Tri dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a lori

Roedd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad am oriau cyn ailagor fore Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad angheuol a ddigwyddodd toc cyn 17:00 ddydd Mawrth ar yr A48 yn Nhresimwn.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys dau gerbyd - Ford Puma glas a lori Scania coch a du.
Yn dilyn y gwrthdrawiad, bu farw dyn 34 oed o Ben-y-bont, dyn 48 oed o Lynrhedynog a dyn 51 oed o Borthcawl.

Roedd y draffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad am oriau ac mae swyddogion yr heddlu yn diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.
'Peryglus iawn'
Dywedodd Tony Young, sy'n byw ger yr A48 yn Nhair Onen, bod y man ble ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn "beryglus" gyda'r traffig yn symud yn "llawer rhy gyflym" oherwydd y terfyn cyflymder 60mya.
Mae ceisio croesi'r A48 o Dair Onen i gyrraedd y safle bws hefyd "yn teimlo'n beryglus iawn", meddai.
Dywedodd Emma, a symudodd i Dair Onen y llynedd, fod angen gostwng y terfyn cyflymder i osgoi mwy o wrthdrawiadau.
"Mae gen i ddau o blant ifanc ac mae'r ffordd mor anniogel," meddai.
"Mae gennych chi hefyd safle bws dros y ffordd... sy'n beryglus iawn pan mae ceir yn mynd dros 60 milltir yr awr ac yn aml yn gyflymach."
Galw am adolygiad brys
Mae'r AS dros Ganol De Cymru, Andrew RT Davies, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys i ddiogelwch yr A48 yn yr ardal.
Dywedodd Mr Davies: "Mae'n dorcalonnus mai dyma'r pumed farwolaeth ar y ffordd yma mewn cyfnod mor fyr.
"Rhaid i weinidogion y Senedd gomisiynu adolygiad peirianyddol brys o'r darn hwn o'r ffordd i asesu'r risgiau'n llawn a nodi pa fesurau y gellir eu cymryd i osgoi colli mwy o fywydau.
"Gan fod yr A48 yn rhan o'r rhwydwaith cefnffyrdd, mae gan weinidogion gyfrifoldeb uniongyrchol i sicrhau ei bod yn ddiogel."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r Cyngor yn ymwybodol o wrthdrawiad angheuol a ddigwyddodd ar ran o'r A48 neithiwr (dydd Mawrth).
"Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig a hoffem anfon ein cydymdeimlad diffuant at y teuluoedd dan sylw ar yr adeg anodd hon.
"Mae'r Cyngor yn cynorthwyo'r heddlu gyda'i ymchwiliad parhaus - nad yw wedi nodi unrhyw oblygiadau priffyrdd yn y cyfnod cynnar hwn."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: "Mae'n drasiedi ofnadwy ac rydyn ni'n cydymdeimlo yn arw gyda phawb sydd wedi eu heffeithio.
"Ni fyddai'n addas i ni wneud sylw pellach tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau."