Teyrnged i 'fam gariadus' 33 oed wedi gwrthdrawiad A40

Bu farw Jodie Amanda James yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i fam 33 oed yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ddiwedd Awst.
Bu farw Jodie Amanda James yn yr ysbyty ar ôl iddi gael ei hanafu wrth seiclo ar yr A40 yn Llanddewi Felffre, Sir Benfro ar 22 Awst.
Dywedodd ei theulu ei bod hi'n "fam gariadus i Kaleb" ac yn "ysbrydoliaeth, yn berson arbennig iawn" i weddill ei theulu.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad, ar ôl i ddyn 33 oed gael ei arestio mewn cysylltiad â'r gwrthdrawiad.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus a gyrru cerbyd anaddas.
Mae swyddogion eisiau clywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar yr A40 yn ardal Llanddewi Felffre am tua 08:00 ar ddydd Gwener 22 Awst, neu sydd â lluniau dash-cam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst