Cyhoeddi mwy o fanylion am leoliadau Eisteddfod 2024
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi mwy o fanylion am leoliadau Eisteddfod Genedlaethol 2024, gyda 150 diwrnod i fynd tan y Brifwyl ym Mhontypridd.
Cafodd Parc Ynysangharad yn y dref ei gadarnhau fel y prif leoliad ar gyfer yr ŵyl eleni nôl ym mis Awst.
Tra bo'r prif faes wedi'i leoli yno, bydd rhai o adeiladau'r cyngor ac adeiladau preifat hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer "achlysuron ehangach yr Eisteddfod".
Bydd y maes gwersylla ar dir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch, tra mai ar dir ysgol Uwchradd Pontypridd fydd gŵyl Maes B.
Ddydd Mercher ar gyfrif X yr Eisteddfod roedd yna wybodaeth am leoliad y maes carafanau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe fydd y ganolfan groeso a'r swyddfa docynnau yn Llyfrgell Pontypridd, tra bod "parcio hygyrch" ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin.
Bydd system parcio a theithio o Ysgol y Ddraenen Wen a safle Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest, yn ogystal â'r system sydd eisoes ar waith o Abercynon.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal rhwng 3 a 10 Awst eleni.

Cafodd arwydd ei ddadorchuddio ym Mharc Ynysangharad fis Awst yn ei nodi fel cartref Eisteddfod 2024
Mae pryderon wedi cael eu codi gan bobl leol am rwystro mynediad i rannau o Barc Ynysangharad am rannau helaeth o'r haf, ac effaith yr Eisteddfod ar draffig yn yr ardal.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf fod "adeiladu'r Eisteddfod Genedlaethol yn dasg enfawr", ac y bydd angen "cyfyngu" ar fynediad i rannau o Barc Ynysangharad o ddechrau Gorffennaf.
Rydyn ni am dawelu meddwl trigolion y bydd hyn yn cael ei wneud fesul cam, ac felly bydd ardaloedd yn cael eu cyfyngu am yr amser byrraf posibl, a dim ond pan fydd hynny'n gwbl angenrheidiol," meddai'r cyngor mewn datganiad.
"Ein nod yw cadw cymaint o Barc Coffa Ynysangharad a Lido Ponty ar agor cyn hired â phosibl cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ddechrau."
Bydd y parc a'r lido yn cau yn llwyr ar 30 Gorffennaf i'r rheiny sydd ddim yn ymweld â'r Eisteddfod.

Fe brynwyd y tir mae Parc Ynysangharad bellach yn sefyll arno gan bobl Pontypridd yn 1919
Ychwanegodd y cyngor fod "gwaith sylweddol wedi'i wneud o ran trafnidiaeth gyhoeddus, rheoli traffig, isadeiledd achlysuron, a lletya ymwelwyr â'r Eisteddfod".
Mae'r cyngor yn dweud mai trenau Metro De Cymru ddylai fod yr opsiwn cyntaf i deithwyr o'r tu allan i'r dref.
"Rydyn ni'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu cynllun trafnidiaeth manwl sy'n cefnogi nid yn unig ymwelwyr â'r Eisteddfod, ond hefyd trigolion sy'n cymudo ac yn teithio yn yr ardal," meddai'r datganiad.

Mae'r bont yma'n cysylltu Parc Ynysangharad gyda chanol tref Pontypridd
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses y bydd ei chynnal "mewn ardal drefol yn dod â'i heriau ei hun".
Ychwanegodd ei bod yn "wych gweld cynifer o gwmnïau ac unigolion lleol yn awyddus i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ein gwaith dros yr ychydig fisoedd diwethaf".
"Rydyn ni'n cwblhau'r cynllun ar gyfer safle'r ŵyl, ac yn edrych ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth gyda phawb dros y misoedd nesaf," meddai.
'Cyfle i fwynhau'n diwylliant a'r iaith'
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, aelod o gabinet y cyngor y bydd cynnal y Brifwyl yn "hoi hwb enfawr i fusnesau lleol ac atyniadau yng nghanol trefi ledled Rhondda Cynon Taf".
"Dyma gyfle i fwynhau ein diwylliant Cymreig a'r Gymraeg, ac arddangos yr hyn sydd ar gael yma," meddai.
"Rydyn ni'n gweithio i sicrhau gwaddol parhaol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf."
Ychwanegodd fod y cyngor a'r Eisteddfod wedi bod yn cydweithio "ers misoedd lawer i sicrhau bod cynlluniau ar waith a bod cyn lleied o darfu â phosibl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd14 Awst 2023
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023