'Disgwyl lot fwy o eira i ddweud y gwir'
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor i bobl aros adref ac i osgoi teithio os yn bosib yn sgil y tywydd garw tebygol dros y penwythnos.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi sawl rhybudd am eira, rhew a glaw ddydd Sul gyda sawl digwyddiad wedi'i gohirio.
Roedd yr arbenigwyr, wedi rhagweld hyd at 7cm o eira yn gyffredinol, a hyd at 30cm o eira i syrthio ar dir uchel, gan achosi lluwchfeydd wrth i'r gwynt gryfhau.
Mae rhybudd melyn arall am eira a rhew wedi ei gyhoeddi ar gyfer siroedd y gogledd ag eithrio Môn rhwng 00:00 nos Lun a hanner dydd, ddydd Llun 6 Ionawr.
Bydd rhybudd melyn am law mewn grym ar gyfer mwyafrif helaeth y wlad o 6:00 fore Sul tan 21:00 nos Sul.
Wrth i awyr fwynach symud tua'r gogledd, fe allai'r eira droi'n law rhewllyd mewn mannau, ac mae'n bosib y gallai'r eira ddechrau dadmer yn gymharol gyflym.