Rhybudd melyn am eira a rhew yn parhau i ogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira a rhew yn parhau mewn ardaloedd mewndirol yn y gogledd tan ganol dydd ddydd Llun.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi sawl rhybudd am eira, rhew a glaw ddydd Sul, gyda'r tywydd yn achosi trafferthion mewn mannau.
Roedd yr arbenigwyr wedi rhagweld hyd at 7cm o eira yn gyffredinol, a hyd at 30cm o eira i syrthio ar dir uchel, gan achosi lluwchfeydd wrth i'r gwynt gryfhau.
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
Bu ffordd yr A44 ger Llangurig, Powys ar gau am gyfnod wrth i lori fynd yn sownd yn yr eira.
Mae sawl ardal ar draws cymoedd y de hefyd wedi wynebu trafferthion ar y ffyrdd yn sgil y tywydd garw.
Yn y gogledd ddwyrain, mae sawl ardal ar draws wedi cael eu taro gan lifogydd, gyda nifer o ffyrdd dal ar gau fore Llun.
Mae sawl ysgol ar draws yr ardal ar gau oherwydd y tywydd.
Mae nifer o drigolion wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd yn Oakenholt, Sir y Fflint, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fore Llun.
'Digon i wneud dyn eira'
Roedd Mirain Jones yn "disgwyl lot fwy o eira" yn Llanerfyl, Powys, dros y penwythnos ond "dy' hi ddim rhy ddrwg", meddai.
"Ma' 'na ychydig bach o eira ond mae'r ffyrdd yn iawn.
"Plygain i fod heno yn Llanerfyl ond ma hwnna 'di gael ei ohirio oherwydd yr eira mawr dy' ni ddim wedi cael ond well i ganslo rhag ofn y tywydd."
Er hyn dywedodd bod ei phlant wedi "mwynhau gweld yr eira" ac mae yna "ddigon i wneud dyn eira."
Wrth i awyr fwynach symud tua'r gogledd, fe allai'r eira droi'n law rhewllyd mewn mannau, ac mae'n bosib y gallai'r eira ddechrau dadmer yn gymharol gyflym.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cynghori pobl i aros adref tra bod y rhybudd mewn grym os yn bosib.
Mewn datganiad, dywedodd y corff ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar ôl ein hunain a'n hanwyliaid, yn enwedig pobl mewn oed.
Yn dilyn trafferthion mawr gyda chyflenwadau trydan ar ôl i Storm Darragh daro Cymru rai wythnosau yn ôl, mae National Grid yn dweud eu bod nhw wedi bod yn paratoi eu systemau ar gyfer tywydd garw posib.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Tra bod ein rhwydwaith ni'n ddibynadwy iawn, fe allai'r tywydd dros y penwythnos achosi trafferthion mewn rhai mannau ac mae ein gweithwyr yn barod i ymateb ac adfer cyfenwadau pe bai angen."
Ni ddylai bobl deithio dros y penwythnos os nad oes angen, meddai Tom Jones, arbenigwr diogelwch y ffyrdd.
Ond os oes rhaid teithio yn y tywydd garw, mae Mr Jones yn cynghori pobl i aros ar y priffyrdd ac i osgoi lonydd cefn fydd bosib heb eu graeanu.
Dylai pobl wneud siŵr bod eu cerbydau yn saff cyn cychwyn, meddai, gan wirio'r goleuadau, teiars, a'r petrol, disel, neu drydan sydd ganddyn nhw i ddefnyddio.
Ychwanegodd: "Mae wyneb y ffyrdd yn wlyb fel ma' hi ac os neith hi rewi ma' hi am fod yn llithrig ofnadwy.
"Mae'n syniad troi'r radio reit i lawr i glywed sŵn y teiar ar y ffordd achos unwaith 'da chi'n mynd ar rew mae sŵn y teiar yn diflannu ac mae'n mynd yn ddistaw.
"Os ydych chi ddim yn clywed sŵn y teiar ar y ffordd 'da chi'n gwybod bod chi'n rhedeg ar rew ac mae angen bod yn esmwyth iawn gyda'r llyw a thrio peidio brecio, gadael yr injan i frecio."