Achos llys gweithiwr iechyd dan hyfforddiant wedi dymchwel

Ieuan Crump
  • Cyhoeddwyd

Mae achos llys gweithiwr iechyd dan hyfforddiant oedd wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddau glaf yn yr ysbyty wedi dymchwel.

Roedd Ieuan Crump, 26, wedi’i gyhuddo o gyffwrdd â dwy ddynes yn amhriodol tra’n cynnal sganiau ar y bledren yn Ysbyty’r Faenor, Cwmbrân ym mis Awst 2021.

Fe wadodd Mr Crump y naw cyhuddiad yn ei erbyn – chwech o ymosodiad rhyw, a thri o ymosod drwy dreiddiad.

Roedd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd wedi para dros bythefnos, ond yn dilyn ail ddiwrnod o ystyried eu dyfarniad, cafodd y rheithgor eu rhyddhau gan y barnwr Vanessa Francis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod yr achos, clywodd y llys bod Mr Crump wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd iechyd yn Ysbyty’r Faenor wrth hyfforddi am ei radd nyrsio

Yn dilyn achos wnaeth bara pythefnos, roedd y rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad ddydd Iau.

Ond ddydd Llun, ar eu hail ddiwrnod o ystyried, fe wnaeth y Barnwr Francis eu rhyddhau a dod â’r achos i ben.

Yn ei sylwadau i’r rheithgor, dywedodd nad oedd modd iddi “fynd i fanylion” ynghylch pam roedden nhw’n cael eu rhyddhau, oherwydd y gallai hynny effeithio ar unrhyw achos allai gael ei glywed eto yn y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig