Targed miliwn o siaradwyr Cymraeg 'ddim yn realistig'
- Cyhoeddwyd
Mae enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dweud nad yw targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn realistig.
Yn ôl Gwilym Morgan, 18, does dim digon yn cael ei wneud i gyrraedd y nod, gyda "gormod o ffocws" ar siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn gwneud hi’n "haws nag erioed" i bobl ddysgu Cymraeg.
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
Flwyddyn union ers ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri, mae Gwilym Morgan o Gaerdydd wedi disgrifio’i siwrnai fel un "anhygoel’"
“Es i o fod yn fachgen eitha’ swil pan ymunais i â’r ysgol, i fod ar y teledu, ac ar y radio,” meddai.
“'Dw i wedi cael gymaint o brofiadau gyda llawer o bobl ardderchog a 'dw i wedi cael siawns i gynrychioli pobl arall sydd wedi dysgu yr iaith.”
'Llawer' o ddisgyblion 'ddim yn hoffi'r Gymraeg'
Yn astudio lefel A yn Ysgol Esgob Llandaf ar hyn o bryd, ei obaith yw mynd ymlaen i astudio Cymraeg yn y Brifysgol cyn dod yn athro Cymraeg, gan ysbrydoli dysgwyr y dyfodol.
Serch hynny, mae’n dweud bod angen newid yn y system addysg.
“Mae ysgolion yn dysgu Cymraeg i ddisgyblion ers roedden nhw yn yr ysgol gynradd i TGAU,” meddai.
“'Dw i’n meddwl achos mae’n rhaid i ddisgyblion ddysgu Cymraeg, dydy llawer o ddisgyblion ddim yn hoffi’r Gymraeg. 'Dw i’n meddwl mae’n rhaid i ni newid hwn.”
- Cyhoeddwyd4 Mai
Wrth gyfeirio at darged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dywedodd nad yw'n credu y byddai’r nod yn cael ei gyrraedd.
“'Dw i jyst ddim yn meddwl ein bod ni’n gwneud digon ar hyn o bryd,” meddai.
“Mae push mawr gyda dysgu Cymraeg i oedolion, sy’n wych, ond 'dw i’n meddwl mae dal gormod o ffocws ar bobl sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf i ddefnyddio’r iaith.
"Ydy, mae’n rili bwysig i ddefnyddio’r iaith, ond 'dw i’n meddwl mai dysgwyr yw’r ffordd i gael ein nod.
"Os dy’n ni ddim yn rhoi digon o ffocws arnyn nhw, does dim ffordd ymlaen.”
Ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod, cymysg oedd y farn o ran nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siarad Cymraeg.
Dywedodd Heledd James o Landysul: “Fi’n credu galle fe fod yn realistig os yw e’n rywbeth mae pawb yn gallu gweithredu arno fe, yn hytrach na disgwyl i garfannau bach o bobl i weithredu fan hyn a fan co.”
Cytuno mae Dylan Jones o Ynys Môn.
“Mae’n bosib,” meddai.
“Mae 'na lot o bobl yn siarad Cymraeg. Trio cael cymunedau Cymraeg ydi’r peth pwysica’."
Ond i Eleri Dufty o Hermon ger Cynwyl Elfed mae’r targed yn "uchelgeisiol iawn’"
“Fel athrawes sy’n gweitho mewn ysgol wledig, ni’n cael toriadau drwy’r amser o ran y gyllideb," dywedodd.
"Ni’n gorfod gwneud toriadau o ran y cymorth ni’n rhoi i ddysgwyr, felly mae’n anodd iawn i gefnogi’r dysgwyr hynny sy’n dod o gartrefi di-Gymraeg.”
'Cofleidio a chefnogi pob dysgwr'
Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffydd Jones, bod angen cefnogi pawb sydd am siarad yr iaith.
"Ni'n gwybod bod dysgwyr yn gallu bod yn hynod o frwd, ac yn defnyddio'u Cymraeg ar bob un achlysur posibl ac yn gallu bod yn ysbrydoliaeth i ni siaradwyr Cymraeg sydd ddim bob tro yn defnyddio pob un gwasanaeth sydd ar gael i ni yn y Gymraeg.
"Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn gofyn i ni wneud dau beth er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg, sef cynyddu'r nifer sy'n siarad y Gymraeg a chynyddu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg gan bobl."
"Yn sicr ry' ni'n cofleidio pob dysgwr ac yn eu cefnogi nhw'n llawn, ond ar yr un pryd dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n hwyluso ac yn rhoi'r cyfle i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu Cymraeg nhw," ychwanegodd.
"Does dim hyder gan bob siaradwr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith ym mhob amgylchiad ac ar bob achlysur, felly dwi'n credu bod 'na le i ni godi hyder siaradwyr Cymraeg ond hefyd lle i ni groesawu a chefnogi dysgwyr a siaradwyr newydd gymaint ag y gallen ni.
"Dyw e ddim yn gwestiwn o un neu'r llall, mae angen y ddau beth yn bendant."
'Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Roedd hi’n wych gweld Gwilym yn dod yn fuddugol yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd ac yn siarad ag angerdd am fod eisiau ysbrydoli eraill i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Dyna pam rydyn ni wedi ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl ddysgu Cymraeg, drwy gyflwyno gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc a’r gweithlu addysg, a thrwy gefnogi gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
“Mae angen cynnig profiadau positif i ddenu pobl ifanc at y Gymraeg fel eu bod yn ei gweld a’i phrofi fel iaith ddeniadol, fywiog a chymdeithasol.
"Rydyn ni’n ariannu sefydliadau fel yr Urdd, y Mentrau Iaith a’r Clybiau Ffermwyr Ifanc sy’n creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar lawr gwlad, ac yn cynnig grantiau i brosiectau cydweithredol cymunedol er mwyn gwarchod y Gymraeg a’i helpu i ffynnu.”
Gyda’i fam yn ysbrydoliaeth fawr iddo, wedi i hithau ddysgu'r iaith ei hun yn 2015, mae Gwilym yn sicr bod modd gwneud mwy i ddenu rhagor o ddysgwyr.
“Rydyn ni ar y ffordd, dwi’n meddwl, ond 'dw i ddim yn meddwl bod 2050 yn realistig.”