael hwn ym Mhonty o'r blaen. Mae'n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth, ond dwi'n credu bydd pobl eisiau dod i'r dre' i weld beth yw'r Ponty go iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Brifwyl yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth" i'r dref, meddai Enrico Orsi

Ym Mharc Ynysangharad, mae Aled Humphreys yn pwysleisio bod cynnal yr Eisteddfod yno yn ddigwyddiad hanesyddol.

"Mae'n ffaith dwi'n dwli dweud wrth bobl ond tro dwetha' i Bontypridd gael 'Steddfod Genedlaethol oedd 1893, a bryd hynny doedd dim Parc Coffa Ynysangharad.

"Agorodd y parc yma'n 1923 felly dyma fydd Eisteddfod cyntaf y parc.

"Fi'n meddwl dylen ni wir fel cymuned bwysleisio'r ffaith taw fa'ma yw cartref yr anthem 'fyd - mae gyda ni cofgolofn Evan James a James James yn y parc.

"Ma' fe jyst fel bo'r Steddfod i ryw radde yn dod gatre.

"Wrth gwrs ma' fe yn dod gatre achos 'naeth e gyd ddechre yn Aberdâr, felly mae e'n ôl yn y sir wreiddiol."