Seibiant iechyd meddwl o'r byd rygbi i Harri Morgan
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n trafod materion a allai beri gofid i rai.
Mae mewnwr y Gweilch, Harri Morgan, wedi datgelu ei fod wedi ceisio lladd ei hun yn gynharach eleni wrth iddo gael trafferth dygymod gyda marwolaethau teuluol ac anafiadau.
Dywedodd y chwaraewr 23 oed ei fod wedi "dioddef yn dawel" am flynyddoedd cyn cyrraedd "pwynt isaf" ei fywyd pan gymrodd gor-ddos ym mis Chwefror.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fod ar feddyginiaeth at straen a gorbryder a'i fod yn cymryd seibiant o'r byd rygbi.
"Rhaid i mi flaenoriaethu fy lles corfforol a meddygol," meddai, gan ddiolch i'w deulu, ei ffrindiau a'i glwb am eu cymorth yn ystod "y cyfnod tywyll yma".
Ond dywedodd y mewnwr, a chwaraeodd i dîm dan-20 Cymru, ei fod yn gobeithio bod trafod ei benderfyniad yn gyhoeddus, a'r rhesymau drosto, yn helpu eraill.
"Am nifer o flynyddoedd, rwy' wedi dioddef yn dawel," fe ysgrifennodd, gan ddweud mai galar am farwolaethau aelodau hŷn o'r teulu a chyfres o anafiadau rygbi oedd y prif ffactorau o ran dirywiad ei iechyd meddwl.
"Mae lefelau straen uchel hefyd wedi achosi i mi golli talpiau o 'ngwallt.
Pwnc 'tabŵ'
"Ar 5 Chwefror, fe wnes i gyrraedd pwynt isaf fy mywyd a gwaetha'r modd, fe wnes i benderfynu ceisio dod â'r cyfan i ben gyda gor-ddos.
"Byddai wastad ag angerdd am rygbi ond am y tro, mae angen i mi flaenoriaethu fy lles corfforol a meddyliol. Nid ffarwél i rygbi am byth mo hwn, ond ffarwél am y tro."
Ychwanegodd: "Mae iechyd meddwl yn bwnc tabŵ i ddynion, ac yn arbennig i ddynion yn y byd rygbi.
"Trwy gydnabod fy nhrafferthion a dangos fy mod yn fregus, rwy'n gobeithio y bydd dynion eraill yn teimlo'r nerth i drafod yn agored."
Mae'r Gweilch wedi rhannu datganiad Morgan gan ychwanegu: "Mae'n iawn i beidio bod yn iawn. Mae'n iawn i siarad."
Mae datganiad Morgan wedi ennyn llu o ymatebion o gefnogaeth, gyda llawer yn canmol ei ddewrder am drafod ei sefyllfa yn gyhoeddus.
Wrth siarad ar raglen , dywedodd gohebydd rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies ei fod "yn chwaraewr talentog â gymaint dal i'w gynnig i'r gêm".
Dywedodd bod yna "gamau mawr" wedi eu cymryd o fewn y gamp i gefnogi chwaraewyr wedi i unigolion fel Tom James a Dafydd James drafod eu problemau iechyd meddwl hwythau.
"Y peth pwysig o ran Harri Morgan nawr yw ei fod yn cael y cymorth. Mae 'na brosesau mewn lle yn y rhanbarthau ac o fewn Undeb Rygbi Cymru i ymdrin â hyn."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022