Plentyn, 5, fu farw yng Ngroeg wedi boddi ar ddamwain - crwner

Dywedodd mam Theo Treharne-Jones nad oedd yn synhwyro perygl
- Cyhoeddwyd
Roedd plentyn pump oed a fu farw ar wyliau teulu yng Ngwlad Groeg wedi boddi ar ddamwain, yn ôl casgliad crwner.
Cafodd Theo Treharne-Jones o Ferthyr Tudful ei ganfod mewn pwll nofio gwesty ar ynys Kos ar 15 Mehefin 2019.
Daeth y crwner cynorthwyol, Gavin Knox, i'r casgliad bod ei farwolaeth yn ddamweiniol.
Clywodd y cwest fod Theo, a oedd wedi cael diagnosis o syndrom Smith-Magenis, yn dangos "ymddygiad awtistig" a oedd yn golygu ei fod yn aml yn codi ganol nos ac nid oedd yn "synhwyro perygl".

Clywodd y cwest ym Mhontypridd bod Theo yn y dŵr am gyfnod o rhwng dau a phum munud
Er i'w deulu osod rhwystrau o flaen drws eu hystafell westy, gan gynnwys dau goets a chês dillad, fe lwyddodd i ddianc.
Fe ddaethon nhw o hyd iddo yn y bore wyneb i lawr ym mhwll nofio'r gwesty.
Er gwaethaf ymdrechion pobl eraill oedd yn aros yn y gwesty ac aelodau'r staff i'w adfywio, cyhoeddwyd ei fod wedi marw ar ôl cyrraedd yr ysbyty.
Dywedodd mam Theo, Nina Treharne, wrth y cwest fod gan eu hystafell glo drws gwesty arferol.
Ond pan arhoson nhw yn y gwesty'n flaenorol, mewn ystafell arall, roedd gan y drws gadwyn cloi.

Fe wnaeth Libby Jones o TUI roi tystiolaeth i'r cwest
Yn dilyn marwolaeth Theo, dywedodd Rheolwr Cyffredinol Iechyd a Diogelwch Tramor cwmni TUI, Libby Jones, fod y cwmni trefnu teithiau wedi ystyried a oedd yn ymarferol gosod cadwyni drws ar bob ystafellyn y gwesty.
Dywedodd ei fod yn cael ei ystyried yn ormod o risg tân.
"Doedden ni ddim eisiau i bobl straffaglu yn y tywyllwch mewn ystafell a allai fod yn llawn mwg wrth iddyn nhw geisio agor clo," meddai, gan ychwanegu: "Fe wnaethon ni ystyried y peth, ond fe benderfynon ni beidio â gwneud hynny".

Mae gwesty'r Atlantica Holiday Village ar ynys Kos yng Ngroeg
Fe gyhoeddodd y crwner adroddiad am atal marwolaethau yn y dyfodol fydd yn cael ei anfon at TUI a chymdeithas asiantau teithio Prydain.
"Rwy'n dal i bryderu bod teuluoedd â phlant neu oedolion agored i niwed yn dal i fod mewn sefyllfa lle gallai rhywun adael eu hystafell heb oruchwyliaeth a wynebu nifer o sefyllfaoedd sy'n beryglus," meddai Gavin Knox.
Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio y byddan nhw'n ystyried ailedrych ar y mater o gyflwyno cadwyni drysau.
Aeth ymlaen i dalu teyrnged i'r rhai a helpodd i geisio adfywio Theo gan fynegi ei gydymdeimlad â rhieni'r bachgen.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019