Dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar oedd yn dianc rhag yr heddlu

Llun o Lydia La PollaFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mi fydd ei theulu, ffrindiau, cymdogion a'i chydweithwyr yn gweld ei heisiau" meddai teulu Lydia La Polla

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dynes 47 oed fu farw ar ôl gwrthdrawiad ffordd wedi rhoi teyrnged iddi.

Roedd Lydia La Polla, o Wrecsam, yn teithio mewn car Toyota yn ardal Hightown y ddinas tua 21:30 nos Lun, 24 Mawrth, pan gafodd ei tharo gan gar Mercedes a oedd yn ceisio dianc rhag yr heddlu.

Bu farw yn yr ysbyty ddeuddydd yn ddiweddarach.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu fod ganddi "galon aur a byddai bob amser yno i eraill gyda'i chyfeillgarwch diffuant".

"Roedd hi'n ymroddedig i'w theulu a'i ffrindiau," meddai'r datganiad.

Ychwanegon nhw fod "nos Lun, 24 Mawrth am effeithio arnom ni am weddill ein bywydau. Ni fydd bywyd byth yr un fath hebddi."

Arestio pump

Mae pump o bobl wedi'u harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae ymholiadau'n parhau er mwyn ceisio dod o hyd i un o ddau ddyn a adawodd safle'r gwrthdrawiad.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Sian Beck: "Rydym am fynegi ein cydymdeimlad â theulu Lydia, sydd yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

"Rydym yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod y rhai hynny sy'n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif."

Pynciau cysylltiedig