Sut mae cyrraedd Maes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam?

- Cyhoeddwyd
Mae'r aros bron ar ben ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 - ond sut mae cyrraedd y Maes?
Mae modd ichi gyrraedd ar fws, trên, car neu seiclo ac mae'r holl gyfarwyddiadau a'r wybodaeth sydd ei angen arnoch chi ar gael yma...
Dod ar y trên?
Os ydych yn bwriadu dod ar y trên, bydd angen ichi gymryd taith i orsaf Wrecsam Cyffredinol.
Mae Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol yn ystod yr wythnos.
Bydd hyn yn cynnwys wyth gwasanaeth ychwanegol ddydd Sadwrn a Sul a 12 gwasanaeth ychwanegol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae gwybodaeth am fysus gwennol fydd yn eich cludo o'r orsaf drenau i'r Maes isod.
Dod ar fws?
Os ydych yn bwriadu dod ar fws, mae 'na ystod eang o fysiau cyhoeddus yn rhedeg drwy'r dydd a gyda'r nos.
Bydd gwasanaeth Traws Cymru T3 yn gwasanaethu'r Maes bob dwy awr o orsaf fysiau Wrecsam.
Mae gwasanaeth T3 yn sicrhau taith uniongyrchol i'r Maes o Abermaw, Dolgellau, Bala, Corwen a Llangollen.
Bysiau gwennol
Os ydych yn y ddinas, bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim ac yn rhedeg yn rheolaidd rhwng yr orsaf drenau, yr orsaf fysiau yng nghanol y ddinas, a'r Maes o 08:00 tan 23:00.
Mae'r rhain yn fysiau isel sy'n addas i gadeiriau olwyn, pramiau a chŵn.
Bydd y bysiau'n cychwyn o'r safle bws gyferbyn â'r orsaf ac yn galw yn Arosfan 5, Canolfan Fysiau Wrecsam, cyn dilyn llwybr presennol bws rhif 41 i'r stad ddiwydiannol.
Teithio mewn car?
Os ydych yn bwriadu cyrraedd yr Eisteddfod mewn car, yna cadwch lygaid allan am arwyddion melyn yr 'Eisteddfod' er mwyn cyrraedd y maes.
Cod Post y Maes yw LL13 9UR neu movie.proudest.misfits os ydych yn defnyddio What3Words.
Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla teuluol, Hwyrnos a maes pebyll Maes B, ynghyd â'r meysydd parcio i gyd yn agos at Faes yr Eisteddfod yn Is-y-coed, Wrecsam.
Bydd yr arwyddion yn annog pawb i gyrraedd y Maes o gyffordd 6, A483 (Gresffordd).
Bydd y traffig canlynol yn cael ei arwain i'r gogledd i gyffordd 6 (Gresffordd) ar yr A483:
O gyfeiriad Yr Wyddgrug ar yr A541 (cyffordd 5, A483)
Ardal Rhuthun ar yr A525 (cyffordd 4, A483)
Ardal Rhosllannerchrugog ar y B5605 (cyffordd 3, A483)
Johnstown ar y B5426, Ffordd Bangor (cyffordd 2, A483)
Ardal Llangollen / Dyffryn Ceiriog ar yr A5 (cyffordd 1, A483)
Bydd traffig o gyfeiriad Croesoswallt ar yr A5 (gan gynnwys traffig o dde Cymru), yn gadael yr A483 ar gyffordd 6 (Gresffordd).
Bydd traffig o ardal A525 Bangor-is-y-Coed yn dilyn arwyddion wrth agosáu at ochr ddeheuol y stad ddiwydiannol ger goleuadau traffig Cross Lanes.
Bydd traffig yn cael ei gyfeirio tuag at Sesswick Way, ymlaen tuag at Bridge Road South, Bridge Road, troi i'r chwith i Coed Aben Road, Abenbury Way, troi i'r chwith wrth gylchfan JCB ac yna o amgylch y gylchfan nesaf i ymuno â'r ciw ar Industrial Estate Road.
Angen tacsi?
Mae'r Eisteddfod wedi nodi rhestr o gwmnïau tacsi trwyddedig gan Gyngor Wrecsam:
Wrexham Prestige Taxis - 01978 357777
Apollo Taxis - 01978 262626
Speedie Cars - 01978 262829
Yellow Cars - 01978 286286
Station Cars - 01978 363661
Cresta Cabs - 01978 353500
Diamond Cars - 01978 351234
Wrexham Executive Travel & Minibus Ltd - 01978 504064