Harri Morgan ddim am ddychwelyd i rygbi oherwydd iechyd meddwl

Harri Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harri Morgan wedi penderfynu na fydd yn dychwelyd i rygbi proffesiynol

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr rygbi wedi dweud na fydd yn dychwelyd i'r gêm broffesiynol er mwyn gwarchod ei iechyd meddwl.

Fe gyhoeddodd Harri Morgan, 24, a oedd yn chwarae i’r Gweilch, ei fod yn cymryd seibiant o'r gamp yn 2023 ar ôl iddo geisio lladd ei hun.

Fe gollodd ei nain a'i daid o fewn cyfnod agos i’w gilydd, ac roedd pwysau chwarae’n broffesiynol wedi gwaethygu’r sefyllfa, meddai.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod y cyfnodau o fewn y gamp yn gallu bod yn heriol, a'u bod wedi ymroi i weithio ar sut mae chwaraewyr yn cael eu cefnogi yn y cyfnodau hyn.

'Teimlo 'mod i methu dweud dim'

Cafodd Morgan, a oedd arfer chwarae i Gymru dan-20 a chlwb Pen-y-bont ar Ogwr, sawl anaf yn ystod ei yrfa fer.

Dywedodd fod yr anafiadau wedi gwaethygu’r galar yr oedd yn profi.

“Ro'n i wir ddim yn teimlo fod 'na lawer o gefnogaeth o amgylch y rheiny oedd wedi eu hanafu o fewn y byd rygbi," meddai wrth raglen BBC Wales Live.

“Ro'n i’n teimlo fel 'mod i methu dweud dim, neu fydden i’n gadael fy nghyd-chwaraewyr a'n hyfforddwyr i lawr.

"Ar ddiwedd y dydd ro'n i dal angen cytundeb."

Roedd y teimlad o fod yn unig ac ynysig wedi cynyddu ar ôl iddo golli ei nain a thaid o fewn cyfnod agos i'w gilydd.

“Fe gychwynnodd fel gor-bryder," meddai.

“Bydde fy nghalon yn cychwyn curo yn sydyn a byddwn i’n mynd yn fyr o anadl."

Dywedodd nad oedd yn gallu delio â'r sefyllfa a'i fod wedi ystyried lladd ei hun.

“Ro'n i ddim wir yn teimlo unrhyw beth, ro’n i’n teimlo’n wag.”

Ar ôl iddo siarad am ei iechyd meddwl, dywedodd ei fod wedi derbyn cefnogaeth wych gan ranbarth y Gweilch.

“Dwi methu rhoi bai ar y clwb, roedden nhw’n anhygoel,” meddai.

“Fe wnaethon nhw roi amser i fi a’r gwagle o'n i angen, a’r cyfle i ddychwelyd os o'n i’n dymuno."

Harri Morgan yn chwarae i'r GweilchFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harri Morgan yn chwarae fel mewnwr i'r Gweilch

Ond mae Morgan yn bendant bellach nad yw am ddychwelyd i’r byd rygbi proffesiynol.

“Dwi wedi cael y cyfle i ddychwelyd a dwi wedi gwrthod, pob tro," meddai.

"Bydde well gen i fod yn hapus na chael yr holl fanteision o fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol."

Erbyn hyn mae’n rheoli campfa ac yn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd, ac yn gobeithio gweld mwy o gefnogaeth yn cael ei chyflwyno i chwaraewyr.

“Mae am greu’r lle am drafodaethau, gyda’r rheiny sydd mewn pŵer o fewn y byd rygbi yn holi 'beth allwn ni wneud i helpu?'" meddai Morgan.

“Mae’n ymwneud â’r diwylliant a deall anghenion yr unigolyn.”

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: “Mae wastad yn anodd clywed y problemau mae rhai unigolion o fewn rygbi wedi dioddef.

"Tra ein bod yn meddwl am y rheiny sy’n dioddef neu wedi dioddef, rydym yn hynod ddiolchgar i’r rheiny sy’n annog chwaraewyr i siarad mor ddewr am y pwnc."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl yma, mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.